04 Ionawr 2024
Mae un o wasanaethau’r Groes Goch Brydeinig sydd wedi bod yn cefnogi cleifion a staff yn Adrannau Achosion Brys yng Nghymru yn dathlu ei phumed pen-blwydd.
Mae staff a gwirfoddolwyr y Groes Goch wedi helpu dros 1.2 miliwn o bobl ledled Cymru ers i’r gwasanaeth ddechrau ym mis Rhagfyr 2018, drwy ddarparu cymorth anfeddygol a helpu i drefnu cludiant adref i gleifion.
Yn ogystal â chefnogi tasgau mewn Adrannau Achosion Brys ysbytai, mae staff a gwirfoddolwyr y Groes Goch yn brysur yn casglu meddyginiaeth a chanlyniadau profion ar gyfer cleifion, gan fynd â nhw i adrannau eraill yr ysbyty fel yr adran pelydr-x, neu’n eistedd gyda pherthnasau sydd wedi ypsetio neu sydd wedi cael profedigaeth. Maen nhw hefyd yn cynnig cymorth emosiynol i gleifion sy’n bryderus, sydd ar eu pen eu hunain neu’n teimlo bod y sefyllfa’n ormod iddyn nhw.
I ddechrau, roedd y gwasanaeth yn gynllun peilot a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru, ac yn cael ei ddarparu gan staff a gwirfoddolwyr y Groes Goch Brydeinig. Bellach, mae’r gwasanaeth yn cael ei gomisiynu gan y byrddau iechyd unigol.
Mae’r cynllun – a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau GIG Cymru a’r Health Service Journal Partnership Awards, ar gyfer gweithio mewn partneriaeth â’r GIG – yn cael ei redeg mewn saith ysbyty yng Nghymru ar hyn o bryd: Ysbyty Treforys yn Abertawe, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty’r Grange yng Nghasnewydd, Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Ysbyty Maelor Wrecsam yn Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Dywedodd Sam Moreton, Arweinydd Tîm y Groes Goch Brydeinig yn Ysbyty Glan Clwyd:
“Rwyf wedi bod gyda’r Groes Goch yn Ysbyty Glan Clwyd ers dechrau’r gwasanaeth ym mis Rhagfyr 2018 ac rydw i’n teimlo’n angerddol iawn amdano. Rwyf wedi gweld y gwasanaeth yn datblygu’n raddol dros amser. Rydyn ni’n gwneud yr hyn y mae staff y GIG yn yr Adrannau Achosion Brys angen i ni ei wneud – cludo cleifion adref, bod yn glust i wrando ar gleifion, teuluoedd a pherthnasau a chynnig sicrwydd a chefnogaeth emosiynol iddyn nhw, ailstocio cyfarpar diogelu personol, helpu amser bwyd neu gynnig te a choffi.
“Mae’n fwy na chynnig te a choffi; rydyn ni’n ei alw’n ‘hyg mewn myg’.”
Mae staff a gwirfoddolwyr y Groes Goch yn darparu cymorth anfeddygol, wedi’i deilwra i unigolion ac yn canolbwyntio ar eu hanghenion ymarferol ac emosiynol, i helpu pobl i adael yr ysbyty’n gyflymach a gyda mwy o hyder er mwyn i staff y GIG allu canolbwyntio ar waith clinigol. Mae timau’r Groes Goch hefyd yn helpu drwy ddarparu trafnidiaeth ac ailsefydlu pobl yn eu cartrefi yn dilyn ymweliad ag Adran Achosion Brys.
Maen nhw’n mynd â phobl adref ac yn gweld problemau fel peryglon baglu, a allai achosi ymweliad arall â’r ysbyty. Mae’r amser ychwanegol y gall gweithwyr cymorth ei dreulio gyda phobl yn golygu eu bod hefyd yn gallu ymchwilio i broblemau sylfaenol, fel a oes gan rywun gysylltiadau ystyrlon â phobl eraill yn eu cymuned neu a oes angen gofal tymor hir arnyn nhw gartref i fyw’n annibynnol. Mae hyn yn rhoi tawelwch meddwl i feddygon a nyrsys y bydd problemau’n cael eu canfod, ac yn aml mae’n helpu i nodi sefyllfaoedd cymhleth lle mae anghenion meddygol a chymdeithasol rhywun yn cydblethu, gan atal pobl rhag dychwelyd i’r ysbyty’n ddiangen.
