Yn y drydedd bennod o Saving Lives in Cardiff, rydyn ni’n cwrdd â thri llawfeddyg anhygoel arall a’u timau wrth iddyn nhw drin cleifion ym mhrifddinas Cymru.
Mae'r niwrolawfeddyg Mr George Eralil, yn wynebu llawdriniaeth heriol a rhaid iddo ddelio â chymhlethdodau annisgwyl i wella sbasm eithafol sydd ar wyneb un o’i gleifion.
Ar ôl dwy flynedd o aros, mae Ceri, sy’n 59 oed, o’r diwedd wedi cyrraedd brig rhestr llawdriniaeth George i gael triniaeth am gyflwr niwrolegol prin o’r enw sbasm hemi-wynebol, sy’n achosi i un ochr o’i hwyneb fynd i sbasm yn sydyn ac yn anwirfoddol. Dioddefodd Ceri symptomau am y tro cyntaf tra'n gweithio fel athrawes ysgol gynradd. Mae'r sbasmau wedi bod yn boenus ac wedi effeithio'n ddifrifol ar ei hyder a'i hiechyd meddwl gan ei gorfodi i roi'r gorau i swydd yr oedd hi'n ei charu.
Bum mlynedd yn ôl, gwnaeth George lawdriniaeth a ataliodd y sbasmau ar ochr chwith wyneb Ceri. Ond dychwelodd y symptomau, y tro hwn ar yr ochr dde.
Nawr, er mwyn trin yr ochr dde, rhaid i George lywio o amgylch nerfau allweddol, yn ddwfn y tu mewn i ymennydd Ceri. Er iddo berfformio'r driniaeth hon sawl gwaith o'r blaen, mae llawdriniaeth Ceri yn dod yn un na fydd George byth yn ei anghofio.
Meddai George: “Mae gen i set wych o gydweithwyr a staff yng Nghaerdydd sy’n ymroddedig i’w rolau – ac felly maent yn fy ngalluogi i wneud fy swydd fel y gallaf sicrhau’r canlyniad gorau posibl i’m claf.
“Nid oes unrhyw fath o lawdriniaeth ar yr ymennydd yn bosibl heb gymorth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
“Mae pob ymgais lawfeddygol wedi’u galluogi gan sawl haen o gyd-feddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol. Dim ond gwaith tîm cydweithredol sy’n galluogi llawfeddyg fel fi i gyflawni fy ngorau glas i glaf.”
Ar alwad ar gyfer derbyniadau brys i'r Ysbyty Plant mae'r Llawfeddyg Pediatrig Ymgynghorol Eniola Folaranmi, o'r enw Enny, sy'n trin Zackary sy'n chwe wythnos oed. Nid yw'r bachgen bach wedi gallu bwydo ers saith diwrnod, oherwydd bod y llwybr rhwng ei stumog a'i berfeddyn bach wedi culhau.
Mae Zackary yn cael ei gadw'n fyw gan hylifau mewnwythiennol hyd nes y gall Enny ei gael i mewn i'r theatr, ond nid ef yw'r unig glaf sydd angen sylw brys. Gyda dim ond un theatr frys ar gael, rhaid i Enny eirioli dros ei glaf ifanc. Gyda phlant eraill yn cael eu hystyried yn achosion mwy clinigol brys, efallai na fydd Zackary yn cyrraedd y theatr.
“Rwy’n mwynhau llawdriniaeth a phediatreg, felly roedd dod yn llawfeddyg pediatrig yn ymddangos yn ddewis gyrfa rhesymol,” meddai Enny, Llawfeddyg Pediatrig Ymgynghorol ac Arweinydd Clinig Llawfeddygaeth Pediatrig.
“Rwyf wrth fy modd yn gofalu am y cleifion o dan fy ngofal, eu gwylio yn gwella’n llwyr a gweld y llawenydd ar wynebau eu rhieni gan fod eu plentyn yn ddigon iach i gael ei ryddhau.
“Rwyf hefyd yn mwynhau hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o lawfeddygon pediatrig.
“Mae’r adran llawfeddygaeth bediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn cynnwys saith llawfeddyg ymgynghorol, tri Uwch Ymarferydd Nyrsio ac wyth llawfeddyg dan hyfforddiant. Rydym yn is-arbenigo mewn GI Uchaf/Thorasig/Oncoleg (2 lawfeddyg), GI Isaf (2 lawfeddyg) ac Wroleg (3 llawfeddyg). Rydym yn gwasanaethu poblogaeth De Cymru.
“Roedd yn fraint cael rhannu ein gweithgareddau o ddydd i ddydd gyda’r gymuned ehangach.”
Un o'r llawfeddygon sydd wedi gwasanaethu hiraf yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd yw Nagappan Kumar. Sefydlodd Naga unig ganolfan llawdriniaeth yr afu yng Nghymru yn 2002, sydd bellach yn gwasanaethu poblogaeth o 2.2 miliwn o bobl. Gyda dim ond pedwar llawfeddyg, mae'r rhestr aros dan bwysau'n gyson.
Ei glaf cyntaf y dydd yw Sarah, 50 oed, sydd wedi aros saith mis am lawdriniaeth i dynnu syst prin yn dwythell ei bustl sy'n achosi poen difrifol iddi. Yn ystod y driniaeth bydd Naga yn cynnal prawf i weld a yw'r syst yn ganseraidd. Os ydyw, bydd y driniaeth yn cymryd mwy o amser, sy’n golygu y gallai oedi ei lawdriniaeth nesaf ar y claf Linda, sydd wedi aros am 18 mis am ei llawdriniaeth.
“Dechreuais Uned yr Afu yng Nghaerdydd gan fod cleifion yn cael eu hatgyfeirio i Loegr yn flaenorol,” meddai Naga. “Fe’i datblygais a gwnaeth Llywodraeth Cymru ei chydnabod fel Canolfan Ragoriaeth yn 2010. Rydym bellach yn darparu holl ofal llawfeddygol yr afu ar gyfer holl boblogaeth De Cymru o 2.2 miliwn.
“Llawdriniaeth yr afu yw fy angerdd ac rwy’n falch fy mod wedi gallu ei sefydlu yng Nghymru. Rydym yn un o’r canolfannau mawr yn y DU sy’n gwneud dros 160 o echdoriadau afu bob blwyddyn. Mae ein canlyniadau yn rhagorol ac ar yr un lefel â'r unedau gorau yn rhyngwladol. Rwy’n ffodus i weithio gyda thîm gwych o lawfeddygon HPB, anesthetyddion, staff theatr ac arbenigwyr nyrsio.”
“Penderfynais gymryd rhan yn rhaglen y BBC gan y bydd yn caniatáu i ni arddangos ein gwaith a gwneud pobl yn ymwybodol y gallwn ni yng Nghaerdydd ddarparu eu holl anghenion mewn llawdriniaeth ar yr afu o dan yr un to.”
Gwyliwch Saving Lives in Cardiff ar BBC 1 Wales dydd Mawrth 22 Ebrill a BBC 2 ddydd Mercher 23 Ebrill.
Gallwch ddal i fyny ar y gyfres gyntaf a'r ail gyfres o Saving Lives in Cardiff ar BBC iPlayer.