16 Hydref 2023
Mae heddiw yn nodi lansiad Arolwg Staff y GIG ledled Cymru — cyfle allweddol i bob cydweithiwr ledled GIG Cymru gyflwyno adborth dienw a fydd yn helpu i ddylanwadu ar gynlluniau a phenderfyniadau a wneir yn genedlaethol ac o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Mae cyflwyniadau electronig bellach yn fyw ac ar gael i'w cwblhau tryw ddolen ein porwr gwe yma a'n dolen ffôn clyfar/tabled yma, tan ddydd Llun 27 Tachwedd 2023, pan fyddant yn cau am 5pm. Bydd cyflwyniadau papur ar gael i'w cwblhau tan ddydd Llun 27 Tachwedd 2023, 5pm.
Ffôn – drwy ffonio 0808 169 9961 i gymryd rhan yn eich dewis iaith neu os oes gennych ofyniad hygyrchedd penodol.
Dywedodd y Prif Weithredwr Suzanne Rankin: “Mae eich mewnwelediadau a'ch profiadau yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio'r diwylliant, a sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu a gwella'r gofal a'r driniaeth a roddwn, ac yn bwysig iawn, i wneud Caerdydd a'r Fro yn lle gwirioneddol wych i ddysgu ac i weithio.
“Mae Arolwg Staff GIG Cymru yn ddull pwysig i ni allu deall beth sy’n bwysig i chi, a defnyddio'r mewnwelediad hwnnw i lywio cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhoi cyfle i chi rannu eich syniadau, pryderon ac awgrymiadau yn agored, ac yn bwysig iawn, yn ddienw.”
“Bydd eich adborth yn cael ei ddefnyddio i nodi meysydd lle gallwn ragori, a meysydd lle gallwn wneud yn well. Bydd yn gweithredu fel map ffordd i ni wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar flaenoriaethau a gweithredu newidiadau cadarnhaol yr wyf yn credu y byddant o fudd i bawb.”
Mae'r arolwg yn gwbl ddienw, ac ni fydd BIPCAF, AaGIC a phob Bwrdd Iechyd arall sy'n cymryd rhan yn cael unrhyw fynediad at ddata unigol na phersonol. Mae unrhyw ganfyddiadau sy'n cael eu hadrodd yn ôl yn rhai cryno ac nid ydynt yn datgelu manylion personol.
Bydd y data o Arolwg Staff GIG Cymru yn cefnogi ac yn sicrhau gwelliannau sylweddol a pharhaus mewn amgylcheddau gwaith a phrofiadau fel bod staff yn ffynnu ac yn gallu darparu gofal tosturiol o ansawdd uchel, sy'n gwella'n barhaus.
Mae'r arolwg ar gael ar gyfer staff sydd wedi eu contractio (ac eithrio gofal sylfaenol) a staff banc, y bydd cwmpas y rhain yn cael ei asesu a'i adolygu'n barhaus gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y canlyniadau ar gyfer yr arolwg eleni yn cael eu cyhoeddi yn y Gwanwyn, 2024.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.