Dywedodd Sam: “Rydyn ni hefyd yn cludo cleifion adref. Os ydyn nhw wedi bod yn yr Adran Achosion Brys am fwy na diwrnod, gallwn ni wneud ychydig o siopa iddyn nhw ar y ffordd. Ar ôl iddyn nhw gyrraedd gartref, rydyn ni’n sicrhau bod pethau fel gwres y tŷ yn gweithio ac os oes ganddyn nhw fwyd, ac rydyn ni’n gwneud paned o de iddyn nhw.
“Rydyn ni’n edrych i weld a oes pecyn gofal ar waith, a oes ganddyn nhw deulu a ffrindiau, cymdogion i’w cefnogi, os oes angen eu hatgyfeirio neu eu cyfeirio at sefydliad arall. Er enghraifft, ar y ffordd adref, efallai y bydd rhywun yn dweud ei fod wedi colli ei bartner a’i fod yn ei chael yn anodd. Gallwn helpu gyda hynny a’u cyfeirio at gymorth mewn profedigaeth.
“Efallai na fydd pobl bob amser yn gofyn am help. Ac mae hynny’n rhan fawr o’n gwasanaeth: siarad â phobl mewn ffordd garedig, ystyriol a thosturiol, a chael y gefnogaeth sydd arnyn nhw eu hangen.”
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Mae Gwasanaeth Adref yn Ddiogel a Lles – Adran Achosion Brys y Groes Goch Brydeinig wedi mynd o nerth i nerth ers ei lansio’n ôl ym mis Rhagfyr 2018, ac mae wedi bod o fudd enfawr i les cleifion a staff. Mae wedi cael canmoliaeth eang ac adborth cadarnhaol dros y 5 mlynedd diwethaf.
“Nid yn unig mae’r gwasanaeth wedi darparu cymorth emosiynol a chymdeithasol hanfodol i gleifion yn ystod eu hamser anodd, mae hefyd wedi gwella’r cysylltiadau cludo gartref ac wedi helpu i leihau hyd arhosiad cleifion yn yr ysbyty.
“Rwy’n croesawu ymestyn y gwasanaeth yn y rhan fwyaf o adrannau achosion brys, a’r effaith gadarnhaol y bydd yn parhau i’w chael ar bawb, wrth symud ymlaen.
“Mae gwerth parhaus y gwasanaeth hwn yn dyst i staff a gwirfoddolwyr gweithgar a gofalgar y sefydliad, ac rwy’n diolch iddyn nhw am eu hymrwymiad dros y 5 mlynedd diwethaf.”
Dywedodd Kate Griffiths, Cyfarwyddwr y Groes Goch Brydeinig yng Nghymru:
“Mae’n braf iawn gweld bod y gwasanaeth hwn yn parhau ar ôl 5 mlynedd ac mae bellach mewn ysbytai ledled Cymru. Mae ymweld â’r ysbyty yn gallu bod yn frawychus i rai pobl, ac mae ein timau’n gallu rhoi amser i’r pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i sut mae cleifion ac ymwelwyr yn teimlo am eu profiad yn yr ysbyty. Mae’r Groes Goch Brydeinig wedi gweithio mewn partneriaeth â’r GIG yn Adrannau Achosion Brys Cymru ers i’r gwasanaeth ddechrau, i gynnig cymorth ychwanegol i gleifion a staff.
“Mae ein timau’n teimlo’n falch iawn o gefnogi cydweithwyr gweithgar y GIG yn yr Adran Achosion Brys, gan gydweithio i wella profiadau cleifion.”