28 Rhagfyr 2022
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi agor ei gyfleuster seiclo diogel newydd ar gyfer staff ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru, fel rhan o’i ymrwymiad i annog teithio cynaliadwy.
Cafodd yr hyb newydd ei ddatblygu yn dilyn adborth gan staff ar sut i wella cyfleusterau seiclo a theithio llesol ar draws y bwrdd iechyd. Bydd yr hyb seiclo yn cynnwys storfa ddwy haen ar gyfer 90 o feiciau yn ogystal â chyfleusterau newid, dwy gawod neillryw, toiled ac ystafell sychu. Dyluniwyd y cyfleuster newydd gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, mae ganddo gladin pren ac mae wedi’i inswleiddio’n dda i leihau’r defnydd o ynni. Wedi’i leoli gyferbyn ag Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, bydd y cyfleuster diogel yn cael ei fonitro gan deledu cylch cyfyng, gydag aelodau o staff yn cael mynediad drwy ddefnyddio eu cerdyn adnabod.
Cafodd yr hyb newydd ei ddatblygu gan Wernick, contractwyr lleol o Bort Talbot, gyda’r cyfleuster yn cael ei adeiladu oddi ar y safle ac yna’n cael ei osod a’i gysylltu â chyflenwadau dŵr, draenio a thrydan ar y safle.
Dywedodd Geoff Walsh, Cyfarwyddwr Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau: “Bydd y cyfleuster newydd hwn yn chwarae rhan bwysig wrth greu lle dibynadwy a diogel i storio beiciau. Rydym wedi ymgynghori â chydweithwyr sydd eisoes yn seiclo i’r gwaith i ofyn iddynt gyfrannu at y cynlluniau i sicrhau bod y cyfleuster yn diwallu anghenion beicwyr a theithwyr llesol. Bydd y cyfleuster hwn yn helpu i ehangu mynediad ar feic i Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn cefnogi ein hymrwymiadau i hyrwyddo teithio iach a chynaliadwy, yn ogystal â chynllun teithio cynaliadwy Cyngor Caerdydd ar gyfer y ddinas.”
Mae Mike Mullan, Rheolwr Gwybodaeth am y Gweithlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn seiclwr a bu’n rhan o’r cynlluniau ar gyfer y cyfleuster newydd. Dywedodd, “Gwnaeth y cynlluniau argraff fawr arnaf ac fe awgrymais un neu ddau o ychwanegiadau gan gynnwys loceri, a drychau a sychwyr gwallt a allai fod yn ddefnyddiol i staff. Rwy’n credu y bydd y cyfleuster yn annog mwy o staff i seiclo i’r gwaith ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru.”
Y llynedd, datblygodd Cyngor Caerdydd gynigion ar gyfer pum Llwybr Seiclo i gefnogi a hyrwyddo seiclo i brif gyrchfannau ledled y ddinas. Bydd y llwybrau arfaethedig yn cysylltu cymunedau â phrif gyrchfannau ledled y ddinas, sydd hefyd yn cynnwys Llwybr Seiclo o Heol Allensbank i Ysbyty Athrofaol Cymru.
Drwy gydweithio ac ystyried y tymor hir, nod sefydliadau’r sector cyhoeddus yn y ddinas yw cynyddu cyfran y teithiau cynaliadwy a wneir yn ôl ac ymlaen i weithleoedd, gan leihau’r effaith ar yr amgylchedd a gwella iechyd pobl yng Nghaerdydd a’r Fro, nawr ac yn y dyfodol.