21 Chwefror 2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn datblygu gwasanaeth iechyd meddwl newydd i bobl ifanc mewn partneriaeth â Platfform — ac mae arnom angen eich help i ddewis ei enw.
Bydd yr Hyb Cymorth Cynnar ar gael i bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed sy'n profi heriau iechyd meddwl ac sydd angen cymorth mewn amgylchedd cyfeillgar, croesawgar. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n aros i gael mynediad at gymorth arbenigol, neu sydd eisoes yn manteisio arno.
Mae datblygu hybiau iechyd meddwl cymorth cynnar lleol, hawdd eu cyrchu, wedi profi'n ffordd effeithiol o ddarparu cymorth i blant a phobl ifanc pan fydd ei angen arnynt. Mae hyn yn cael ei ategu gan bobl ifanc yn y rhanbarth sy’n dweud wrthym y bydden nhw'n elwa ar adnodd o'r fath.
Rydyn ni eisiau cynnwys pobl ifanc ym mhob agwedd ar y gwaith o ddatblygu’r gwasanaeth newydd hwn ac un peth rydyn ni eisiau ei gael yn iawn yw'r enw!
Rydyn ni eisiau clywed eich awgrymiadau a darganfod beth rydych chi'n meddwl fyddai'n enw’n addas. I ddweud eich dweud, ewch i'r arolwg yma.