Neidio i'r prif gynnwy

'Mae Saving Lives in Cardiff yn rhoi mewnwelediad unigryw i bawb' | Gwyliwch bennod 5 ar ddydd Mawrth 17 Medi

13.09.2024

Bydd pennod pump o Saving Lives in Cardiff yn cael ei darlledu ar BBC One Wales a BBC Two ddydd Mawrth 17 Medi — yn cyflwyno tri llawfeddyg anhygoel arall a’u timau.

Fel llawfeddyg thorasig ymgynghorol, mae’r rhan fwyaf o lwyth gwaith Mr Tom Combellack yn ymwneud â chleifion canser yr ysgyfaint.

Dywedodd Tom: “Un o’r pethau trist am ganser yr ysgyfaint yw bod gennych chi lawer o gleifion yn dod trwy ein tîm amlddisgyblaethol, ond nid oes gan dri chwarter ohonynt yr opsiwn o gael eu trin na’u gwella gan eu bod yn tueddu i ddangos symptomau’n weddol hwyr. Fodd bynnag, mae yna gyfle i gynnig llawdriniaeth wellhaol i nifer ddethol o gleifion — weithiau mae hynny ar y cyd â thriniaethau eraill megis cemotherapi a chyffuriau gwrth-ganser.

“Mae mor bwysig bod yr is-set fach hon o gleifion yn cael llawdriniaethau o ansawdd da er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddynt gael canlyniad cadarnhaol.”

Yn y bennod, mae Tom wedi rhoi blaenoriaeth i Jan, 72 oed, ar ôl i sgan ddangos ardal amheus ar ei hysgyfaint a allai fod yn ganseraidd.

Eglurodd Tom: “I ddechrau, dim ond nodwl bach oedd gan Jan a oedd yn cael ei ystyried yn amhendant, ond yna mewn apwyntiad dilynol gallem weld ei fod wedi tyfu. Roedd mewn ardal anodd i gynnal biopsi gan ei fod yn agos iawn at ei chalon.”

 
 

Yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, mae Tom yn defnyddio technegau twll clo a chamera i gymryd y biopsi ac osgoi niweidio calon Jan. Tra ei bod wedi’i hanestheteiddio, mae’r sampl yn cael ei anfon ar frys i’r labordy patholeg yn Ysbyty Athrofaol Cymru i gael diagnosis.

Pan ofynnwyd iddo am elfennau mwyaf gwerth chweil ei swydd, dywedodd Tom: “Gobeithio fy mod yn chwarae rhan gadarnhaol iawn yn nhaith y claf. Un o rannau gorau fy swydd yw dweud wrth rywun nad oes ganddyn nhw ganser, neu fy mod i wedi cael gwared ar y canser. Mae hynny’n rhoi boddhad mawr ac yn gymaint o ryddhad i’r claf a’u teuluoedd ar ôl yr holl boeni.”

Bu Tom yn canmol y tîm “gwych” sy’n gweithio o’i amgylch, gan ddweud: “Mae’n debyg bod tua 30 o bobl yn y gadwyn hon sy’n gofalu am y claf wrth iddo ddod drwy’r system. Rydyn ni’n rhoi rhywfaint o’r gofal tra arbenigol o’r ansawdd gorau iddynt yng Nghymru.”

Dywedodd Tom fod Saving Lives in Cardiff yn llwyfan gwych i arddangos gwaith llawfeddygon thorasig o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

“Ar y cyfan, roedd yn brofiad cadarnhaol iawn i mi,” meddai. “Mae ein holl waith yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig. Nid yw’r cleifion rydyn ni wedi’u trin yn y gorffennol hyd yn oed yn gwybod beth sy’n digwydd ar ôl iddynt gael eu rhoi i gysgu. Mae Saving Lives yn rhoi mewnwelediad unigryw i bawb.”

Yn y bumed bennod o Saving Lives in Cardiff, rydym hefyd yn cwrdd â’r llawfeddyg wroleg pediatrig Ms Selena Curkovic sy’n helpu Barney, sy’n wyth oed ac wrth ei fodd â chwaraeon, i ddychwelyd i wneud y gweithgareddau y mae’n eu caru.

Gwnaeth Selena, sy’n wreiddiol o Groatia, gwrdd â Barney am y tro cyntaf pan symudodd i Gaerdydd o Ysbyty Plant Birmingham yn 2019 i ddechrau swydd Meddyg Ymgynghorol locwm yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru. Mae hi wedi bod yn Arweinydd Clinigol ar gyfer yr Adran Llawfeddygaeth Bediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru ers pedair blynedd.

Cyn i Barney gael ei eni, cafodd ei rieni Sam ac Owen y newyddion torcalonnus nad oedd ei arennau a’i bledren yn gweithio’n iawn, a bod eu mab yn annhebygol o oroesi mwy nag ychydig funudau ar ôl ei eni.

