Dylai sefydliadau’r sector cyhoeddus fabwysiadu defnydd “teg, cynaliadwy a thryloyw” o adnoddau i gyflawni canlyniadau gwell i’r bobl y maent yn eu gwasanaethu.
Dyna neges Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Fiona Kinghorn, sydd wedi canolbwyntio ar fanteision dull sy’n ‘seiliedig ar werth’ yn ei hadroddiad blynyddol diweddaraf.
Yn seiliedig ar amgylchiadau economaidd presennol ac yn y dyfodol, pwysleisiodd ei bod yn hanfodol bod pob gwasanaeth cyhoeddus a chorff yn gallu dangos y defnydd gorau o arian cyhoeddus i ddiwallu anghenion eu cymunedau, a mesur y gwahaniaeth y maent yn ei wneud dros amser.
Dywedodd fod y cysyniad o ddull sy’n seiliedig ar werth yn un a all helpu yn hyn o beth. Yn gryno, mae dull sy’n seiliedig ar werth yn helpu i sicrhau y bydd popeth y mae sefydliadau cyhoeddus yn ei fuddsoddi – o ran amser ac arian – yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol i’r bobl y maent yn eu gwasanaethu.
“Mae gwerth yn ystyried yr hyn sydd bwysicaf i bobl,” meddai Fiona. “Wrth ystyried gwerth, nid y gweithwyr proffesiynol sy’n dylunio ac yn darparu’r gwasanaethau yw’r ‘arbenigwyr’ yn unig, ond pobl leol sy’n profi gwasanaethau.
“Mae mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar werth yn golygu symud oddi wrth y darparwyr gwasanaethau yn penderfynu beth sydd bwysicaf, i ddarganfod beth sy’n bwysig i bobl.”
Eglurodd, drwy roi gwerth wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, fod angen i sefydliadau ailfeddwl sut y caiff gwasanaethau eu darparu gyda’r nod o ychwanegu gwerth ar bob cam.
“Gellir meddwl am hyn ar raddfa fach, er enghraifft tîm o fewn y sector cyhoeddus yn cytuno ar sut mae’r gyllideb yn cael ei gwario i ychwanegu’r gwerth mwyaf ac, ar ben arall y sbectrwm, partneriaethau strategol (megis y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol neu’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus) yn cytuno â sefydliadau ar y cyd ble sydd orau i wario’r arian i gael y gwerth mwyaf i bobl leol.”
Mae’r cysyniad o Ddull sy’n seiliedig ar Werth wedi’i rannu’n bum adran yn yr adroddiad:
Dywedodd Fiona y gall gwasanaethau cyhoeddus gyflawni dull sy’n seiliedig ar werth drwy roi mwy o ffocws ar atal, cynnwys pobl mewn penderfyniadau a chael adborth ar eu profiadau a’u canlyniadau.
Ychwanegodd: “Mae dull sy’n seiliedig ar werth yn ymwneud â mesur canlyniadau sydd o bwys i bobl mewn ffordd sy’n gyson ac yn gymaradwy – fel y gallwn nodi pa wasanaethau sy’n darparu’r gwerth mwyaf.
“Yna, mae angen i ni edrych ar faint mae pob gwasanaeth yn ei gostio yn ariannol ac o ran adnoddau (e.e. staffio), ac ansawdd y profiad i’r defnyddiwr. Mantais dull sy’n seiliedig ar werth yw ei fod yn ystyried y canlyniadau y mae pobl yn eu cael o’u rhyngweithio â gwasanaeth; ansawdd y gwasanaeth a chost y gwasanaeth yn ei gyfanrwydd, yn hytrach na dim ond mesur un ffactor yn annibynnol.”
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y pedwar prif fath o werth - a elwir y “pedair colofn”:
Dywedodd Fiona y dylid mabwysiadu’r adnoddau hyn fel arfer safonol drwy’r sector cyhoeddus i ysgogi newid sy’n cydnabod tair elfen ar yr un pryd: ansawdd, cost a chanlyniadau sy’n bwysig i bobl.
“Mae angen i ni ail-feddwl sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu, gan ychwanegu gwerth ar bob cam,” meddai. I ddarllen yr adroddiad yn llawn, ewch i Cyhoeddiadau Allweddol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Gallwch wylio animeiddiad defnyddiol ar y Dull sy’n seiliedig ar Werth yma: Sicrhau canlyniadau gwell i bobl drwy ddull gweithredu sy'n seiliedig ar werth