Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n Fis Ymwybyddiaeth Canser Plant ac mae Elusen Canser Plant Cymru LATCH yn nodi ei phen-blwydd yn 40 oed

Mae Mis Ymwybyddiaeth Canser Plant eleni yn arbennig o arwyddocaol i Elusen Canser Plant Cymru LATCH gan ei bod yn dathlu ei 40fed flwyddyn o gefnogi plant sydd wedi cael diagnosis o ganser ac yn lansio ei hymgyrch newydd £ 40k am 40 mlynedd. 

Sefydlwyd LATCH ddeugain mlynedd yn ôl yn 1983 gan grŵp o deuluoedd a ffrindiau a oedd yn cydnabod bod plant sydd wedi cael diagnosis o ganser neu lewcemia a'u teuluoedd nid yn unig angen cymorth meddygol ond hefyd cymorth ymarferol, emosiynol ac ariannol i ysgafnhau'r baich y maent yn ei wynebu. 

Mae'r elusen yn cefnogi cannoedd o blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ledled Cymru bob blwyddyn sy'n cael eu trin yn yr Uned Oncoleg Bediatrig yn Ysbyty Plant Cymru. Mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae LATCH hefyd yn cefnogi'r Uned Oncoleg Bediatrig drwy ariannu offer meddygol ac ystod o brosiectau clinigol, cyfalaf ac ymchwil.  

Ers ei lansio bedwar degawd yn ôl, mae'r elusen o Gymru wedi darparu mwy na £15 miliwn o wasanaethau cymorth am ddim. 

Mae LATCH yn darparu: 

  • Tîm o weithwyr cymdeithasol sy'n eirioli ac yn darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i blant a'u teuluoedd o’r adeg y ceir diagnosis. 

  • Llety am ddim i’r teulu ar yr un safle â'r Ward Cleifion Mewnol Oncoleg Bediatrig yn Ysbyty Plant Cymru i sicrhau bod plant yn cael eu teuluoedd yn agos wrth dderbyn triniaeth.  

  • Grantiau ariannol i gefnogi teuluoedd gyda'r costau annisgwyl y maent yn eu hwynebu wrth ofalu am blentyn â chanser. 

  • Digwyddiadau a gweithgareddau i'r teulu cyfan eu mwynhau a chyfle i deuluoedd gael gwyliau mewn carafán glan môr. 

  • Cyllid ar gyfer ymchwil glinigol sy'n canolbwyntio ar ganserau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc. 

Dywedodd Menai Owen-Jones, Prif Weithredwr LATCH: “Mae LATCH yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddarparu cefnogaeth gyfannol i blant a theuluoedd o dan ofal yr Uned Oncoleg Bediatrig.  

Heddiw mae’r elusen, ar gyfartaledd, yn helpu 120 o deuluoedd ar y tro. Dros y 40 mlynedd diwethaf rydym wedi cefnogi miloedd o deuluoedd yng Nghymru drwy eu dyddiau anoddaf. 

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb sydd wedi cyfrannu at yr elusen dros y deugain mlynedd diwethaf, am eu hymrwymiad a'u cefnogaeth ddi-ffael. Er ein bod yn nodi'r 40 mlynedd diwethaf, rydym yn edrych ymlaen at sut y gallwn barhau i ddatblygu'r gefnogaeth a gynigiwn i deuluoedd a helpu i wella canlyniadau i blant sydd wedi cael diagnosis o ganser.” 

Mae LATCH eisoes wedi dechrau dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed gyda chleifion a'u teuluoedd yr haf hwn ac mae sawl digwyddiad a gweithgaredd ar y gweill dros yr ychydig fisoedd nesaf.  Yn gynharach eleni, penododd LATCH ei noddwyr cyntaf hefyd, gan gynnwys yr Athro Meriel Jenney, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, i nodi ei blwyddyn arwyddocaol.  

Y mis hwn mae LATCH yn lansio ei hymgyrch newydd £40k am 40 mlynedd ac mae'n annog cefnogwyr i gymryd rhan trwy gyfrannu, ymgymryd â gweithgaredd codi arian neu her â thema 40, fel rhedeg 40 milltir neu roi £40. Mae'r elusen yn gobeithio codi cyfanswm o £40,000 o'r ymgyrch a fydd yn mynd tuag at helpu'r elusen i wella ei llety i deuluoedd, cyfleusterau carafanau gwyliau a'i gwasanaethau cefnogi teuluoedd.  

I gael gwybod mwy am LATCH neu i gymryd rhan yn ei gweithgareddau £40k am 40 mlynedd, ewch i latchwales.org

Gallwch gyfrannu'n uniongyrchol i LATCH, drwy'r ddolen hon latchwales.org/support-us/make-a-donation-to-latch. Defnyddiwch y cyfeirnod '40kfor40th', wrth gyfrannu. 

Oeddech chi’n gwybod? 

  • Canser yw prif achos marwolaeth plant 1-14 oed yn y DU a gall goroeswyr wynebu oes o broblemau iechyd difrifol o ganlyniad i'r triniaethau dwys a ddefnyddir i drin eu canser. 

  • Mae cyfraddau canser plant yn codi tua 15% y flwyddyn. 

  • Mae tua 10 o blant a phobl ifanc yn cael diagnosis o ganser bob dydd yn y DU. 

  • Mae tua 80 diagnosis canser pediatrig newydd yn Ne Cymru bob blwyddyn. 

  • Hanner can mlynedd yn ôl, bu farw tri chwarter y plant a gafodd ddiagnosis o ganser; heddiw mae mwy na thri chwarter yn goroesi am bum mlynedd neu fwy. 

  • Mae tua £20 miliwn wedi’i godi ar gyfer LATCH gan y cyhoedd drwy roddion a gweithgareddau codi arian dros ddeugain mlynedd. 

  • Mae LATCH wedi darparu dros £5 miliwn i deuluoedd fel grantiau ariannol uniongyrchol dros y deugain mlynedd diwethaf. 

#40kfor40th #misymwybyddiaethcanserplant 

Dilynwch ni