Ar ôl cyfres o lawdriniaethau brys yn ystod wythnos gyntaf ei fywyd, achubwyd unig aren weithredol Barney a gwnaed agoriad yn wal ei abdomen i ddraenio ei wrin trwy fesicostomi i mewn i gewyn. Nid oedd hwn i fod yn ateb hirdymor ac wrth i amser fynd rhagddo, mae’r stoma wedi dechrau gollwng.

Dywedodd Selena Curkovic, sy’n is-arbenigo mewn Wroleg Bediatrig ac sydd â diddordeb arbennig mewn pledrennau niwropathig a llawdriniaeth adlunio: “Mae Barney yn fachgen bach stoic iawn ac roedd wedi bod yn aros ers amser hir am lawdriniaeth a fyddai’n golygu ei fod yn gallu dal dŵr.”

Mae Barney, sy’n gefnogwr rygbi, wedi bod yn aros pum mlynedd am lawdriniaeth ar y bledren a fyddai’n newid ei fywyd ac mae’n teimlo bod ei fywyd yn aros yn ei unfan nes y gall gael gwared ar ei fag.

 

“Caewyd y twll yn ei bledren yn ystod y llawdriniaeth a, chan ddefnyddio ei bendics, rwyf wedi cysylltu ei bledren â’i fotwm bol er mwyn iddo allu hunan-gatheteiddio,” meddai Selena. “Aeth llawdriniaeth Barney yn dda iawn ac mae’n gwneud y pethau mae’n eu mwynhau fel chwarae rygbi.

“Mae’n syfrdanol bod gennym ni’r sgiliau i newid bywyd rhywun. Y rhan orau o’r swydd yw gweld y gwahaniaeth y gallwch chi ei wneud i bobl. Mae popeth a wnawn yn seiliedig ar waith tîm. Ni allem wneud yr hyn a wnawn heb staff y theatr, staff y ward a phawb arall yn y canol.

“Ers i Saving Lives gael ei ffilmio, rydym wedi llwyddo i leihau’r rhestrau aros o 130 i 70 o blant ar hyn o bryd. Mae hwn yn llwyddiant mawr ac eto, ni fyddai’n bosibl heb gymorth y tîm.

“Rydym yn trefnu ein rhestrau ymlaen llaw a phan fydd yn rhaid canslo, mae’n fater o jyglo cyson gyda chleifion. Rydym yn deall bod yn rhaid i bobl drefnu eu hunain, trefnu gofal plant i blant eraill a rheoli eu hymrwymiadau gwaith. Mae’r holl broses o ganslo yn achosi llawer o broblemau ac mae’n eich blino.

“Rwy’n gobeithio y bydd Saving Lives yn dangos i bobl beth rydyn ni’n ei wneud a sut olwg sydd ar ein diwrnod gwaith arferol.”

Yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mae’r llawfeddyg asgwrn cefn Mr Stuart James wedi cymryd perchnogaeth dros ddwy theatr i geisio gweithio ei ffordd drwy ei restr o lawdriniaethau dewisol, ond mae mewnlifiad o achosion brys dros nos yn fygythiad i’w gynlluniau. Rhaid iddo wneud y penderfyniad anodd ynghylch pwy i’w flaenoriaethu.

“Dydw i ddim yn berfformiwr naturiol ond mae gadael camerâu i mewn i’r theatrau a dilyn cleifion ar hyd eu taith yn helpu i roi cyd-destun i’r rhestrau aros,” meddai.

“Bob dydd, rydym yn gwneud penderfyniadau anodd ynghylch pwy i’w blaenoriaethu ac yn gorfod cadw cydbwysedd rhwng cleifion a allai fod wedi aros am amser hir iawn, ac a allai fod yn profi poen ac anghysur, ac achosion brys.

“Gall fod yn anodd iawn cyfleu’r neges hon oherwydd mae’r penawdau’n canolbwyntio ar niferoedd ac ystadegau, ond y tu ôl i’r niferoedd hyn mae pobl a llawfeddygon sydd eisiau gwneud y gorau dros eu cleifion. Pan fydd yn rhaid i ni ganslo llawdriniaeth, nid yw byth yn hawdd gan ein bod ni’n gwybod yr effaith y bydd yn ei chael ar y person hwnnw ond mae’n rhaid i ni flaenoriaethu cleifion ar sail eu hangen a’r lefel o frys.”

Gwyliwch Saving Lives in Cardiff ar BBC One Wales a BBC Two am 9pm ddydd Mawrth. Os gwnaethoch chi fethu pennod, gallwch ddal i fyny ar BBC iPlayer nawr. 

Dilynwch ni