Neidio i'r prif gynnwy

Lansio gwasanaethau rheoli ac atal pwysau yn y blynyddoedd cynnar newydd i gefnogi iechyd plant a phobl ifanc

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi lansio gwasanaeth rheoli ac atal pwysau newydd i blant a phobl ifanc, gyda chefnogaeth Tîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro a byrddau gwasanaethau cyhoeddus rhanbarthol.

Lansiwyd y rhaglenni Maeth i’ch Un Bach (NYLO) a Theuluoedd Egnïol, Bywydau Egnïol (AFAL) yn unol â strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach Llywodraeth Cymru, er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.

Yn ogystal, mae’r gwasanaeth yn cyd-fynd â Chynllun Symud Mwy, Bwyta’n Iach Caerdydd a’r Fro 2020-2023, sy’n ymdrechu i sicrhau bod pobl yn symud mwy ac yn bwyta’n iach drwy gydol eu bywydau.

Dim ond gwasanaethau rheoli pwysau i oedolion oedd yn bodoli yn flaenorol. Bydd lansio’r gwasanaeth rheoli pwysau plant yn llenwi bwlch drwy gynnig gwasanaeth am y tro cyntaf i blant a phobl ifanc.

O ystyried penderfynyddion iechyd ehangach, mae’r gwasanaeth rheoli pwysau plant yn cynnig cymorth a chyngor i deuluoedd, plant a phobl ifanc ar amrywiaeth o bynciau iechyd plant megis: bwyd, gweithgaredd, cwsg, straen, i roi sgiliau a gwybodaeth i deuluoedd i gefnogi ffyrdd iachach o fyw.

Yn dilyn asesu, gall timau NYLO ac AFAL y Bwrdd Iechyd ddarparu cymorth a gellir cyfeirio pobl at wasanaethau y bernir eu bod yn briodol ar gyfer eu hanghenion bryd hynny. Lle bo angen, mae mewnbwn arbenigol ar gael gan Feddygon, Deietegwyr, Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi, Seicolegwyr a Nyrsys Ysgol.

Dywedodd Rachel Smart, Deietegydd Arweiniol Clinigol BIP Caerdydd a’r Fro: “Mae pobl sydd dros eu pwysau ac yn ordew yn byw gyda stigma, beirniadaeth a chywilydd bob dydd. Fel gwasanaeth rheoli pwysau i blant, rydym yn ymdrechu i ddilyn gwerthoedd ac ymddygiadau’r Bwrdd Iechyd ar gyfer ein cleifion drwy ofalu amdanynt a’u cadw’n iach.

“Gyda chefnogaeth ac ymyrraeth dosturiol, anfeirniadol, rydym yn gobeithio rhoi amser i blant a’u teuluoedd ffynnu a mwynhau’r holl fanteision a ddaw o gael iechyd da. Ein gobaith yw y bydd plant yn tyfu i fod yn oedolion sy’n gofalu am eu hunain ac sydd â hunandosturi, sydd â pherthynas dda â bwyd ac ymarfer corff ac sydd ddim yn teimlo euogrwydd na chywilydd ynghylch dewisiadau bwyd.

“Nid oes unrhyw beth wedi bod ar gael i’n plant sydd dros eu pwysau ac yn ordew cyn hyn. Os ydym am leihau faint o bobl sydd dros eu pwysau ac yn ordew, mae angen cefnogaeth dosturiol ar blant a theuluoedd o oedran cynnar.”

Gellir cyfeirio atgyfeiriadau at dimau NYLO ac AFAL drwy’r Deietegwyr Cymunedol yng Nghanolfan Iechyd Glan yr Afon, Stryd Wellington, Treganna, Caerdydd, CF11 9SH. E-bost: Dietitians.cav@wales.nhs.uk.

Mae rhagor o wybodaeth a chymorth ar amrywiaeth o bynciau iechyd plant ar gael isod:

Dilynwch ni