Neidio i'r prif gynnwy

Meddygfa Heol yr Eglwys Newydd yn agor ei drysau'n swyddogol i gleifion mewn canolfan feddygol newydd o'r radd flaenaf

Mae canolfan feddygol arloesol newydd sbon Meddygfa Heol yr Eglwys Newydd wedi agor ei drysau i gleifion, llai na 200 metr o’i safle blaenorol. Mae’r adeilad newydd, a agorwyd yn swyddogol neithiwr ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig ystafelloedd ymgynghori a chapasiti ychwanegol, ardaloedd triniaeth penodedig, gan gynnwys lle ar gyfer mân lawdriniaethau, derbynfa eang a chyfforddus a fferyllfa ar y safle.

Ar ôl gweithredu am flynyddoedd o dŷ teras tri llawr wedi’i addasu yng nghanol prysurdeb Heol yr Eglwys Newydd, mae adeilad newydd y practis wedi’i adeiladu ar hen Safle Rhandiroedd Rhodfa Sachville.

Gan gefnogi’r practis i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol i’r gymuned, bydd yr adeilad newydd yn rhoi’r lle modern sydd ei angen ar dîm y practis i ehangu’r ystod o wasanaethau y mae’n gallu eu darparu i’w gleifion cofrestredig.

Dywedodd Dr Gareth Lloyd, Uwch Bartner, Meddygfa Heol yr Eglwys Newydd: “Mae hwn yn gam mawr i’n cleifion a’n staff a bydd yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol mewn adeilad addas sydd â’r capasiti i ateb y galw. Mae’r safle newydd hwn hefyd yn ein galluogi i ymestyn ein capasiti hyfforddi i gefnogi hyfforddiant meddygon y dyfodol, rhywbeth y mae’r feddygfa bob amser wedi’i gefnogi fel practis hyfforddi sefydledig. Mae staff a chleifion eisoes yn elwa ar yr amgylchedd newydd, ac rydym eisoes wedi derbyn adborth hynod gadarnhaol gan gleifion sydd wedi bod i’r practis newydd.”

Mae’r datblygiad hwn wedi bod yn bosibl o ganlyniad i fisoedd o waith rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Meddygfa Heol yr Eglwys Newydd ac Assura plc fel y datblygwr trydydd parti arbenigol a benodwyd a’r Gymdeithas Rhandiroedd leol – Cymdeithas Rhandiroedd Rhodfa Flaxland.

Bydd y datblygiad newydd yn cefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru i gryfhau ac ehangu argaeledd gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol a chanolradd lleol yn nes at y cartref ac allan o’r ysbyty, thema a adleisir yn strategaeth 10 mlynedd Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol y Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Dr Anna Kuczynska, Cyfarwyddwr y Bwrdd Clinigol ar gyfer Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolradd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae’n wych gweld Meddygfa Heol yr Eglwys Newydd yn croesawu cleifion i’w phractis newydd, mwy hygyrch. Mae’r tîm wedi darparu gofal rhagorol i gleifion a bydd y practis newydd hwn yn parhau i adeiladu ar y gwasanaethau a ddarperir i’r gymuned gyda chyfleusterau sy’n barod ar gyfer dyfodol Gofal Sylfaenol yng Nghaerdydd.”

Fel rhan o’r cynllun, mae Assura – yr arbenigwr ar safleoedd gofal iechyd sy’n arwain y prosiect – hefyd yn cwblhau gwaith i drosi tir rhandir halogedig cyfagos yn 40 rhandir newydd, a fydd yn cynyddu’r gofod tyfu a garddio sydd ar gael i’r gymuned leol i raddau helaeth.

Dywedodd John Deering o Gymdeithas Rhandiroedd Rhodfa Flaxland: “Rydym yn hapus iawn i fod yn gysylltiedig â’r datblygiad hwn, gan y bydd yn darparu cyfleusterau iechyd rhagorol i’r gymuned a bydd y tir wedi’i adfer yn arwain at gynnydd net sylweddol yn nifer y rhandiroedd y gellir eu gosod i drigolion lleol.”

Dywedodd Andrew Cooper, Cyfarwyddwr Datblygu Assura: “Rydym wrth ein bodd yn gweld y prosiect hwn yn cael ei gwblhau ac yn gweld y feddygfa yn dechrau croesawu cleifion i’w practis meddyg teulu newydd. Gwnaed y prosiect hwn hyd yn oed yn fwy arbennig gan ein bod nid yn unig yn creu mwy o le ffisegol ar gyfer darparu gofal, ond hefyd gofod awyr agored er budd iechyd drwy arddio a thyfu.”

Adeiladwyd y ganolfan feddygol newydd gan J Projects ac mae bellach ar agor i gleifion.

Dilynwch ni