Fel y rhan fwyaf o blant, mae Alex Chmieleski o Ben-y-bont ar Ogwr yn edrych ymlaen yn arw at y Nadolig. Ond mae rhywbeth y mae ei eisiau hyd yn oed yn fwy nag ymweliad gan Siôn Corn: trawsblaniad organ i achub ei fywyd.
Mae Alex, a mwy na 230 o blant eraill yn y DU, angen y rhodd werthfawr a thyngedfennol hon ar frys os ydyn nhw am weld Nadolig arall.
Nawr, mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth hanfodol o’r angen am fwy o roddwyr organau plant, mae ymgyrch bwerus wedi cael ei lansio lle bydd doliau o’r plant yn cael eu gwneud â llaw ac yn cael eu lleoli ledled y wlad. Bydd pob dol yn gwisgo bathodyn sy’n gwahodd pobl sy’n mynd heibio i sganio cod QR i glywed straeon am blant sy’n aros am drawsblaniadau o bob cwr o’r DU.
Bydd dol Alex i’w gweld yn Ysbyty Arch Noa Plant Cymru yng Nghaerdydd, a’r gobaith yw y bydd y doliau a straeon go iawn y plant yn ysbrydoli mwy o rieni a theuluoedd i ystyried rhoi organau ac ychwanegu eu hunain a’u plant at Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.
Mae Alex, sy’n 10 oed, wedi bod yn aros am drawsblaniad aren ers mis Mawrth ar ôl cael ei eni â syndrom Jubert a chromosomau coll.
Dywedodd ei dad, Kamil: “Cafodd Alex ei eni gyda methiant yr arennau, yr un fath â Gabriel, ei frawd hŷn. Mae Gabriel wedi cael trawsblaniad aren ers dwy flynedd.
“Roedden ni i gyd yn gwybod y byddai angen trawsblaniad ar Alex ryw ddiwrnod, a daeth y diwrnod hwnnw y llynedd. Yn anffodus, cafodd fy ngwraig ei gwrthod rhag rhoi trawsblaniad byw oherwydd bod cerrig yn ei harennau ac roeddwn eisoes wedi rhoi fy aren i Gabriel.
“Mae’n cael dialysis dros nos am 10 awr gartref, felly rydyn ni’n gallu parhau â bywyd mor normal â phosib i’w gadw’n hapus.
“Mae Alex yn ei gam olaf. Trawsblaniad yw ei unig siawns gan fod ei ganlyniadau’n gwaethygu a’r feddyginiaeth sydd ei hangen i’w gadw’n sefydlog yn cynyddu.
“Y peth gwaethaf am aros yw dydyn ni ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd yfory. Mae pob diwrnod yn her newydd sy’n achosi straen.
“Allwn ni ddim mynd i unman am fwy na diwrnod heb beiriant dialysis, allwn ni ddim ymweld â theulu, rhieni yng Ngwlad Pwyl nac unrhyw le yn y byd gyda’n gilydd, dim ond ar wahân bob amser. Mae Alex yn colli rhan enfawr o’i blentyndod, gweithgareddau ac ati.
“Mae trawsblaniad yn un o’r bendithion mwyaf y gall un person ei roi i berson arall. Gall achub cynifer o fywydau, ond mae pobl yn ofnus am ryw reswm. Y peth gorau yw gweld sut mae fy mab, Gabriel, yn tyfu ar ôl ei drawsblaniad aren – pe bawn i’n gallu, byddwn i’n gwneud hynny eto. Unrhyw bryd i unrhyw un!”
Ar hyn o bryd, mae diffyg sylweddol o ran rhoddwyr organau plant, sy’n drist iawn yn golygu weithiau bod plant a’u teuluoedd sy’n aros am rodd i achub eu bywydau ddim yn cael y rhodd hwnnw.
Yn 2021/22, dim ond 52% o’r teuluoedd y cysylltwyd â nhw am roi organau wnaeth roi caniatâd i organau eu plentyn gael eu rhoi. Dim ond 40 o roddwyr organau o dan 18 oed oedd hyn. Fodd bynnag, mewn achosion lle roedd plentyn eisoes wedi’i gofrestru ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG, ni wnaeth yr un teulu wrthod rhoi organau.
I fynd i’r afael â’r anghydbwysedd hwn, nod yr ymgyrch newydd, Aros i Fyw, yw annog rhieni a theuluoedd i ystyried rhoi organau a, gobeithio, cofrestru eu hunain a’u plant fel rhoddwyr.
Cefnogir yr ymgyrch gan Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG ac mae wedi cael ei harwain gan Wunderman Thompson, un o asiantaethau WPP, gyda chymorth yr asiantaeth gyfathrebu fyd-eang, BCW.
Dywedodd Angie Scales, Nyrs Arweiniol ar gyfer Rhoi Organau Paediatrig yng Ngwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG: “I lawer o blant sydd ar y rhestr aros am drawsblaniad, eu hunig obaith yw bod rhiant plentyn arall yn cytuno i roi organau ar adeg o dristwch a galar personol aruthrol. Ac eto, mae teuluoedd yn dweud wrthym ni fod cytuno i roi organau hefyd yn gallu bod yn gysur mawr ac yn destun balchder.
“Pan fydd rhoi organau’n dod yn bosibilrwydd, mae’n aml mewn amgylchiadau annisgwyl neu sydyn iawn. Pan fydd teuluoedd wedi cael cyfle i ystyried rhoi organau o’r blaen neu’n gwybod yn barod ei fod yn rhywbeth maen nhw’n ei gefnogi, mae’n gwneud sefyllfa anodd ychydig yn haws.
“Drwy annog mwy o bobl ifanc a’u teuluoedd i gofrestru i roi organau ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG, rydyn ni’n gobeithio gallu achub bywydau mwy o blant, heddiw ac yn y dyfodol.”
Mae Aros i Fyw yn adeiladu ar yr ymgyrch Ystyriwch Hyn a ddefnyddiodd hysbysebion ar y radio ac mewn papurau newydd yn gynharach eleni i wneud apêl bwerus ar ran rhieni Ralph, sy’n 3 oed ac angen trawsblaniad aml-organ.
Mae’r plant eraill sy’n cael sylw yn yr ymgyrch, ochr yn ochr â Ralph ac Alex, yn cynnwys Daithi sy’n 7 oed ac wedi bod yn aros am drawsblaniad calon ers 2000 o ddiwrnodau, Sophie (10 oed) sy’n aros am ysgyfaint, ac Uqbak (14) a Pablo (13) sydd ill dau angen arenau, a gallai haelioni rhoddwr byw sy’n oedolyn eu hachub.
I ddysgu mwy am y plant sy’n aros am drawsblaniadau, i glywed eu straeon, ac i ychwanegu eich hun a’ch plentyn/plant at Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG, ewch i: Hundreds of dolls made to represent children waiting for transplant as part of a new campaign - NHS Organ Donation