Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cael gwybod y bydd Gwasanaethau Meddygon Teulu ym Meddygfa Corporation Road yn Butetown, Caerdydd yn dod i ben ddydd Gwener, 29 Awst 2025.
Ar ôl llawer o feddwl ac ystyriaeth, mae'r Practis wedi gwneud y penderfyniad anodd i roi rhybudd i'r Bwrdd Iechyd y byddant yn rhoi eu contract GMS yn ôl.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn achosi pryder i gleifion a'r gymuned leol ond rydym yn gweithio'n galed i ddod o hyd i ateb i gynnal gwasanaethau ar gyfer cleifion Meddygfa Corporation Road.
Ein ffocws yw sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n agosach at y cartref ac, ar y cyd â'n rhanddeiliaid, byddwn yn canfod ffordd ymlaen i sicrhau bod gwasanaethau meddygon teulu yn cael eu darparu yn y dyfodol i bob claf presennol.
Bydd cleifion yn parhau i dderbyn gofal iechyd priodol ym Meddygfa Corporation Road hyd at, ac yn cynnwys dydd Gwener, 29 Awst 2025. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned leol am sut y bydd gofal iechyd yn cael ei ddarparu yn y dyfodol, wrth i ni geisio dod o hyd i ddatrysiad.
Hoffai’r Bwrdd Iechyd ddiolch i’r gymuned am eu hamynedd yn ystod yr adeg hon, a gallwn sicrhau cleifion ein bod yn ymrwymedig i ddatrys hyn er mwyn diwallu anghenion gofal iechyd y boblogaeth leol.