Neidio i'r prif gynnwy

Helpu Ni i'ch Helpu Chi y Gaeaf Hwn

23 Rhagfyr 2024

Mae ein hysbytai yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau o dan bwysau aruthrol.

Mae hyn yn golygu bod yr amseroedd aros o fewn yr Uned Achosion Brys yn hwy nag yr hoffem felly rydym yn apelio ar y cyhoedd i'n Helpu Ni i'ch Helpu Chi ac ystyried a oes ein hangen arnoch.

Os nad yw'n argyfwng, mae ffyrdd eraill y gallwch gael gafael ar wasanaethau gofal iechyd y tu allan i leoliad ysbyty acíwt a fydd yn cefnogi ein timau i ofalu am y rhai sydd ein hangen fwyaf.

Mae gan wiriwr Symptomau GIG 111 Cymru gyfoeth o wybodaeth am hunanofal a rheoli mân gyflyrau yn y cartref, a all helpu i leddfu’r pwysau ar wasanaethau gofal iechyd. Yma gallwch ddarganfod sut i gadw'ch hun yn iach gartref ac os oes angen cyngor pellach arnoch gall eich fferyllfa gymunedol helpu gyda'r rhan fwyaf o fân gyflyrau a salwch, gan ddarparu meddyginiaethau dros y cownter i reoli eich symptomau.

Mae eich Practis Meddyg Teulu yno i gefnogi gyda chyflyrau nad ydynt yn rhai brys yn ystod oriau gwaith ac mae gan bractisau nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar wahân i Feddyg Teulu sy'n cynnwys Nyrsys Practis, Ffisiotherapyddion ac Ymarferwyr Iechyd Meddwl a allai fod mewn gwell sefyllfa i roi cyngor ar eich anghenion gofal iechyd.

Mân Anafiadau 

Os oes gennych fân anaf, efallai mai’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Barri fydd yn gallu eich cefnogi orau. Gallwch gael mynediad at y gwasanaeth trwy ffonio 111 ac os yw'n briodol, bydd clinigwr yn trefnu apwyntiad i chi gyda'r Uned Mân Anafiadau. Nid yw hwn yn wasanaeth galw heibio, ffoniwch 111 cyn mynychu.

Os ydych yn sâl y tu allan i oriau ond nad yw’n argyfwng gallwch gysylltu â’r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau drwy ffonio 111. Bydd swyddog galwadau hyfforddedig yn gofyn cwestiynau i chi ac os oes gennych chi angen clinigol, bydd clinigwr yn eich ffonio'n ôl i'ch cynghori ar y ffordd orau o gael gofal, a all fod yn un o'n clinigau y Tu Allan i Oriau.

Wrth gwrs, os yw'n achos sy’n bygwth bywyd neu aelod o’r corff mae ein Huned Achosion Brys yma i chi, ond os gall aros, meddyliwch - a oes ein hangen arnoch chi neu a all lleoliad gofal iechyd arall eich helpu?

Lleihau'r amser y mae ein cleifion yn yr ysbyty

Ffyrdd eraill y gallwch chi gefnogi ein timau yw ein helpu i gael eich anwyliaid allan o'r ysbyty yn brydlon pan nad oes angen ymyrraeth feddygol arnynt mwyach. Mae ein timau’n gweithio’n galed i nodi a sefydlu pecynnau gofal i gefnogi’r rhai sydd ei angen ond byddem yn annog teuluoedd i ymgysylltu â’n timau yn gynnar i’w cefnogi i adael yr ysbyty pan nad oes ein hangen arnynt mwyach.

Nid lleoliad ysbyty acíwt yw’r lle gorau bob amser i gleifion pan nad oes angen triniaeth feddygol arnynt mwyach a gall aros yn yr ysbyty am gyfnod hwy nag sydd ei angen arwain at ddatgyflyru, sy’n cynnwys:

  • Colli annibyniaeth a chryfder y cyhyrau
  • Iselder
  • Treuliad gwael sy’n arwain at rwymedd
  • Dryswch
  • Colli hunanhyder

Rydym angen eich cefnogaeth i sicrhau bod eich anwyliaid ond mewn gwely ysbyty pan fydd ei angen arnynt. Mae eu symud adref pan fyddant yn feddygol iach hefyd yn golygu y gall ein timau ddefnyddio'r gwelyau acíwt ar gyfer cleifion sydd angen y lefel honno o ofal.

Os byddwch yn dod i'r Uned Achosion Brys, efallai y cewch eich cyfeirio at leoliad gofal iechyd sy'n fwy priodol i'ch anghenion fel eich bod yn derbyn gofal gan y tîm cywir. Gallai hwn fod yn un o’n safleoedd ysbyty eraill fel Ysbyty Athrofaol Llandochau, Ysbyty’r Barri neu Ysbyty Dewi Sant. Neu gallech gael eich cyfeirio yn ôl at wasanaethau cymunedol os yw'n rhywbeth a all aros.

Gallai aros yn yr ysbyty am gyfnod hwy nag sydd ei angen hefyd olygu eich bod mewn perygl o ddatblygu haint sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. Yn anffodus, rydym yn gweld cynnydd yn y ffliw ar safleoedd ein hysbytai gan ei fod yn cylchredeg yn y gymuned, felly rydym yn gofyn i bobl wisgo masgiau os oes gennych symptomau anadlol i leihau lledaeniad yr haint.

Diolch am ddarllen ac rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth wrth i ni ofalu am ein GIG.

Dilynwch ni