17 Chwefror 2022
Gan ystyried adborth gan staff ar sut i wella cyfleusterau seiclo a theithio llesol ar draws ein bwrdd iechyd, bydd yr hyb seiclo yn cynnwys storfa ddwy haen ar gyfer 90 o feiciau yn ogystal â chyfleusterau newid, gan gynnwys dwy gawod neillryw, toiled ac ystafell sychu. Bydd gan yr ardaloedd newid sychwyr gwallt a drychau uchder llawn.
Bydd gan yr adeilad gladin pren, wedi’i gynllunio i fanyleb uchel gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf. Bydd yr ystafelloedd sychu yn cynnwys dadleithyddion yn hytrach na gwres i sychu eitemau o fewn chwe awr, ac mae’r adeilad wedi’i gynllunio i fanteisio ar olau naturiol i leihau’r defnydd o ynni. Bydd yr ardal decin awyr agored yn cael ei hadeiladu gan ddefnyddio plastig wedi’i ailgylchu.
Bydd y cyfleuster diogel yn gwbl gaeedig a bydd yn cael ei fonitro gan deledu cylch cyfyng, gydag aelodau o staff yn cael mynediad drwy eu cerdyn diogelwch TDSI.
Bydd yr hyb seiclo wedi’i leoli gyferbyn ag Ysbyty Plant Cymru Arch Noa a bydd yn disodli’r unedau cawod dros dro presennol. Bydd y gwaith yn dechrau ar y safle ar 21 Chwefror 2022 a rhagwelir y bydd y prosiect yn cael ei gwblhau ddiwedd mis Mawrth 2022.
Yn ystod y gwaith o adeiladu’r cyfleuster newydd hwn, gall staff ddefnyddio’r cyfleusterau cawod presennol yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Ysbyty Athrofaol Cymru (rhaid talu ffi / aelodaeth), yn Nhŷ Dewi Sant ac yn Adain Glan-y-Llyn.
Dywedodd Geoff Walsh, Cyfarwyddwr Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau: “Rwy’n gyffrous i gyhoeddi dechrau’r gwaith ar yr hyb seiclo a fydd yn gyfleuster gwych i staff sy’n seiclo i’r gwaith yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a gobeithio y bydd yn annog mwy o staff i ystyried seiclo i’r gwaith. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn chwarae rhan bwysig wrth greu lle dibynadwy a diogel i storio beiciau. Rydym wedi ymgynghori â chydweithwyr sydd eisoes yn seiclo i’r gwaith i ofyn iddynt gyfrannu at y cynlluniau i sicrhau bod y cyfleuster yn diwallu anghenion beicwyr a theithwyr llesol.
“Mae’r cyfleuster hwn yn cefnogi ein hymrwymiadau i hyrwyddo teithio iach a chynaliadwy, yn ogystal â chynllun teithio cynaliadwy Cyngor Caerdydd ar gyfer y ddinas.”
Y llynedd, datblygodd Cyngor Caerdydd gynigion ar gyfer pum Llwybr Seiclo i gefnogi a hyrwyddo seiclo ar gyfer pob oedran a gallu. Bydd y llwybrau arfaethedig yn cysylltu cymunedau â phrif gyrchfannau ledled y ddinas, gan gynnwys canol dinas Caerdydd a Bae Caerdydd. Mae hyn hefyd yn cynnwys Llwybr Seiclo o ganol dinas Caerdydd i Ysbyty Athrofaol Cymru.
Y gobaith yw mai’r hyb seiclo yn Ysbyty Athrofaol Cymru bydd y cyntaf o dri, a fydd yn cynnwys cyfleuster ychwanegol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac un arall yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Mae Mike Mullan, Rheolwr Gwybodaeth am y Gweithlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn seiclwr a bu’n rhan o’r cynlluniau ar gyfer y cyfleuster newydd. Dywedodd, “Gwnaeth y cynlluniau argraff fawr arnaf ac fe awgrymais un neu ddau o ychwanegiadau gan gynnwys loceri, a drychau a sychwyr gwallt a allai fod yn ddefnyddiol i staff. Rwy’n credu y bydd y cyfleuster yn annog mwy o staff i seiclo i’r gwaith ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru.”
O 1 Mawrth 2022, bydd y cynllun Seiclo i’r Gwaith sy’n galluogi staff i arbed hyd at 30% wrth brynu beic ar agor drwy gydol y flwyddyn i staff.
Gan weithredu fel cynllun aberthu cyflog, mae Seiclo i’r Gwaith yn caniatáu i chi brydlesu beic – gan gynnwys e-feiciau – dros gyfnod o flwyddyn, gan wneud 12 taliad cyfartal bob mis i dalu am y gost.
Ar ddiwedd y flwyddyn gallwch naill ai dalu ffi, ac mae’r beic bellach yn eiddo i chi, neu drefnu cytundeb llogi estynedig heb gost. Gellir defnyddio’r cynllun ar gyfer ategolion beiciau a dillad hefyd, gwerth hyd at £3,000.
Dim ond ddwywaith y flwyddyn yr oedd y cynllun ar gael yn y gorffennol, fodd bynnag bydd y cynllun bellach ar agor drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r cyfleuster newydd ac estyniad y cynllun Seiclo i’r Gwaith yn rhan o ymrwymiad BIP Caerdydd a’r Fro i ‘Ofalu am Bobl, Cadw Pobl yn Iach’, gan sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’i ddinasyddion yn ffynnu nid yn unig heddiw, ond am flynyddoedd lawer i ddod.
Mae’r cynllun hefyd yn ategu ymrwymiad y sefydliad i’r Siarter Teithio Iach yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Fel un o’r llofnodwyr ochr yn ochr â sefydliadau partner yn y sector cyhoeddus, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ac annog staff ac ymwelwyr i deithio mewn ffordd gynaliadwy yn ôl ac ymlaen i’n safleoedd.
Drwy gydweithio ac ystyried y tymor hir, nod sefydliadau’r sector cyhoeddus yn y ddinas yw cynyddu cyfran y teithiau cynaliadwy a wneir yn ôl ac ymlaen i weithleoedd, gan leihau’r effaith ar yr amgylchedd a gwella iechyd pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, nawr ac yn y dyfodol.
17/02/2022