Neidio i'r prif gynnwy

IDM2024 | Dewch i gwrdd â'n bydwragedd arbenigol yn nhîm Elan sy'n cefnogi pobl agored i niwed

3 Mai 2024

Mae 5 Mai 2024 yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Fydwraig ac eleni, rydym yn taflu goleuni ar ein Tîm Bydwreigiaeth Elan anhygoel sy’n cefnogi menywod a theuluoedd agored i niwed.

Mae’r tîm arbenigol o fydwragedd yn cefnogi cannoedd o fenywod a theuluoedd agored i niwed bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn derbyn gofal iechyd tosturiol, diogel a theg.

Mae’r rhai sy’n cael eu cyfeirio at y gwasanaeth yn cynnwys menywod sy’n ceisio noddfa, goroeswyr trawma neu arferion niweidiol, rhieni ifanc, teuluoedd sy’n profi digartrefedd, dioddefwyr trais domestig, menywod ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai sy’n dioddef o iechyd meddwl gwael.

Maent yn aml yn wynebu rhwystrau o ran cael mynediad at ofal iechyd neu ymgysylltu â gwasanaethau ac mae Elan yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau’r trydydd sector a phartneriaid i ddarparu gofal unigol i wella canlyniadau i deuluoedd.

Dywedodd Wendy Ansell, Bydwraig Arbenigol i Fenywod sy’n Ceisio Noddfa a Goroeswyr Arferion Niweidiol: “Rydw i wrth fy modd gyda fy swydd ac rwy’n teimlo’n hynod o freintiedig. Rwy’n gofalu am grŵp o fenywod, sy’n arbennig o agored i niwed, ag anghenion cymhleth iawn. Gallant ddod ataf ar unrhyw gam gwahanol o’u beichiogrwydd, weithiau heb dderbyn unrhyw ofal cynenedigol, a gyda chyflyrau corfforol neu seicolegol yn sgil yr hyn y maent wedi’i brofi.

“Fy rôl i yw eu cefnogi i lywio gwasanaethau mamolaeth, eu harwain trwy gydol eu beichiogrwydd a’u cefnogi unwaith y byddant wedi cael y babi. Ein nod yw cael mam iach a babi iach ac rydym yn gwneud hynny trwy sicrhau eu bod yn derbyn gofal iechyd teg a’r gofal iechyd sydd ei angen arnynt.”

Mae wyth bydwraig ac un cynorthwyydd gofal mamolaeth yn gweithio yn Elan ac mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth a chyngor 7 diwrnod yr wythnos er mwyn sicrhau parhad y gofal.

Cymhwysodd Jude Beard fel bydwraig yn 2004 ac mae wedi gweithio yn nhîm Elan ers dros ddegawd.

“Roeddwn i eisiau gweithio gydag Elan i gefnogi menywod a allai fod yn teimlo ar goll neu ddim yn gwybod at bwy i droi, a gwneud yn siŵr eu bod yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt,” meddai.

“Rydym yn gweithio’n agos iawn fel tîm i sicrhau bod menywod mewn sefyllfa i roi’r dechrau gorau i fywydau eu babi. Yn aml, maent wedi cael profiadau negyddol yn y

gorffennol ac wedi datblygu diffyg ymddiriedaeth tuag at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yno i’w harwain a helpu i dorri unrhyw gylchoedd negyddol.

“Fel tîm, rydym yn anfeirniadol ac yn hyblyg er mwyn sicrhau ein bod yn gallu diwallu eu hanghenion — fel arfer rydyn ni’n cwrdd â menywod yn eu cartrefi, ond dydy hynny ddim yn bosibl bob amser, ac weithiau mae angen i ni fod yn hyblyg o ran pryd fyddwn ni’n cwrdd hefyd. Ond, ar yr un pryd, mae diogelu yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn ac rydym yn gwbl agored a thryloyw fel eu bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl ac yn cael eu cefnogi ar hyd y ffordd.”

Yn ogystal â gweithio gyda sefydliadau partner, mae Elan yn gweithio’n agos gyda sefydliadau trydydd sector ac elusennau fel Cwtch Baby Bank a The Birth Partner Project.

Dywedodd un o fydwragedd Elan, Kate Davies: “Rhan fawr o fy rôl yw gwneud yn siŵr bod ganddynt bopeth yn ei le fel eu bod yn barod ar gyfer y babi. Gallai hynny olygu eu helpu i gofrestru gyda meddyg teulu, eu helpu i gofrestru eu plant mewn ysgol leol neu esbonio pa gymorth y mae ganddynt hawl iddo.

“Weithiau, y pethau bach sy’n ymddangos yn hawdd i lawer o bobl yw’r rhwystrau mwyaf yn y pen draw ac, ar ôl i chi fynd i’r afael â’r rheini, maen nhw mewn sefyllfa llawer gwell.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda llawer o sefydliadau gwych i wneud yn siŵr bod gan fenywod yr hanfodion ar gyfer eu hunain a'u babi. Mae Cwtch Baby Bank yn darparu basgedi babanod anhygoel yn rhad ac am ddim a phan fydd teuluoedd yn eu derbyn, gallwch weld y gwahaniaeth enfawr y maent yn ei wneud.

“Rydym hefyd yn gweithio gyda The Birth Partner Project, sy’n anhygoel ac sy’n gweithio gyda phartneriaid geni gwirfoddol i wneud yn siŵr bod gan fenywod sy’n ceisio noddfa, sydd ar eu pen eu hunain yn llwyr heb ffrindiau na theulu, rywun wrth eu hochr.

“Mae ein swydd yn un heriol a chymhleth iawn ond mae gweld menywod, sy’n dechrau eu taith mewn lle anodd iawn, yn datblygu ac yn llwyddo fel rhieni yn rhoi cymaint o foddhad.

Dilynwch ni