Neidio i'r prif gynnwy

Llongyfarchiadau i Dr Richard Skone sydd wedi cael ei benodi'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Dros Dro yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Bydd Richard ar secondiad i'r swydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gefnogi 'agenda Ymddiriedaeth, Ansawdd a Diogelwch' Felindre, gan gefnogi'n benodol y gwaith o drawsnewid y model clinigol ar gyfer gwasanaethau gwaed a chanser, tra’n dal i gyflawni ei ddyletswyddau clinigol presennol a rhoi cymorth i Swyddfa'r Cyfarwyddwr Meddygol yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Ar hyn o bryd mae Dr Skone yn Feddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Gofal Dwys Pediatrig ac Anesthesia, ar ôl cyflawni sawl swydd uwch arweinyddiaeth yn y gorffennol gan gynnwys Swyddog Cyfrifol, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol a Gwarcheidwad Caldicott.

Wrth siarad am ei rôl newydd, dywed Richard:

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â’r tîm fel Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol. Dros y degawd diwethaf, rydw i wedi cael y fraint o weithio gyda gwahanol feysydd o fewn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Rwy'n falch o ymuno'n ffurfiol â sefydliad mor uchel ei barch.”

Bydd Richard yn gweithio'n uniongyrchol gyda Dr Jacinta Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, a fydd yn golygu y gellir cael golwg mwy strategol ar wasanaethau canser sy'n effeithio'n uniongyrchol ar lwybrau cleifion canser a gwasanaethau oncoleg a gynhelir ar draws y ddau sefydliad, ynghyd â chefnogi gwaith rhanbarthol mwy cynhyrchiol.

Dywedodd David Fluck, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

“Hoffwn longyfarch Richard ar ei gyfle secondio diweddar fel Cyfarwyddwr Meddygol gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae Richard yn gydweithiwr poblogaidd iawn yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac mae'r profiad a'r cymorth y mae wedi'u rhoi'n bersonol i mi a'r sefydliad ehangach fel Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro wedi bod yn amhrisiadwy.

Mae wedi gweithio'n helaeth gyda Chyrff Meddygon Ymgynghorol, Colegau Brenhinol a chydweithwyr clinigol mewn partneriaeth ar draws ystod o brosiectau a rhaglenni gwaith wrth barhau i gyflawni llawer o'i ddyletswyddau clinigol. Bydd Richard yn allweddol wrth gryfhau cyfeiriad cydberthnasau clinigol rhanbarthol a lleol a llwybrau cleifion. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio ochr yn ochr â Richard a dymunaf bob llwyddiant iddo”.

 

 

Dilynwch ni