Neidio i'r prif gynnwy

Lleoliadau iechyd meddwl i ddod yn safleoedd di-fwg ledled Cymru

1 Medi 2022

O 1 Medi 2022, mae deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob lleoliad iechyd meddwl fod yn gwbl ddi-fwg. Mae hyn yn cynnwys yr holl unedau preswyl, wardiau, adeiladau, tiroedd a cherbydau ar ein safle.

Ers mis Mawrth 2021 mae wedi bod yn anghyfreithlon i smygu ar dir ysbytai, fodd bynnag, o dan y rheoliad hwn caniatawyd i leoliadau iechyd meddwl nodi ardaloedd smygu dynodedig mewn gerddi caeedig. Er budd iechyd cleifion, mae’r eithriadau hyn wedi’u tynnu o’r rheoliad ac yn dod i rym ar 1 Medi 2022. Mae lleoliadau iechyd meddwl yn Lloegr wedi bod yn ddi-fwg ers 2018.

Yn seiliedig ar arfer gorau a’r dystiolaeth sydd ar gael ynghylch gweithredu, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn mabwysiadu dull graddol i gefnogi’r trosglwyddiad gyda’r nod o roi’r newid ar waith yn llawn erbyn y gaeaf. Bydd hyn yn ein galluogi i gefnogi cleifion mewnol presennol yn y ffordd orau a pharhau i deilwra ein dull gweithredu yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwn ac adborth.

 

Helpwch ni i glirio’r aer

Mae BIP Caerdydd a’r Fro yn cydnabod pa mor bwysig y gall smygu fod i gleifion. Fodd bynnag, mae manteision iechyd sylweddol i roi’r gorau i smygu. Bydd ein staff wrth law i roi cyngor a chymorth wrth i ni roi’r gofynion newydd ar waith – yn ogystal ag yn barhaus wedi hynny. Bydd cefnogaeth i smygwyr yn rhan gynyddol bwysig o gynlluniau gofal unigol cleifion.

Bydd gan ein staff y cyfle i gael sgyrsiau agored gyda chleifion am smygu a nodi mecanweithiau cymorth sy’n iawn iddyn nhw. Bydd Therapi Amnewid Nicotin ar gael i gleifion mewnol sy’n smygwyr ac sy’n dymuno trin neu atal ysfeydd neu symptomau diddyfnu. Bydd hyn yn amodol ar eu hanghenion a’u hamgylchiadau unigol.

Mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl lawer yn fwy tebygol o fod yn smygwyr, a gall smygu gyfrannu at ddifrifoldeb y problemau iechyd meddwl hyn. Mae smygu hefyd yn un o brif achosion disgwyliad oes llai i bobl â phroblemau iechyd meddwl.

Mae rhoi’r gorau i smygu yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl. Mae tystiolaeth yn dangos bod rhoi’r gorau i smygu yn arwain at wella eich hwyliau ac ansawdd bywyd, yn ogystal â llai o symptomau o orbryder ac iselder.

Mae astudiaethau wedi dangos bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yr un mor debygol o fod eisiau rhoi’r gorau iddi, ac y byddant yn gallu gwneud hynny cystal â’r boblogaeth gyffredinol pe bai’r gefnogaeth gywir yn cael ei gynnig iddynt. Mae smygwyr hefyd bedair gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau i smygu gan ddefnyddio Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Smygu’r GIG na phe baent yn ceisio rhoi’r gorau iddi ar eu pen eu hunain.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Does dim dwywaith y bydd hyn yn drosglwyddiad anodd i nifer o’n cleifion ond mae manteision rhoi’r gorau i smygu, i unigolion, cleifion, ymwelwyr a’n staff yn glir. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chleifion mewnol fel rhan o’u cynlluniau gofal unigol i ddarparu cymorth wedi’i deilwra. Bydd hyn yn gyfle i gleifion gael mynediad at gymorth gwych a fydd yn rhoi’r cyfle gorau posibl iddynt roi’r gorau i smygu. Rydym yn ymgysylltu â chleifion mewnol i’w paratoi ar gyfer gweithredu’r ddeddfwriaeth hon ac rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’n rhanddeiliaid, y mae gan lawer ohonynt berthynas ardderchog â’n defnyddwyr gwasanaeth a’n cleifion, i wella sut rydym yn darparu canllawiau a chymorth rhoi’r gorau i smygu i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Rydym yn annog cleifion i gael sgyrsiau agored gyda staff am smygu.”

Bydd staff y Bwrdd Iechyd yn gefnogol wrth herio cleifion sy’n cael eu gweld yn smygu ac yn defnyddio hyn fel cyfle i drafod smygu a’u cyfeirio at y cymorth sydd ar gael. Fodd bynnag, dylai cleifion nodi bod deddfwriaeth ddi-fwg yn golygu ei bod yn anghyfreithlon i smygu ar dir ysbytai a gall unrhyw un sy’n cael ei ganfod yn smygu gan y tîm gorfodi wynebu Hysbysiad Cosb Benodedig o £100.


Hawdd ei Ddeall - Mae lleoliadau iechyd meddwl bellach yn ddi-fwg yng Nghymru

Cwestiynau cyffredin

Dilynwch ni