Bydd pennod olaf Saving Lives in Cardiff yn cael ei darlledu nos Lun, 12 Mai am 9pm ar BBC One Wales a nos Fercher, 14 Mai am 9pm ar BBC Two. Mae'r rhaglen ddogfen yn cynnig cipolwg prin ar waith anhygoel timau llawfeddygol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a'r cleifion y mae eu bywydau'n dibynnu arnynt.
Fel prif lawfeddyg yn adran y galon Ysbyty Athrofaol Cymru, rhaid i Dheeraj Mehta ddelio ag ôl-groniad o achosion a phwysau prinder staff, sy'n achosi oedi a hyd yn oed yn arwain at ganslo llawdriniaethau.
Yn y bennod olaf, bydd yn rhoi llawdriniaeth i glaf ar frig ei restr frys sydd mewn perygl o gael trawiad difrifol ar y galon. Mae Ceri, swyddog heddlu wedi ymddeol, wedi aros chwe wythnos am lawdriniaeth ddargyfeiriol ddwbl oherwydd y pwysau ar y system.
I drin Ceri, bydd Dheeraj yn defnyddio techneg arloesol 'calon yn curo'. Yn lle rhoi Ceri ar beiriant dargyfeiriol a stopio ei galon, bydd yn parhau i guro a phwmpio gwaed drwy gydol y llawdriniaeth. Mae Dheeraj yn un o ddim ond 10 llawfeddyg sy'n perfformio'r dechneg hon yn rheolaidd yn y DU. Mae'n sgil arbenigol iawn ond nid heb risgiau.
“Rwy’n gobeithio y bydd Saving Lives yn ei gwneud hi’n haws i gleifion a’r cyhoedd ddeall – a bod yn empathig i ryw raddau - â’r amgylchiadau yr ydym yn eu hwynebu,” meddai Dheeraj, sydd wedi bod yn feddyg ymgynghorol yng Nghaerdydd ers 22 mlynedd. “Mae gan ein tîm angerdd ac ysgogiad i geisio gwthio pethau ymlaen a darparu’r gwasanaeth gorau posibl.
“I lawer o bobl, mae llawdriniaeth ar y galon yn gysyniad sy'n ymddangos yn frawychus ac ychydig yn estron o ran yr hyn sy'n digwydd. Dw i'n meddwl bod Saving Lives yn helpu pobl i ddeall y math o fodau dynol sy'n gweithio yn y theatr llawdriniaeth, a dylai roi sicrwydd i'r cyhoedd ein bod ni'n gwybod beth rydym yn ei wneud.
“Mae hefyd yn fater llawer mwy na’r llawfeddyg ar ei ben ei hun. Mae staff meddygol ac anfeddygol hanfodol eraill yma sy'n cefnogi'r claf drwy gydol eu taith.”
Fel llawfeddyg cardiaidd, dywedodd Dheeraj ei fod yn ymwneud yn weithredol â rheoli gofal cleifion o ddydd i ddydd nes iddynt adael yr ysbyty. “Rwy’n credu bod parhad gofal yn rhywbeth sy’n apelio’n fawr ataf,” ychwanegodd. “Mae'n procio fy meddwl o safbwynt meddygol ac yn cadw fy ngwybodaeth yn gyfredol.
Dywed: “Clefyd y galon yw’r lladdwr mwyaf yng Nghymru o hyd, ac un peth sy’n ei achosi yw ffordd o fyw [gwael] pobl. Mae hynny'n anochel yn cael effaith ar y math o glefyd a welwn a’i ddifrifoldeb, ac yn gwneud ein gwaith yn fwy heriol. Ond yr hyn sy'n gwneud y swydd yn werth chweil yw gweld yr effaith gadarnhaol rydych yn ei chael ar fywydau pobl – y straen, yr heriau, yr oriau rydych chi'n eu rhoi i mewn, mae’r cyfan yn diflannu'n llwyr wedyn.”
Yn y cyfamser ym mhennod chwech, yn adran y genau a’r wyneb yn yr ysbyty, rhaid i'r llawfeddygon Cellan Thomas a Drazsen Vuity roi llawdriniaeth frys i Marie, 69 oed, sydd angen tynnu tiwmor canseraidd o'i gên. Sylwyd arno yn ystod apwyntiad deintydd.
Mae'r math o diwmor sydd gan Marie yn aml yn gysylltiedig ag ysmygu, arferiad a ddatblygodd fel menyw ifanc pan oedd yn gyffredin yn y clybiau cymdeithasol lle treuliodd lawer o nosweithiau allan.
Yn ystod llawdriniaeth 10 awr o hyd, rhaid i Cellan a Drazen dynnu rhan fawr o ên Marie a rhoi asgwrn o'i choes yn ei le. Mae'r siawns o gymhlethdodau yn ystod ac ar ôl y llawdriniaeth yn uchel iawn, ond heb hynny ni fydd Marie yn goroesi. Mae Cellan yn gwneud popeth o fewn ei allu i dawelu meddwl Marie a'i gŵr ers bron i 50 mlynedd y byddant yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau ei dyfodol.
Dywedodd Cellan: “Rydych chi'n rhoi popeth i’r swydd. Bob eiliad o bryder rwy’n ei gael, rydw i wedi colli darn o wallt, ac mae'n siŵr y gallwch chi weld faint rydw i wedi poeni dros y blynyddoedd, ond fyddwn i ddim eisiau gwneud unrhyw beth arall.”
Yn y cyfamser, yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, mae llawfeddyg y glust, trwyn a’r gwddf (ENT) Andy Hall yn un o dri meddyg ymgynghorol sy'n gosod mewnblaniadau cochlear. Mae'r dyfeisiau electronig bach hyn yn galluogi'r rhai sydd â cholled clyw difrifol i ddwys i glywed synau.
Yn y bennod hon, claf Andy yw Phoebe, tair oed. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ei chlyw wedi lleihau'n sylweddol ac mae ei rhieni, Lee a Chelsey, eisiau iddi gael y driniaeth i helpu ei chlyw a'i hiaith i ddatblygu cyn iddi ddechrau yn yr ysgol. Ni fydd Andy a'r teulu'n gwybod a yw'r llawdriniaeth wedi bod yn llwyddiant nes bod y mewnblaniadau'n cael eu troi ymlaen am y tro cyntaf bythefnos yn ddiweddarach.
“Mae Ysbyty Plant Cymru yn lle hynod gyffrous i weithio ynddo. “Mae cymaint o bwysau allanol ar y gwasanaeth, ond mae’n wych cael y cyfle i arddangos gwaith caled yr holl dimau,” meddai Andy, sydd wedi bod yn feddyg ymgynghorol ers pum mlynedd ac a fu’n gweithio’n flaenorol yn Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain.
“Un o’r pethau gorau am lawdriniaeth bediatrig yw dilyn taith y cleifion dros amser, o’r ymgynghoriad cyntaf pan fyddwch chi’n cwrdd â’r claf a’u mam a’u tad, mynd trwy’r llawdriniaeth ac yna eu dilyn yn y tymor hir.”
Gwyliwch Saving Lives in Cardiff nos Llun, 12 Mai am 9pm ar BBC One Wales a nos Fercher, 14 Mai ar BBC Two. Gallwch ddal i fyny ar y gyfres gyntaf a'r ail gyfres o Saving Lives in Cardiff ar BBC iPlayer.
Angen help i roi'r gorau iddi? Cysylltwch â Helpa Fi i Stopio am gefnogaeth heddiw:
• Ffoniwch radffôn 0800 085 2219
• Tecstiwch HMQ at 80818
• Ewch i wefan Helpa Fi i Stopio