Neidio i'r prif gynnwy

Llawfeddyg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ennill gwobr am ymchwil cardiothorasig

Mae Christopher Roche, llawfeddyg cardiothorasig dan hyfforddiant, wedi ennill Medal Ronald Edwards yn ddiweddar am y Cyflwyniad Llafar Gwyddonol Gorau am ei waith ar batshys hydrogel bioprintiedig 3D yn cynnwys sfferoidau cardiaidd, a ddefnyddir i adfer gweithrediad y galon yn dilyn cnawdnychiant myocardaidd (trawiad ar y galon).

Er mwyn gwneud yr ymchwil hwn, penderfynodd Christopher gymryd seibiant o’i hyfforddiant llawdriniaeth gardiothorasig yng Nghaerdydd am gyfnod i ymuno â Phrifysgol Sydney yn 2019, lle bu’n astudio am dair blynedd.

“Mae yna lawer o wyddonwyr ledled y byd sy’n cynhyrchu patshys i amddiffyn y galon. Os ydych chi’n profi methiant y galon, y driniaeth fwyaf cyffredin ar gyfer hyn yw trawsblaniad calon, sydd hefyd yn achosi amryw o heriau. Mae’n llawdriniaeth enfawr, lle mae’n rhaid i galon gael ei chyflwyno gan roddwr, heb sôn am y cyffuriau atal imiwnedd gydol oes y mae’n rhaid eu cymryd i atal y corff rhag gwrthod organau. Felly, nid dyma’r driniaeth ddelfrydol.”

Mae datblygiadau mewn meddygaeth adfywiol, ac ymchwil fel gwaith Christopher, yn paratoi’r ffordd ar gyfer dewisiadau amgen llai ymwthiol i gleifion â chlefyd y galon.

Gall y patshys calon fod yn cynnwys deunyddiau amrywiol, megis gwahanol fathau o fôn-gelloedd, bioddeunyddiau neu geliau. Mae ymchwil Christopher yn sefyll allan oddi wrth y gweddill, gan ei fod ef a’r tîm yn canolbwyntio ar ddefnyddio patshys sy’n cynnwys sfferoidau. Mae sfferoidau yn glwstwr o gelloedd, wedi’u meithrin yn beli bach. Byddai pob pêl yn cynnwys tua 10,000 o gelloedd, a fyddai wedyn yn cael eu hongian yn y gel i greu’r patsh calon. Dyma lle daeth bioargraffu 3D i’r amlwg.

“Unwaith y datblygwyd y patshys calon, cawsant eu defnyddio mewn astudiaeth â llygod. O’r ymchwil, gwnaethom ganfod llawer o bethau.”

“Y darganfyddiad mwyaf oedd bod y patshys calon i weld yn newid meinwe’r galon letyol. Nid yn unig o ran ymateb imiwn, ond ymateb genetig hefyd. Roedd ein patshys a oedd yn cynnwys y sfferoidau yn creu ymateb digynsail i fynegiant genynnau celloedd y galon oddi tano.”

“Rhywbeth y gwnaethom ei ddatgelu, nad yw’n amlwg mewn astudiaethau blaenorol, yw’r ychydig ddealltwriaeth y tu ôl i fecanwaith patshys y galon, gan fod pob patsh i’w weld yn gwella’r galon i ryw raddau. Roedd y pwyslais ar ymateb imiwn celloedd y galon unwaith y cyflwynwyd corffyn estron i arwyneb y galon, gan helpu’r galon i ailfodelu, ond rydym eto i ddarganfod am ba reswm. Amlygwyd y darganfyddiad hwn yn yr ymchwil.”

Bellach yn ôl yng Nghymru i barhau â’i hyfforddiant llawdriniaeth gardiothorasig, mae Christopher yn gobeithio y gall ei ganfyddiadau ddylanwadu ar ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn y dyfodol.

“Rwy’n ôl yng Nghaerdydd a’r Fro nawr gyda set newydd o sgiliau a fydd, gobeithio, yn fy ngalluogi i gydweithio â gwyddonwyr eraill ar ymchwil pellach yn y dyfodol yng Nghymru. Rwy’n falch o fod yn hyfforddai o Gymru, yn casglu’r wobr am fy ymchwil y flwyddyn nesaf, ac yn un o’r enillwyr mwyaf ifanc ar lefel ST2.”

Bydd Christopher yn derbyn ei wobr yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas Llawfeddygaeth Gardiothorasig ym mis Mawrth 2024 yn ICC Cymru.

Mae Christopher yn gyfarwydd ag arloesi ym maes cardiothorasig, gan iddo gael ei gydnabod yn flaenorol am ddatblygu prototeipiau offer llawfeddygol ar gyfer llawdriniaeth robotig sy’n creu archoll mor fach â phosib i drawsblannu patshys i’r galon. Enillodd ‘HeartStamp’ Wobr Lawfeddygol Cutler 2022, a ddyfarnwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon i dimau neu unigolion er mwyn tynnu sylw at eu cyfraniad at arloesi a datblygiadau technegol llawfeddygol.

Dilynwch ni