Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams CBE yn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel Cadeirydd newydd

01 Hydref 2025

Yn dilyn ei phenodiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd ym mis Gorffennaf, mae Kirsty Williams CBE wedi dechrau yn ei rôl fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro heddiw.

Mae gan Kirsty brofiad helaeth ym maes y llywodraeth a gofal iechyd, ar ôl cyflawni amrywiaeth o rolau arwain drwy gydol ei gyrfa. Mae hi'n olynu'r Athro Charles (Jan) Janczewski, a wnaeth ymddeol ar 30 Medi ar ôl gwasanaethu fel Cadeirydd ers 2020.

Roedd Kirsty yn Aelod o'r Senedd o 1999 i 2021; gan arwain Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o 2008 i 2016, ac yn ddiweddarach yn gwasanaethu fel Gweinidog Addysg o 2016 i 2021. I gydnabod ei gwasanaeth cyhoeddus a gwleidyddol, dyfarnwyd CBE i Kirsty yn 2013. Cafodd ei gwneud yn gymrawd anrhydeddus o Goleg Brenhinol y Nyrsys yn 2016 hefyd am ei chefnogaeth i'r Ddeddf Lefel Staffio Nyrsys.

Yn 2022, daeth yn Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, swydd a gyflawnodd tan ei phenodiad diweddar. Yn ogystal â'i rôl newydd, mae Kirsty yn gwasanaethu fel Comisiynydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac mae ganddi rolau arwain mewn pwyllgorau addysg a thrafnidiaeth.

Dywedodd y Prif Weithredwr Suzanne Rankin: “Ar ran y Bwrdd a chydweithwyr ar draws y Bwrdd Iechyd, rydym wrth ein bodd yn croesawu Kirsty yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Bydd profiad arwain helaeth Kirsty yn amhrisiadwy wrth i ni barhau â'r gwaith cydweithredol i gyflawni ein strategaeth, Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol, mynd i'r afael â'n heriau a gwella ansawdd gofal, triniaeth a chanlyniadau'n barhaus ar gyfer y cymunedau a wasanaethwn.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos â hi wrth i ni barhau i adeiladu ar y gwaith sylfaen a gyflawnwyd hyd yn hyn tuag at ragoriaeth ym mhopeth a wnawn.

“Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Jan am ei arweinyddiaeth ryfeddol yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd. Mae wedi rhoi cyngor doeth, caredigrwydd ac ymroddiad aruthrol, ac rydym yn hynod ddiolchgar am ei wasanaeth i'r tîm a'n cymuned.”

Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd Kirsty: “Rwy’n llawn cyffro i fod yn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Jan hefyd am ei ymroddiad i'r sefydliad. Rwyf eisoes wedi cael y pleser o ymweld â nifer o wasanaethau ac mae ymrwymiad ac angerdd ein staff i ddarparu gofal rhagorol wedi bod yn gwbl amlwg.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau’r Bwrdd i gyflawni ein cenhadaeth o “Fyw’n Dda, Gofalu’n Dda, Gweithio Gyda’n Gilydd” i ddarparu gwasanaeth iechyd sy’n destun balchder ac sy’n ennyn hyder y cyhoedd.”

Dilynwch ni