Mae SilverCloud® Cymru, platfform ar-lein sy'n darparu cymorth hunangymorth dan arweiniad yn seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT), yn cael ei hyrwyddo gydag ymgyrch poster ac ymwybyddiaeth mewn banciau bwyd mewn trefi a dinasoedd allweddol yng Nghymru.
Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n rhad ac am ddim gan GIG Cymru. Mae'r rhaglenni sydd ar gael yn cynnwys cefnogaeth i bryderon ariannol, gorbryder, iselder a straen.
Dywedodd Fionnuala Clayton, rheolwr prosiect CBT ar-lein GIG Cymru: "Mae trafferthion ariannol yn un o brif resymau dros broblemau iechyd meddwl, a all yn ei dro effeithio'n negyddol ar y gallu i ennill neu reoli arian. Mae’n allweddol ein bod ni’n torri’r cylch trwy gymorth amserol, ataliol fel SilverCloud, sy’n dysgu offer ymarferol i helpu lliniaru pryderon ariannol a throi meddwl negyddol yn gweithredu cadarnhaol."
Mae Ymchwil gan Sefydliad Iechyd Meddwl yn dangos mai straen ariannol yw’r prif ffactor tu ôl i orbryder yn y DU. Yn y cyfamser, mae astudiaeth gan Sefydliad Polisi Arian ac Iechyd Meddwl yn uwcholeuo’r cyswllt cythreulig rhwng anawsterau ariannol ac iechyd meddwl gwael. Dangosodd yr elusen bod pobl sy’n cael trafferth ariannol 5.5 gwaith yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl. Yn debyg, mae pobl gyda materion iechyd meddwl hirdymor 9.3 gwaith yn fwy tebygol o’i gweld yn anodd yn ariannol.
Liz Davies - Rheolwr Strategol Banc Bwyd Caerdydd - bod materion iechyd meddwl ymhlith un o’r prif resymau dros atgyfeiriadau i'r gwasanaeth. Dywedodd Liz: “Mae bod yn y meddylfryd cywir a bod â galluedd meddyliol yn hanfodol er mwyn gallu delio â phroblemau ariannol. I'r rhan fwyaf o bobl, mae gorfod delio â'r problemau ariannol hynny'n ddigon o straen, ond wrth wynebu problemau iechyd meddwl hefyd gall hyn wneud i'r sefyllfa yma deimlo'n amhosib. Mae croeso mawr i unrhyw gefnogaeth sy'n dal pobl yn gynnar ac yn eu rhoi mewn lle gwell fel y gallant reoli materion mwy ymarferol o ran trafferth ariannol. Byddwn i’n sicr yn cynnwys SilverCloud yn hwn, dwi’n credu ei fod yn wych.”
Mae rhaglen SilverCloud Gofod rhag Pryderon am Arian yn cynnwys modiwlau ar wynebu ofnau ariannol, dod o hyd i ffyrdd newydd o ymdopi â phroblemau ariannol a chadw at gyllideb. Gall unrhyw un yng Nghymru 16+ oed atgyfeirio at SilverCloud am ddim heb weld meddyg teulu neu ymuno â rhestrau aros.
Mae rhaglenni'n cymryd tua 12 wythnos i'w cwblhau ac mae angen ymrwymiad o gyn lleied â 15 munud y dydd, 3-4 gwaith yr wythnos. Caiff cynnydd ei fonitro gan gefnogwyr hyfforddedig, sy'n darparu adborth bob pythefnos ac yn gallu uwchgyfeirio achosion mwy difrifol i gyrchu cymorth pellach.
Delwedd: Ychwanegodd Cleide Correia, rheolwr Banc Bwyd Merthyr Cynon.