25 Gorffennaf 2022
Am ddau ddegawd mae Ivy Bruce-Gokah wedi bod yn mynd gam ymhellach i sicrhau bod ei chleifion yn cael y maeth sydd ei angen arnynt wrth iddynt wella yn yr ysbyty.
Mae’r arlwywr ward sy’n gweithio yn yr adran Cyfleusterau, Arlwyo Cleifion yn Ysbyty Athrofaol Cymru nid yn unig wedi bod yn gweini prydau bwyd i gleifion ers 2002 ond mae hi hefyd yn rhoi gwên ar eu hwynebau a chyfeiriwyd ati fel ‘llygedyn o heulwen’.
Yn ystod gyrfa Ivy mae hi wedi paratoi mwy na 600,000 o brydau bwyd ac os nad oes unrhyw beth ar y fwydlen sy’n plesio ei chleifion, bydd yn sicrhau bod rhywbeth ar gael iddynt fwyta.
“Rwy’n cael boddhad o sicrhau bod y cleifion yn cael yr hyn y maent yn dymuno ei fwyta, hyd yn oed os nad yw ar y fwydlen, rhoi gwên ar eu hwyneb a’u gweld yn gwella,” meddai Ivy, a gafodd ei llongyfarch ar ei gwasanaeth hir gan Charles Janczewski Cadeirydd BIP Caerdydd a’r Fro.
“Os nad yw pobl wedi bwyta ers cwpl o ddiwrnodau yna mae hynny’n bryder gan fod angen bwyd i helpu’r feddyginiaeth er mwyn gwella.
“Fe af i gam ymhellach i gael y bwyd y mae’r claf ei eisiau. Rwyf wedi cael cleifion na fyddent yn bwyta dim byd felly gofynnais i nyrs ofyn i’w teulu beth maen nhw’n hoffi ei fwyta fel arfer. Pan ddywedon nhw wrtha i mai selsig oedd hynny, fe wnes i nhw iddi ac ni ddywedais unrhyw beth dim ond eu rhoi o’i blaen. Y peth nesaf daeth y nyrs ataf a dweud ‘Ivy, mae fel hud a lledrith maent wedi diflannu’ a oedd yn fy ngwneud yn hapus.
“Os ydw i’n trio a dydyn nhw dal ddim yn bwyta’n dda yna rydw i wedi gwneud fy ngorau a dyna’r cyfan y gallaf ei wneud.”
Mae diwrnod arferol i Ivy yn cynnwys dechrau am 7am a chael y troli brecwast yn barod a all gynnwys uwd, wy wedi’i sgramblo, ffa, tost, ffrwythau, iogwrt, sudd, te a choffi.
Unwaith y bydd y gwasanaeth brecwast wedi gorffen a’r llestri wedi’u clirio, mae Ivy’n gweini te ac yn paratoi archebion ar gyfer cinio.
“Rydw i bob amser yn gwneud yn siŵr bod gen i gynllun wrth gefn ar gyfer cleifion, weithiau maen nhw eisiau rhywbeth ysgafn fel salad,” meddai Ivy, sy’n cael ei galw’n ‘Mamma’ gan ei chydweithwyr.
“Rwyf wedi gweithio ar bob ward yn yr ysbyty gan gynnwys plant a mamolaeth ond mae C1 yn teimlo’n gartrefol iawn i fi.
“Mae rhai cleifion wedi derbyn newyddion drwg a gallant gymryd eu rhwystredigaeth allan arnoch chi ond dydw i ddim yn ei gymryd i galon gan fy mod yn gwybod nad ydyn nhw’n ei olygu. Mae bod yn yr ysbyty’n gallu achosi llawer o straen i bobl a bydd llawer yn ymddiheuro’n ddiweddarach.”
Mae ei nai Japhet, 26, sydd hefyd wedi ymuno â’r adran Cyfleusterau, Arlwyo Cleifion fel arlwywr, bellach yn gweithio gydag Ivy.
“Rwy’n mwynhau fy swydd, yn gweithio gyda’r staff a’r cleifion,” meddai Ivy a gollodd ei gŵr Theo yn ddiweddar. “Fe oedd fy nghraig ac fe wnaeth fy nghefnogi gyda fy ngwaith. Os gallaf roi gwên ar wyneb rhywun yna bydd popeth yn iawn.”
Dywedodd Sarah Bartlett, Rheolwr y Tîm Arlwyo Cleifion: “Mae Ivy yn aelod poblogaidd o staff ac yn cael ei pharchu gan bawb. Mae ei gwên yn goleuo ystafell. A gall ei chwerthiniad wneud i bawb wenu.
“Mae hi bob amser yn rhoi’r cleifion yn gyntaf, ac mae hi’n ein helpu ni i gyflenwi pryd bynnag y bydd galw.”