Bydd newidiadau i'r Fframwaith CHC Cenedlaethol yn dod i rym ar 1 Ebrill 2022.
Ar ôl adolygu Fframwaith CHC 2014 a'r Offeryn Cefnogi Penderfyniadau (DST) yn 2021 ysgrifennwyd dogfen ddiwygiedig a daw i rym fis nesaf.
I ddechrau, bwriadwyd i’r Fframwaith CHC a'r DST a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2021 ddod i rym ym mis Tachwedd 2021 ond oherwydd pwysau o fewn y sector, fe'i gohiriwyd tan 1 Ebrill 2022.
Mae'r polisi'n nodi'r trefniadau ar gyfer darparu Gofal Iechyd Parhaus (CHC) y GIG yng Nghymru yn effeithiol ac yn effeithlon.
Mae'n nodi'r broses ar gyfer y GIG, gan gydweithio â phartneriaid awdurdodau lleol, i asesu anghenion iechyd, penderfynu ar gymhwystra ar gyfer CHC a darparu gofal priodol.
Diben y Fframwaith yw darparu sylfaen gyson ar gyfer asesu, comisiynu a darparu CHC i oedolion ledled Cymru. Mae'n ofynnol i staff y Byrddau Iechyd fod yn ymwybodol o'r fframwaith newydd a sut i gymhwyso hyn yn ymarferol.
Cynhelir dyddiadau hyfforddi ar gyfer staff a bydd manylion a dyddiadau'r rhain yn dilyn.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Swyddfeydd Ardal Gogledd Cymru ar 029 2183 2546 (Est 325461).
17/03/2022