Neidio i'r prif gynnwy

Jenny Rathbone AS yn cyfarfod â myfyrwyr a thîm y Coleg Adfer a Lles

Ymwelodd Jenny Rathbone, yr Aelod o’r Senedd ar gyfer Canol Caerdydd, â myfyrwyr a’r tîm yn y Coleg Adfer a Lles ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ddiweddar i ddysgu mwy am werth cydgynhyrchu a chymorth cymheiriaid wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl.  

Gwnaeth Charles ‘Jan’ Janczewski, Cadeirydd, a Ceri Phillips, Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ynghyd â Hannah Morland-Jones, Pennaeth Profiad Personol a’r Coleg Adfer a Lles a Dan Crossland, Cyfarwyddwr Gweithrediadau y Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl, groesawu Jenny Rathbone AS ac fe’i gwahoddwyd i ddysgu mwy am ddull cydgynhyrchu a chymorth gan gymheiriaid y Coleg Adfer.  

Mae’r Coleg Adfer a Lles yn darparu cyrsiau addysgol am ddim ar ystod o bynciau iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles, a gall unrhyw un gofrestru i fod yn fyfyriwr i gael mynediad at gymorth lles ar bob lefel o’u hadferiad.  

Mae cydgynhyrchu wrth galon y Coleg Adfer, a chlywodd Jenny Rathbone AS gan hyfforddwyr cymheiriaid ac arweinwyr, therapyddion galwedigaethol a myfyriwr yn y coleg am sut mae eu profiad personol yn helpu i roi gobaith i fyfyrwyr wrth iddynt gychwyn ar eu taith adfer bersonol.  

“Roedd yn gyfle gwych i groesawu Jenny Rathbone AS i gwrdd â’n tîm yn y Coleg Adfer a Lles. Mae’r Bwrdd Iechyd yn hynod falch o’r cynnydd a wnaed o ran Arloesi a Phrofiad Personol ac mae’n galonogol gweld yr effaith bwysig y mae hyn wedi’i chael ar ddarparu gwasanaethau. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i wreiddio’r elfennau ymhellach mewn gwaith trawsnewid ar draws y sefydliad, wedi’i ysgogi gan agenda y mae defnyddwyr gwasanaeth yn cyfrannu ati er mwyn helpu i lunio’r gwasanaeth a gânt,” meddai Jan Janczewski, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.  

O ganlyniad i lwyddiant y Coleg Adfer a Lles ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae dull y Coleg Adfer wedi’i gynnwys yng nghynllun gweithredu Cynllun Strategol y Gweithlu Iechyd Meddwl ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. 

Yn ogystal, mae Hannah Morland-Jones yn gweithio’n uniongyrchol gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru fel Rheolwr y Rhaglen Strategol ar gyfer Profiad Personol, ar gyflwyno’r dull gweithredu ar sail genedlaethol er budd pawb ledled Cymru. 

I ddarganfod mwy am y Coleg Adfer a Lles, ewch i'r dudalen we hon trwy ddilyn y ddolen hon.  

Dilynwch ni