Dydd Gwener 5 Gorffennaf 2024
Llongyfarchiadau i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, a enillodd ddwy wobr yng Ngwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru ddydd Iau 4 Gorffennaf.
Rhaglen y Celfyddydau mewn Iechyd oedd yr enillydd mewn dau gategori hynod gystadleuol – gan ennill y categori Celfyddydau, Busnes ac Iechyd, a gwobr enillydd cyffredinol rownd derfynol Busnes y Flwyddyn Sony.
Mae’n gydnabyddiaeth wych o effaith y celfyddydau ar gleifion, cydweithwyr a’r rhai sy’n ymwneud â grwpiau partneriaeth cymunedol, ac yn destament i waith y timau dan sylw.
Mae partneriaethau’n cynnwys Forget me Not Chorus, Calon Chorus, Motion Control Dance, Rubicon Dance a’r holl staff a chleifion sy’n cyfrannu at y rhaglenni, lle mae gwaith Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn gwneud gwahaniaeth i’w hiechyd a’u lles.
Nod Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yw cyfoethogi bywydau cleifion, staff ac ymwelwyr trwy fynediad at y celfyddydau. Rhagor o wybodaeth yma: Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro | Elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.