15 Mehefin 2023
Llongyfarchiadau i Jo Morgan; un o’n Nyrsys Ysgol annwyl sydd wedi’i lleoli gyda’n tîm yn y Fro, ar ei chyflawniad rhagorol diweddar o gael ei derbyn i Farchogion Sant Ioan am ei rôl fel gwirfoddolwr gydag Ambiwlans Sant Ioan.
Ceir mynediad i’r urdd trwy wahoddiad arbennig yn unig ac mae’n amodol ar sancsiwn Ei Fawrhydi Brenin Siarl III ‘i gydnabod cyflawniadau eithriadol tuag at ei genhadaeth, ei werthoedd ac ymrwymiad i gymryd rhan yn y dyfodol’.
Mae Joanne (yn y llun) yn ymuno â’r dethol rai o 20,000 o aelodau ledled y byd; mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi mynd ymlaen i gael eu hanrhydeddu gan Bennaeth Gwasanaeth y Sofran am gyflawni ymrwymiadau pellach yr urdd.
Ar ôl cael eich derbyn fel Aelod, mae 4 cyfle pellach (graddau) i gael dyrchafiad, sef Swyddog, Cadlywydd, Marchog neu Fonesig, Beili a Bonesig y Groes Fawr.
Wrth siarad am ei phrofiad gydag Ambiwlans Sant Ioan, dywedodd Joanne:
“Ymunais â Sant Ioan yn 2017 gan fy mod eisiau cwrdd â phobl newydd a mwynhau’r agwedd gymdeithasol, ond yn bwysicach fyth i roi yn ôl i’r gymuned a rhannu’r sgiliau rwyf wedi’u dysgu trwy gydol fy ngyrfa nyrsio ac i ddysgu gan eraill”.
Ar ôl clywed y newyddion am ei gwobr, dywedodd Joanne:
“Rwy’n teimlo’n falch iawn ac yn hapus fy mod wedi cael fy nghydnabod am fy ymdrechion i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol”.
Llongyfarchiadau Joanne ar y garreg filltir enfawr hon!