Neidio i'r prif gynnwy

Lle ar gyfer Lles Amenedigol

Mae pobl yn aml yn siarad am yr emosiynau cadarnhaol maen nhw'n eu profi yn ystod beichiogrwydd a'r flwyddyn gyntaf o fod yn rhiant a llai am yr heriau emosiynol maen nhw'n eu profi - er gwaethaf y ffaith bod y rhain yr un mor gyffredin.

Mae'n gyffredin iawn i rieni beichiog a newydd brofi problemau gyda'u cwsg, eu hwyliau a'u lles cyffredinol. Bydd tua 1 o bob 5 menyw ac 1 o bob 10 dyn yn datblygu pryder iechyd meddwl yn ystod y cyfnod amenedigol.

Gall rhaglen newydd SilverCloud - Lle ar gyfer Lles Amenedigol helpu rhieni a gofalwyr i wella lles yn ystod beichiogrwydd a'r flwyddyn gyntaf ar ôl cael plentyn. Mae gofalu am eich lles yn rhan hanfodol o fod yn rhiant — pan fyddwch chi'n teimlo'n gytbwys ac yn ddigynnwrf, rydych chi'n poeni llai, yn meddu ar fwy o egni ac yn teimlo'n fwy hyderus wrth ymdrin â heriau bywyd.

Mae'r rhaglen 12 wythnos wedi'i chynllunio ar gyfer y rhai sy'n profi, neu a allai fod mewn perygl o brofi hwyliau isel neu ofidiau yn ystod y cyfnod rhianta.

Gan ddefnyddio technegau therapi ymddygiad gwybyddol, gall rhieni ddysgu deall eu meddyliau, eu teimladau a'u hymddygiad yn well a dysgu sut i wneud newidiadau cadarnhaol i'w lles meddyliol.

Mae Lle ar gyfer Lles Amenedigol wedi'i chynllunio i gyd-fynd â'ch amserlen ac mae ar gael ar alw, 24/7. I gael y canlyniadau gorau, argymhellir eich bod yn ymwneud â'r rhaglen am 15-20 munud y dydd dair i bedair gwaith yr wythnos. Bydd arbenigwr SilverCloud yn cysylltu â chi bob pythefnos i bersonoli'r rhaglen ac i gynnig anogaeth a chymhelliant parhaus.

Gall pobl sy'n byw yng Nghymru neu sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru gael mynediad at raglenni hunangymorth dan arweiniad SilverCloud ar-lein am ddim drwy GIG Cymru. Nid oes angen i chi gael eich atgyfeirio gan eich meddyg teulu, gallwch gofrestru a chyrchu eich rhaglen unrhyw bryd gan ddefnyddio eich ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur pen desg.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i nhswales.silvercloudhealth.com/signup.

Dilynwch ni