Neidio i'r prif gynnwy

'Mae hi wedi bod yn arwr iechyd gwirioneddol i mi wrth frwydro gyda phedair llawdriniaeth fawr' | Cwrdd ag Arwr Iechyd Mis Gorffennaf

24 Gorffennaf 2025

Mae'r Brif Nyrs Mercedes Musgrove, Nyrs Bractis yng Nghanolfan Feddygol Dinas Powys, wedi ei henwi'n Arwr Iechyd y mis i gydnabod y tosturi a'r gofal eithriadol y mae'n eu dangos i gleifion. 


Am y 25 mlynedd diwethaf, mae Mercedes wedi gweithio fel Nyrs Bractis yn y feddygfa yn Ninas Powys. Cyn hynny, roedd hi'n Nyrs Ardal ledled Penarth, Y Barri, Butetown a Grangetown.

Cafodd Mercedes ei henwebu yn Arwr Iechyd gan Toby Rees-Davies, a gafodd ei ysbrydoli gan y sicrwydd a'r gefnogaeth y dangosodd iddo drwy ddiagnosis anodd.

Ysgrifennodd Toby: “Mae Prif Nyrs Musgrove wedi darparu gofal clwyfau eithriadol i mi dros yr 16 mis diwethaf wrth i fi frwydro gyda phedair llawdriniaeth. Mae hi bob amser yn gwenu, bob amser yn gwneud i chi deimlo'n gyfforddus, bob amser yn gwrando ar eich pryderon a bydd yn gwneud ei gorau glas i'ch helpu a'ch cefnogi. Mae hi bob amser yn mynd y tu hwnt ar gyfer y cleifion yn ei gofal.

“Rwy'n credu y dylai hi gael ei dyfarnu yn Arwr Iechyd gan ei bod hi’n wirioneddol wedi bod yn arwr iechyd i fi wrth i fi frwydro gyda phedair llawdriniaeth fawr oherwydd canser y coluddyn. Allaf i ddim diolch digon iddi am y gofal a'r tosturi y mae hi wedi'i rhoi i fi. Mae hi wedi fy helpu i lywio fy nhaith trwy ddiagnosis a llawdriniaethau.

“Weithiau pan fyddwch chi'n sownd yn y system gofal iechyd rydych chi'n ofni eich bod chi'n dod yn faich ar y gwasanaeth. Ond byddai hi bob amser yn fy sicrhau bod croeso i fi, ac roedd hi bob amser yn hapus i helpu!"

Mae Mercedes yn credu bod y sicrwydd hwn yn rhan hanfodol o'i rôl. Dywedodd: "Rwy'n credu fel nyrs, dylen ni gefnogi ein cleifion ar eu taith iechyd gyda charedigrwydd a thosturi. Rwy’n dwlu ar fod yn gallu rhoi'r gofal ychwanegol hwnnw."

Wrth siarad am ei henwebiad, dywedodd Mercedes: “Roedd hi’n gymaint o sioc. Rydw i wedi gweithio yma 25 mlynedd a byth wedi disgwyl unrhyw beth fel hyn. Rydych chi’n meddwl eich bod chi jyst yn gwneud eich gwaith. Doeddwn i ddim yn ei gredu."

Yn ogystal ag arbenigo mewn rheoli clefydau cronig, mae Mercedes hefyd yn rhedeg clinig babanod, yn darparu gwasanaethau Menywod ac yn mentora myfyrwyr.

"Allwch chi byth fod yn ddiflas. Mae pob diwrnod yn wahanol. Rydw i’n rhan o dîm gwych - nyrsys hyfryd, meddygon, derbynwyr. Allwn i ddim gwneud beth rydw i’n ei wneud heb eu cefnogaeth nhw. Sut gallech chi beidio â hoffi gweithio yma? Rydw i’n gwneud beth rydw i wedi'i hyfforddi i'w wneud, a byddaf i bob amser yn mynd y filltir ychwanegol, dyna fy natur. Rydych chi'n gwisgo'r wisg hon ac mae'n gyfrifoldeb.”

Mae Arwr Iechyd wedi ei noddi’n garedig gan Park Plaza Caerdydd. Fel Arwr Iechyd Mis Gorffennaf, bydd Mercedes yn derbyn cinio dydd Sul i ddau.

Ydych chi'n adnabod aelod o staff sydd wedi mynd gam ymhellach i ddarparu gofal rhagorol? Dywedwch ddiolch trwy eu henwebu fel Arwr Iechyd!

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni