Mae clwb rhedeg cymdeithasol a sefydlwyd gan weithwyr BIP Caerdydd a'r Fro bron i ddegawd yn ôl yn chwilio am aelodau newydd.
Sefydlwyd Clwb Rhedeg Haeth Massive, sy'n cyfarfod deirgwaith yr wythnos ym maes parcio Parc y Mynydd Bychan, yn 2015 gan grŵp o bobl a oedd yn awyddus i wella eu lefelau ffitrwydd.
Mae'r clwb, nad yw'n gyfyngedig i staff y Bwrdd Iechyd, yn ymfalchïo yn ei awyrgylch "cyfeillgar, anfeirniadol" ar gyfer rhedwyr dros 18 oed.
"Rydyn ni'n grŵp cynhwysol iawn, ac rydyn ni i gyd yn rhedeg gyda'n gilydd," eglurodd Spiro Pezaros, sylfaenydd Heath Massive a hyfforddwr Athletau Cymru cymwysedig. "Agwedd gymdeithasol y clwb yw'r hyn sydd bwysicaf - rydyn ni’n cael llawer o hwyl."
Anogir aelodau newydd sy'n teimlo na allant redeg 5k yn gyfforddus heb stopio i lawrlwytho cynllun hyfforddi Soffa i 5k y GIG cyn ymuno â'r sesiynau grŵp.
Bob nos Fawrth, mae dau grŵp rhedeg ar wahân yn cychwyn am 6.15pm - un ar gyfer rhedwyr 5k a'r llall ar gyfer rhedwyr 8k.
Mae yna hefyd ddwy sesiwn ar ddydd Sul - un am 8am sy'n cwmpasu pellteroedd o 10k neu fwy, ac un am 9am i’r rhai sydd am redeg pellter mwy hamddenol o 5k.
"Rydyn ni'n gwneud llawer o 'looping' sy'n golygu bod y rhedwyr cyflymach yn mynd cyn belled ag y gall y llygad weld ac yna’n dod yn ôl ac yn ymuno â chefn y grŵp," ychwanegodd Spiro, sy'n gweithio fel Cydlynydd Arweiniol Digidol yn PCIC. "Mae rhedeg mewn grŵp yn bendant yn fwy diogel nag ar eich pen eich hun, yn enwedig pan mae'n dywyll."
Ychydig cyn i’r pandemig COVID-19 daro, roedd gan Heath Massive tua 80 o aelodau, ond ar ôl cwymp yn eu haelodaeth mae'r grŵp bellach yn ôl i tua 54 o aelodau.
"Mae llawer o bobl yn dod i'r clwb ac yn sylwi ar welliant enfawr mewn cyfnod byr o amser, diolch yn rhannol i anogaeth rhedwyr eraill," ychwanegodd Spiro. "Rydym wedi cael aelodau a ddechreuodd ar y rhaglen Soffa i 5k ac wedi mynd ymlaen i gwblhau Hanner Marathon Caerdydd."
Yn ogystal, mae'r clwb yn trefnu nifer o ddigwyddiadau eraill, gan gynnwys:
Sesiynau Cyflymder: Cynhelir ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis. Mae'r rhain yn cynnwys sbrintiau bryniau a gwaith cyflymder cyffredinol, a gynlluniwyd i helpu rhedwyr i adeiladu cryfder, stamina, a chyflymder.
Boreau Coffi: Cynhelir ar ddydd Sul olaf pob mis. Cynhelir y boreau coffi yn syth ar ôl y rhedeg, gan ychwanegu elfen gymdeithasol arall at y drefn.
Teithiau Cerdded a Rhediadau Lles: Mae teithiau cerdded a rhediadau ad-hoc yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth iechyd meddwl a meithrin cymuned drwy ochr gymdeithasol rhedeg.
Mae Heath Massive wedi derbyn arian gan Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro dros y blynyddoedd, ac mae disgwyl i faner newydd gael ei chodi rhwng Ysbyty Athrofaol Cymru a'r fynedfa i faes parcio Parc y Mynydd Bychan i hyrwyddo'r clwb.
Am fwy o wybodaeth am Heath Massive, ewch i’w gwefan.