14 Mai 2025
Pan oedd Charles Gibbs yn agosáu at ei 30au, dechreuodd sylwi ar newidiadau bach ond arwyddocaol yn ei iechyd corfforol.
Wrth gerdded ei gŵn, byddai'r tad i ddau o blant weithiau'n cwympo heb rybudd pan fyddai ei ben-glin yn rhoi'r gorau iddi. Byddai hefyd yn debygol o "sefyll yn syth" i wneud iawn am y ffaith bod cyhyrau ei gefn yn gwanhau’n gynyddol.
Ar ôl gweld ei feddyg teulu a chael amryw brofion, cafodd ddiagnosis o nychdod cyhyrol gwregys yr aelodau (LGMD), anhwylder genetig sy'n datblygu’n gynyddol ac yn achosi gwendid a dirywiad yn y cyhyrau.
“Roedd yn rhyddhad cael gwybod beth oedd yn achosi’r broblem,” cyfaddefodd Charles, sydd bellach yn 68 oed, o bentref Creigiau, Caerdydd. “Roeddwn i’n ffodus mewn rhai ffyrdd oherwydd, erbyn i mi gael diagnosis, roeddwn i eisoes wedi gallu chwarae pêl-droed gyda fy mab ac wedi gwneud llawer iawn o bethau y mae’r rhan fwyaf o rieni’n eu gwneud gyda’u plant.”
Gwelodd Charles, yr oedd ei fam hefyd yn dioddef o MD, ei symudedd yn dirywio'n raddol dros y pedwar degawd nesaf i'r pwynt lle daeth yn ddibynnol ar gadair olwyn a byddai angen help arno gyda thasgau bob dydd fel gwisgo.
Ychwanegodd: “I grynhoi nychdod cyhyrol, mae popeth yn drwm. Mae'n teimlo fel bod gen i fagiau tywod wedi'u clymu wrth fy mreichiau a'm coesau drwy'r amser.
“Ond mae fy ngwraig, Julie, yn gofalu amdanaf yn dda iawn, ac rwyf bob amser yn cyfrif fy mendithion.”
Pan symudodd Canolfan Adsefydlu’r Asgwrn Cefn a Niwroadsefydlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro o Ysbyty Rookwood yn Llandaf i Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl) ddwy flynedd yn ôl, cafodd ei huwchraddio'n sylweddol.
Un o'r buddsoddiadau mwyaf trawiadol oedd pwll hydrotherapi o'r radd flaenaf a ddefnyddir gan gleifion mewnol a chleifion allanol ag amrywiaeth o gyflyrau niwrolegol, gan gynnwys clefydau niwrogyhyrol a'r rhai ag anableddau dysgu.
Mae gan y pwll fynediad grisiau gyda chanllawiau, teclyn codi o’r nenfwd a chadair hygyrch i drosglwyddo cleifion i mewn ac allan o'r pwll yn ddiogel. Mae gan Dîm Ffisiotherapi Niwrogyhyrol i Oedolion De-ddwyrain Cymru sesiwn ddynodedig yn y pwll i gefnogi pobl â chlefyd niwrogyhyrol ac maent yn cynghori ar symudiadau addas, ymarferion cryfhau, ymestyn a nofio.
Ers ymweld â'r pwll wedi'i gynhesu am sesiynau wythnosol, mae Charles, sy'n ddad-cu i ddau o blant, yn credu bod "blynyddoedd" wedi’u cymryd oddi ar ddatblygiad ei nychdod cyhyrol.
“Pan gefais fy sesiwn gyntaf, gadawodd y ffisiotherapydd i mi wneud beth bynnag yr oeddwn yn gyfforddus yn ei wneud er mwyn i mi allu gweld pa mor hyderus oeddwn yn y dŵr. Yna symudon ni ymlaen i raglen o ymestyniadau ac ymarferion.
“Roedd gwaed yn rhedeg drwy rannau o fy nghorff nad oeddent, i bob golwg, wedi cael gwaed ers blynyddoedd!”, jôciodd Charles. “Roedd yn brofiad rhyfeddol – roeddwn i wedi anghofio pa mor dda oedd [nofio].
“Ar ôl fy sesiynau, rydw i bob amser yn teimlo'n fwy ystwyth o lawer. Gallaf wneud pethau'n gymharol ddiymdrech o'i gymharu â sut oedd hi o'r blaen. Dwi wastad yn teimlo’n dda iawn am gwpl o ddiwrnodau wedyn yn sicr.”
Dywed: “Mae rheoli anabledd yn golygu gorfod cynnal hunan-barch yn gyson a bod ag awydd i 'fod fel pobl eraill'. Mae effeithiau'r sesiynau hydrotherapi yn cyfrannu llawer at y ddau darged hynny.”
Dywedodd gwraig Charles, Julie Gibbs, ei bod wedi sylwi ar welliannau yn lles ei gŵr ers dechrau'r sesiynau hydrotherapi yn YALl. “Mae gan Charles drefn ymarfer corff gartref, ac ar ôl bod yn y pwll mae'n ei chael hi'n llawer haws eu gwneud. Mae'n ei ymlacio go iawn.
“O ystyried mai dim ond am tua 45 munud y mae yn y pwll, mae'r effaith arno yn rhyfeddol. Roedd ei weld bron yn gallu sefyll i fyny [yn y pwll] am y tro cyntaf ers 12 mlynedd yn emosiynol iawn i ni i gyd.
“Mae’r positifrwydd rydyn ni’n ei weld gan y tîm hydrotherapi yn enfawr. Mae cynhesrwydd a chyfeillgarwch rhyngddynt sy'n wych.”
Mae Tîm Niwrogyhyrol i Oedolion De-ddwyrain Cymru yn YALl yn cynnwys meddyg ymgynghorol, arbenigwyr nyrsio clinigol a ffisiotherapyddion arbenigol. Gellir cynnig cwrs byr o sesiynau hydrotherapi i gleifion sydd â chlefydau niwrogyhyrol wedi'u cadarnhau neu yr amheuir bod ganddynt glefydau niworgyhyrol, o bob cwr o Dde-ddwyrain Cymru sy'n debygol o elwa ar hydrotherapi.
Dywedodd Hayley Davis, Ffisiotherapydd Niwrogyhyrol Arbenigol ar gyfer De-ddwyrain Cymru: “Mae’n wych gweld Charles yn y dŵr, yn symud mor rhydd ac yn elwa’n fawr ar y gwasanaeth rydyn ni’n ei gynnig. Mae'n swydd werth chweil iawn, ac mae'n emosiynol iawn pan gawn adborth rhagorol gan ein cleifion.
“Mae hydrotherapi yn darparu math o ymarfer corff cardiofasgwlaidd sy’n golygu bod cleifion yn gallu defnyddio cyhyrau'n fwy egnïol, gan gael effaith gadarnhaol ar y system resbiradol a'r galon, sef organau y mae clefyd niwrogyhyrol fel arfer yn effeithio arnynt.”
Yn ogystal, mae Gwasanaeth Niwrogyhyrol i Oedolion De-ddwyrain Cymru hefyd yn cynnal grŵp cymorth unwaith y mis yn YALl i bobl â chlefydau niwrogyhyrol i roi cyfle iddynt rannu eu profiadau a'u cyngor â'i gilydd. Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth a ddarperir i'r rhai sydd â chlefyd niwrogyhyrol, cysylltwch â Gwasanaeth Niwrogyhyrol i Oedolion De-ddwyrain Cymru ar 02921 824709.