Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch ni i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn eich ardal chi yn gwella

Mae menywod, rhieni ac aelodau o'r teulu yn cael eu hannog i rannu eu profiadau diweddar o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol fel rhan o asesiad cenedlaethol o'u diogelwch.

Bydd lleisiau a phrofiadau menywod, rhieni a theuluoedd, a'r gweithlu mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru wrth wraidd yr Asesiad Sicrwydd Mamolaeth a Newyddenedigol Cenedlaethol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Panel Goruchwylio Annibynnol a benodwyd i gynnal yr asesiad yn cynnal amrywiaeth o sesiynau gwrando ledled Cymru. Boed yn gadarnhaol neu'n fwy heriol, nod y panel yw casglu ystod lawn o brofiadau diweddar o ofal mamolaeth a newyddenedigol, sy'n gynrychioliadol o bob cymuned.

Cynhelir cyfres o sesiynau gwrando unigol a grŵp wyneb yn wyneb ledled Cymru yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd.

Mae sesiynau ar gael ar hyn o bryd yng Nghaerdydd.

Cynhelir sesiynau gwrando rhithwir drwy fideo i'r rhai na allant fynd i'r sesiynau yn eu hardal neu os yw'n well ganddynt, tra gall pobl hefyd rannu eu profiadau diweddar yn ysgrifenedig.

Gellir rhannu profiadau diweddar yn ddienw, a chynigir cefnogaeth briodol i bob cyfranogwr.

Dywedodd yr Athro Sally Holland, Cadeirydd y Panel Goruchwylio Annibynnol:

“Ni allwn ddeall ansawdd a diogelwch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol heb glywed yn uniongyrchol gan fenywod, rhieni, teuluoedd a staff am eu profiadau. Mae hwn yn rhan ganolog o'n hasesiad.

“Mae’n bwysig bod pobl ym mhob cymuned ledled Cymru yn cael cyfle i gymryd rhan yn y sesiynau gwrando er mwyn sicrhau bod gennym ni ddarlun cyflawn o’r profiad cyfredol o gael mynediad at wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Felly, byddwn yn gweithio i gyrraedd grwpiau cymunedol, trydydd sector a ffydd ledled Cymru fel rhan o'r asesiad a byddem yn annog grwpiau o'r fath i gysylltu â ni i gymryd rhan.”

 

Gael rhagor o wybodaeth am yr Asesiad Sicrwydd Mamolaeth a Newyddenedigol Cenedlaethol yma.

Dilynwch ni