18 Mawrth 2025
Mae Dr Stephen Jolles, Imiwnolegydd Clinigol Ymgynghorol, wedi'i goroni'n Arwr Iechyd mis Mawrth am ei ymroddiad a'i ymrwymiad i wella bywydau cleifion â chyflyrau prin.
Ers dros ddau ddegawd, mae Dr Jolles wedi gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru, lle mae’n Imiwnolegydd Clinigol Ymgynghorol ac yn Athro Anrhydeddus. Mae Canolfan Diffyg Imiwnedd Cymru yn darparu gwasanaethau clinigol a labordy i oedolion a phlant sydd â diffyg imiwnedd sylfaenol ac eilaidd.
Yn ogystal â bod yn Arweinydd Clinigol yng Nghanolfan Diffyg Imiwnedd Cymru, ef yw Cyd-Gyfarwyddwr Labordy Diagnostig Imiwnoleg Hyb Cymru ac arweinydd oedolion ar gyfer Clinig SWAN (Syndrom Heb Enw), a Chyfarwyddwr Cyd-glinigol Imiwnoleg, Meddygaeth Metabolaidd a'r Gwasanaeth Tiwmor Niwroendocrin.
Enwebwyd Dr Jolles gan Claire Akers-Dyer. Rhoddodd Dr Jolles ddiagnosis o gyflwr prin i Victoria, merch Claire, ar ôl iddynt fod yn aros 16 mlynedd am atebion.
“Dr Jolles oedd imiwnolegydd fy merch am flynyddoedd lawer, ac oherwydd Dr Jolles a’i dîm mae hi’n byw bywyd llawn,” meddai Claire. “Fe oedd yr un a roddodd ddiagnosis iddi o’r diwedd, ar ôl 16 mlynedd. Rhoddodd yr adran gyfan y gofal rhagorol yr oedd ei angen ar fy merch, na chafodd erioed fel plentyn.
“Fe weithiodd gyda hi i drefnu’r gofal gorau ar ei chyfer a gwrandawodd arni, sy’n rhywbeth nad yw pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn ei wneud. Roedd yn ein cynnwys ni i gyd fel teulu os oedd gennym ni bethau i’w cyfrannu at apwyntiadau—mae gofalu am rywun sydd â chyflwr genetig yn gofyn am ymdrech tîm ac mae’r teulu’n rhan o’r tîm hwnnw. Byddaf yn ddiolchgar iddo am byth am ei ofal a’i dosturi, roedd bob amser yn gwneud iddi deimlo y gallai wneud popeth er bod yr hyn sydd wedi’i ysgrifennu am ei chyflwr ar-lein yn frawychus.”
Ychwanegodd Victoria: “Mae’r wobr mor haeddiannol. Mae Dr Jolles wedi bod yn hynod o bwysig yn fy mywyd - dwi wir ddim yn gwybod ble byddwn i nawr heb ei ofal."
Wrth fyfyrio ar eu geiriau, dywedodd Dr Jolles: “Mae mor galonogol clywed geiriau mor garedig gan y claf ac yn bwysig iawn, cael barn y teulu ar yr effaith. Mae’n swnio fel bod Victoria yn gwneud yn wych. Rwy’n falch iawn o’i glywed.”
Roedd hefyd yn cydnabod yr heriau o gael cyflwr prin, gan ddweud: “Yn anffodus rydym yn clywed yn rhy aml o lawer am bobl ag afiechyd prin yn cael taith hir iawn, fel y gwnaeth Victoria, sy'n anodd iawn. Pan fydd gennych glefyd prin, rydych yn aml yn symud o un man i’r llall o amgylch y system oherwydd efallai nad yw pobl wedi dod ar ei draws o’r blaen.
“Ac felly, mae diagnosis yn cael ei ohirio ac yna mae’r ymyriadau iawn yn cael eu gohirio. Mae mynd at wraidd pethau ac yna rhoi’r driniaeth orau posibl yn gofyn am ymdrech tîm i raddau helaeth iawn.
“Rydym hefyd yn gweithio’n galed i gwtogi’r daith hon i bobl â diffyg gwrthgyrff yng Nghymru drwy sgrinio ar gyfer hyn o fewn profion gwaed a gyflawnir fel mater o drefn.”
Tynnodd Dr Jolles sylw at y rhan a chwaraewyd gan y tîm cyfan, ac yn arbennig Andrew Roberts, Gwyddonydd Clinigol Imiwnoleg Foleciwlaidd sydd bellach wedi ymddeol, yn niagnosis Victoria.
Dywedodd: “Dyw hi byth yn ymdrech unigol – mae’n ymdrech tîm yn gyfan gwbl. Rwy’n cymryd hyn yn fawr iawn fel diolch hyfryd i’r tîm yn hytrach nag i unigolyn, ac yn enwedig y labordy, oherwydd dyna sut y cafodd ei ganfod.”
“Gwnaeth Andrew ddilyniant y genyn a chanfod y 'camgymeriad sillafu' a oedd yn ôl pob tebyg wrth wraidd y cyfan. Roedd yn gwbl allweddol yn ochr y labordy. Ond nyrsys, meddygon, labordai - bydd pawb wedi rhyngweithio â Mam a'r teulu a Victoria i geisio gwneud iddo weithio."
Ar ôl i Victoria symud i Lundain, roedd Dr Jolles yn parhau i ymwneud â'i gofal. Dywedodd Claire: “Pan symudodd i Lundain, fe wnaeth Dr Jolles ddod o hyd i dîm yr oedd yn hapus â nhw, a hyd yn oed heddiw mae’n hapus i helpu ei thîm newydd yn Llundain i ddarparu’r gofal gorau iddi.”
Dywedodd Dr Jolles: “Un o’r pethau allweddol sy’n digwydd fwyfwy gyda chlefydau prin yw eich bod chi’n cysylltu y tu allan i’ch canolfan a’r tu allan i’ch gwlad. Mae tîm Llundain yn wych, ac mae’n ddeialog hyfryd.”
Wrth siarad am ei faes, dywedodd Stephen: “Mae’n eang iawn, ond yn ddiddorol iawn. Mae'n symud yn gyson. Ni allwch aros yn llonydd o gwbl. Ond dyna ran o’r wefr a’r cyffro – cadw i fyny â datblygiadau.”
Crynhodd Claire ei diolch gan ddweud: “Mae e’n bopeth y mae'r GIG yn sefyll amdano ac yn bopeth y mae’r GIG ei angen. Byddwn ni fel teulu bob amser yn ddiolchgar.”
Mae’r wobr Arwr Iechyd yn cael ei noddi’n garedig gan Park Plaza Caerdydd a bydd Dr Jolles yn derbyn profiad Cinio Dydd Sul i Ddau.
Ydych chi'n adnabod aelod o staff sydd wedi mynd gam ymhellach i ddarparu gofal rhagorol? Dywedwch ddiolch trwy eu henwebu fel Arwr Iechyd!