Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Ap Newydd, 'Mentro Gyda'n Gilydd' i Gefnogi Pobl sy'n Byw gyda Dementia

19 Mai 2025

Mae ap newydd, Mentro Gyda’n Gilydd, wedi’i lansio i helpu unigolion sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd a’u cefnogwyr i fagu hyder a pharhau i ymwneud â threfn ddyddiol a manteisio ar wasanaethau yn eu cymunedau.

Yn deillio o ddatblygiad llwyddiannus fideos i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia i addasu i drefn newydd a mesurau iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig COVID-19, mae’r ap Mentro Gyda’n Gilydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynnal annibyniaeth a hyder y rhai sy’n byw gyda dementia.

Mae’r ap yn cynnig llyfrgell o fideos calonogol sy’n rhoi sicrwydd i bobl a’u helpu i ddod yn gyfarwydd â gweithgareddau dyddiol, offer ar gyfer creu fideos personol wedi’u teilwra i anghenion unigol, a chynlluniwr dydd i drefnu pethau fel trefn ddyddiol neu weithgareddau a diwrnodau allan.

Dywedodd Dr. Natalie Elliot, Arweinydd y Prosiect ac Arweinydd AHP Ymgynghorol Cenedlaethol ar gyfer Dementia ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rydym yn cydnabod effaith seicolegol ac emosiynol diagnosis dementia ar berson a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Yn ystod y pandemig gwnaeth hyn waethygu ymhellach, ac fe wnaeth gweithgareddau dyddiol, fel mynd am dro neu fynd i siopa am fwyd yn wythnosol, newid yn sylweddol. Bu’r fideos a’r straeon digidol a ddatblygwyd mewn partneriaeth â chydweithwyr yn y GIG, partneriaid awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn hynod lwyddiannus, a gwnaeth dros filiwn o bobl eu gwylio.

“Mae’r ap Mentro Gyda’n Gilydd wedi’i lansio o ganlyniad i’r llwyddiant hwn, sy’n cynnwys rhai o’r fideos sy’n parhau i fod yn berthnasol, ond sydd bellach yn rhoi’r gallu i ddefnyddwyr ddatblygu eu fideos eu hunain, gan ddilyn camau syml sydd wedi’u hymgorffori yn yr ap, ac i ddefnyddio Cynlluniwr Dydd i drefnu cyfres o fideos/straeon digidol i gynllunio gweithgaredd neu ddiwrnod allan. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ap yn rhoi sicrwydd i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr i deimlo’n hyderus ac yn gysylltiedig wrth iddynt barhau i gymryd rhan yn eu cymunedau.”

Wedi’i ddatblygu ar y cyd â GIG Cymru, awdurdodau lleol, a sefydliadau trydydd sector, mae’r ap Mentro Gyda’n Gilydd yn adnodd hanfodol, sy’n grymuso unigolion sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr i greu trefn ddyddiol a chymryd rhan yn hyderus mewn gweithgareddau dyddiol ac yn eu cymunedau.

Mae gan y tîm sy’n gweithio ar yr ap Mentro Gyda’n Gilydd ddiddordeb mewn gweithio gyda chymunedau a busnesau lleol i ddatblygu adnoddau fideo i’w hychwanegu at y llyfrgell. I unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu cynnwys penodol ar gyfer yr ap, cysylltwch â GetThere.Together.Cav@wales.nhs.uk. Mae'r ap ar gael o'r App Store ar ddyfeisiau iOS, Google Play Store a gellir ei gyrchu yma. Mae deunyddiau ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Dilynwch ni