Mae ffordd newydd i gael o gofrestru eich diddordeb am le gyda deintydd y GIG.
Bydd y Porth Mynediad Deintyddol, yn darparu llwyfan canolog i Fyrddau Iechyd ddyrannu lleoedd ar gyfer triniaeth ddeintyddol arferol ym mhractisau deintyddol y GIG ledled Cymru.
Mae'r gwasanaeth newydd wedi'i ddylunio a'i adeiladu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru a bydd yn fyw yng Nghaerdydd a’r Fro o 23 Hydref 2024 ac yn cael ei gyflwyno'n genedlaethol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Os oeddech wedi cofrestru gan ddefnyddio rhestr aros Caerdydd a’r Fro yn flaenorol, nid oes angen gwneud ail gais.
Mae eich manylion eisoes wedi'u symud i'r platfform newydd a cysylltir â chi pan fydd lle addas ar gael.
I ddarganfod mwy am y Porth Mynediad Deintyddol ac i gofrestru eich diddordeb ar gyfer deintydd GIG, ewch i'r dudalen we hon.
Os oes gennych ddeintydd arferol a'ch bod yn dioddef poen yn y dannedd, dylech gysylltu â'ch deintydd yn y lle cyntaf. Os nad ydych wedi cofrestru gyda deintydd GIG, ewch i ffoniwch CAF 24/7 ar 0300 10 20 247.