Neidio i'r prif gynnwy

John Webber, Swyddog Cymorth Gofal Sylfaenol, yn rhoi ei 76ain peint o waed

30 Tachwedd 2023

130 Yn ddiweddar bu John Webber, cydweithiwr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn rhoi ei 76ain peint o waed.

Mae John, a ymunodd â’r GIG yng Nghaerdydd ym 1986, wedi bod yn rhoi gwaed am dros 30 o flynyddoedd ac yn ddiweddar, rhoddodd ei 76ain peint i Wasanaeth Gwaed Cymru.

Yn ôl Gwasanaeth Gwaed Cymru, gall rhoi gwaed helpu hyd at dri chlaf mewn angen a gallai cyfanswm anhygoel o 255 o gleifion fod wedi elwa o holl sesiynau rhoi gwaed John.

Dywedodd John, Swyddog Cymorth Gofal Sylfaenol: “Penderfynais roi gwaed am y tro cyntaf yn 1991 o ganlyniad i Ryfel y Gwlff.

“Cyn hyn, doeddwn i erioed wedi meddwl am roi gwaed a dywedais yn y swyddfa ar y bore Llun, heb fod o ddifrif, os oedd angen gwaed y byddwn yn ei roi. Erbyn amser cinio dydd Gwener, roeddwn i yn y Park Hotel yng Nghaerdydd yn rhoi gwaed am y tro cynaf.

“Mae’n rhoi’r boddhad i chi y gallai’r gwaed rydych chi’n ei roi helpu i achub bywyd person. Pan fyddwch chi’n darllen straeon am bobl sydd wedi derbyn gwaed a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud i’w bywydau, mae treulio’r 45 munud hwnnw yn mynd i roi gwaed yn gwbl werth chweil.”

Mae angen 350 o roddion y dydd ar ysbytai ledled Cymru i gefnogi cleifion mewn angen. Gall y rhan fwyaf o oedolion roi gwaed ac mae’n broses gyflym, syml a diogel.

“Byddwn yn annog pawb i roi gwaed,” ychwanegodd John. “Dydych chi byth yn gwybod pryd y gallech chi, neu aelod o’ch teulu, fod ei angen. Hyd yn oed os na allwch chi roi gwaed, mae ffyrdd eraill ar gael o gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru.”

I ddod o hyd i’r lleoliad agosaf atoch i roi gwaed ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i welsh-blood.org.uk.

Dilynwch ni