Mae dros 2,000 o leoedd i fwyta, yfed a siopa sy’n defnyddio llai o blastig wedi’u mapio ledled Cymru ar ap newydd arloesol.
Y grŵp amgylcheddol City to Sea, sy’n gyfrifol am yr ap Refill, a wnaeth y cyhoeddiad i nodi y bydd Diwrnod Ail-lenwi’r Byd ar 16 Mehefin - ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd fyd-eang i atal llygredd plastig a helpu pobl i fyw gyda llai o wastraff.
Nod Diwrnod Ail-lenwi’r Byd yw cyflymu’r newid oddi wrth blastig untro tuag at systemau ail-lenwi ac ailddefnyddio. Mae’r ymgyrch yn dod ag ymgyrchwyr bob dydd, busnesau cynaliadwy a sefydliadau ynghyd i dynnu sylw at atebion i’r argyfwng plastig.
Mae’r ap Refill bellach wedi’i lawrlwytho hanner miliwn o weithiau ac mae’n rhestru dros 340,000 o leoedd ledled y byd lle gall pobl lenwi poteli â dŵr yfed am ddim, dod o hyd i opsiynau siopa di-blastig neu arbed ar ddiodydd poeth a bwyd wrth fynd pan fyddant yn dod â’u heitemau y gellir eu hailddefnyddio eu hunain.
Mae cangen Gymreig yr ymgyrch Refill, Ail-lenwi Cymru, wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru sydd wedi addo mai Cymru fydd y ‘Genedl Ail-lenwi’ gyntaf.
Yn ôl Jane Martin, Pennaeth Datblygu City to Sea: “Mae hon yn garreg filltir enfawr – bellach mae dros 2,000 o leoedd i ail-lenwi yng Nghymru. Rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i ehangu’r ddarpariaeth ail-lenwi ac ailddefnyddio. Mae hyn yn golygu p’un a ydych yn cerdded ar hyd llwybrau’r arfordir, yn siopa yng nghanol dinas Caerdydd neu’n cymudo i’r gwaith, nid ydych byth yn bell o rywle i ail-lenwi’ch potel ddŵr, cwpan coffi neu le i gael cinio.
“Mae Diwrnod Ail-lenwi’r Byd wedi’i gynllunio i annog pobl i siarad am y broblem ac, yn hollbwysig, i dynnu sylw at yr atebion a helpu pobl i gymryd camau i leihau gwastraff. Efallai nad yw ein newidiadau bach yn ymddangos yn fawr ar eu pen eu hunain, ond gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth enfawr, gan ddangos i frandiau mawr, busnesau a llywodraethau ein bod ni eisiau, ac angen, gweld camau brys i fynd i’r afael â’r argyfwng plastig.
“Mae angen i ni symud ar fyrder oddi wrth ein diwylliant tafladwy, untro tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy, cylchol, gydag ailddefnyddio ac ail-lenwi yn ganolog iddo. Y newyddion da yw bod eisoes gennym ni’r adnoddau sydd eu hangen arnom i newid y byd.”
Ychwanegodd Gwilym Pugh, y model a’r cerddor o Gymru sydd hefyd yn un o Lysgenhadon Diwrnod Ail-lenwi’r Byd eleni: “Mae Diwrnod Ail-lenwi’r Byd yn fwy na galwad i ddefnyddio potel neu gwpan y gellir ei ailddefnyddio, mae’n ymwneud â dod â grym unigolion ynghyd i greu newid yn y system.”
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi ymuno â Refill Cymru ac Awesome Wales ar Ddiwrnod Ail-lenwi’r Byd i ddathlu rhai o’r ymgyrchoedd gweithredu cymunedol sydd ar y gweill.
Mae Awesome Wales yn fenter gymdeithasol sy’n canolbwyntio ar ddarparu ffrwythau di-blastig ac mae ganddi storfa ddiwastraff yn y Barri. Mae hefyd yn gyfrifol am y stondin cynnyrch ffres yn Ysbyty Athrofaol Cymru sy’n gwerthu ffrwythau, llysiau a nwyddau sych.
Mae’r stondin yn galluogi staff, cleifion ac ymwelwyr i brynu cynnyrch a byrbrydau iach heb blastig untro. Gallant hyd yn oed ail-lenwi eu perlysiau a’u sbeisys ar y safle. Mae Awesome Wales hefyd yn cynnal amrywiaeth o brosiectau cymunedol gan gynnwys llyfrgell o bethau ‘Benthyg’, llyfrgell cewynnau brethyn a gwaith gyda phrosiect llogi beiciau trydan E-Move Sustrans.
Dywedodd Amy Greenfield, Cyfarwyddwr Awesome yn Awesome Wales: “Mae stondin cynnyrch ffres Ysbyty Athrofaol Cymru wedi cael ei chroesawu’n fawr gan staff ar y safle; maen nhw’n mwynhau’r ffaith bod llai o becynnu ac yn dechrau arfer dod â’u cynwysyddion i’w hail-lenwi. Rydym mor falch bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cefnogi’r prosiect hyd yn hyn ac rydym yn gobeithio cefnogi prosiectau tebyg gyda byrddau iechyd eraill Cymru yn y dyfodol.”
Yn y gorffennol, bu City to Sea yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i lansio Pecyn Cymorth Hydradu newydd fel rhan o’r rhaglen Healthy Workplaces. Mae’r pecyn cymorth hydradu yn adnodd hawdd ei ddefnyddio i gyflogwyr nid yn unig sicrhau bod eu gweithwyr yn yfed digon ac yn iach, ond hefyd yn gyfle i ysgogi newid mewn ymddygiad o amgylch defnyddio poteli y gellir eu hailddefnyddio yn y gweithle a chael effaith gadarnhaol ar eu metrigau plastig untro.
Dywedodd Rebecca Stewart, Prif Arbenigwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae ail-lenwi yn flaenoriaeth yn ein cynllun partneriaeth Symud Mwy, Bwyta’n Iach ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg i gefnogi ffyrdd cynaliadwy o annog hydradu a bwyta’n iach ar draws ein cymunedau. Yn ystod Diwrnod Ail-lenwi’r Byd, mae’n wych gweld Awesome Wales ar ein safle yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn darparu ffrwythau, llysiau a bwydydd iach heb blastig i staff ac ymwelwyr fel byrbrydau ac i goginio prydau iach.”
Mae City To Sea hefyd wedi derbyn cyllid gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) a weinyddir gan WCVA i helpu i leihau llygredd plastig yng Nghaerdydd dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd yr ymgyrch estynedig yn cynyddu nifer y lleoliadau a’r mathau o fusnesau a restrir ar yr ap yng Nghaerdydd, gan helpu i wneud ailddefnyddio ac ail-lenwi yn norm cymdeithasol newydd. Bydd cwsmeriaid yn cael eu hannog i ddefnyddio’r ap i ddarganfod ble i ail-lenwi popeth, o’u potel ddŵr, cwan coffi a’u bocs bwyd, i nwyddau glanhau’r cartref a deunyddiau ymolchi.