31 Ionawr 2022
Ers cyflwyno’r cynllun yn 2020, mae’r Bwrdd Iechyd wedi cefnogi dros 140 o bobl ifanc i gael gafael ar gyflogaeth ran-amser am chwe mis, a’u helpu i gael profiad a sgiliau i gael swydd yn y dyfodol.
Ymunodd Louis Milton, Cynorthwyydd Gweinyddol â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ym Mehefin 2021 fel cyflogai Kickstart, ac mae wedi darparu cymorth gwerthfawr iawn i’r tîm PCIC, gan helpu i reoli’r rhestr aros ganolog ac apwyntiadau brys ganol bore ar gyfer y tîm deintyddol.
Dywedodd Jane Brown, Pennaeth y Gwasanaeth Deintyddol ac Optometreg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Roedd agwedd bositif Louis at ei waith a’i frwdfrydedd yn allweddol i’n tîm. Roedd yn awyddus i gefnogi a helpu ein tîm yn ystod ein cyfnodau prysuraf. Gan fod ei gontract yn dod i ben, gwnaethom ofyn am estyniad am gyfnod byr o amser, gan godi ein pryderon ynghylch colli unigolyn mewn swydd a oedd wedi bod yn adnodd gwerthfawr tu hwnt.”
Cydnabuwyd pa mor bwysig oedd y rôl yr oedd Louis wedi bod yn ei chyflawni, a sicrhawyd cyllid ar gyfer Gweinyddwr Data a Swyddog Cymorth Band 4, i helpu i lenwi’r bwlch hwn mewn cymorth. Ar ôl gwneud cais a chael cyfweliad yn ddiweddar, mae Louis wedi bod yn llwyddiannus i sicrhau’r swydd barhaol hon ac mae’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm yn llawn amser.
Gan gyfeirio at ei swydd newydd, dywedodd Louis: “Rwy’n ddiolchgar iawn am y Cynllun Kickstart. Mae’r fenter hon a’r profiad wedi golygu fy mod wedi cael swydd Band 4 amser llawn a pharhaol, yn cyflawni rôl yr wyf yn ei mwynhau, a gyda thîm rwy’n teimlo’n rhan ohono. Rhoddodd y cynllun y cyfle i fi ddysgu a datblygu fy set sgiliau, ac agorodd y drws i gyflogaeth barhaol. Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau fy rôl newydd a pharhau i gefnogi’r tîm deintyddol ym mwrdd clinigol PCIC.”