Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi datblygu gwefan newydd, hawdd ei defnyddio i helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i gael gwell dealltwriaeth o’r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol.
Rydym yn deall bod rhieni a gofalwyr eisiau deall yr heriau y gall eu plentyn fod yn eu profi, sut orau y gallant eu cefnogi a pha gefnogaeth a gynigir gan y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol.
Mae’r wefan newydd cavyoungneurodevelopment.wales wedi’i theilwra i gefnogi rhieni a gofalwyr a allai fod yn poeni am ddatblygiad eu plentyn, sydd wedi cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth neu sydd wedi cael diagnosis.
Mae’r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol Plant a Phobl Ifanc yn cynnig cymorth arbenigol gan gynnwys asesiad, ymyrraeth a chyngor i blant a phobl ifanc sydd ag, neu y gallai fod ganddynt, Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) neu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).
Mae’r tîm amlddisgyblaethol yn gweithio’n agos gyda sefydliadau partner megis ysgolion, awdurdodau addysg, gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau trydydd sector i ddiwallu anghenion plant, pobl ifanc a'u teuluoedd mewn modd effeithiol a chyfannol.
Gall ymwelwyr â’r wefan ddod o hyd i wybodaeth ymarferol am y gwasanaeth, yr hyn y gall plant, pobl ifanc a theuluoedd ei ddisgwyl a’r adnoddau a’r cymorth sydd ar gael cyn ac ar ôl asesiad. Yn ogystal, mae'r wefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth a chyngor i helpu plant a phobl ifanc i ddeall rhai o'u meddyliau a'u teimladau a dod o hyd i gefnogaeth berthnasol.
At hynny, mae'r wefan yn darparu adnoddau a chanllawiau hanfodol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys y pwynt mynediad sengl ar gyfer atgyfeirio.
I ymweld â'r wefan newydd, ewch i cavyoungneurodevelopment.wales.