Ganwyd yr efeilliaid Marieme a Ndeye yn gyfunedig. Yn wynebu’r posibilrwydd o golli'r wannaf o'r ddwy ferch pe bai meddygon yn cynnal llawdriniaeth, a disgwyliad oes isel iawn pe na baent yn gwneud hynny, gwnaeth eu tad Ibrahima a staff meddygol y penderfyniad mawr i beidio â'u gwahanu.
Nawr, yn 7 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, mae'r merched yn ffynnu ac yn parhau i herio'r anfanteision meddygol sydd yn eu herbyn.
Mae Inseparable Sisters yn ffilm agos-atoch, emosiynol ac ysbrydoledig sy'n taflu goleuni ar gwlwm di-dor y merched a phenderfyniad eu tad cariadus, Ibrahima. Yn 2017, trodd ei gefn ar ei yrfa lwyddiannus yn Senegal i chwilio am ofal meddygol hanfodol i'r merched. Bellach wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae’n cysegru ei fywyd iddyn nhw ac yn ystyried bob dydd gyda’i gilydd yn fendith.
Mae'r rhaglen ddogfen yn dilyn yr efeilliaid a’u bywydau o ddydd i ddydd. Trwy apwyntiadau ysbyty, ffitiadau dillad a’u bywyd yn yr ysgol brif ffrwd, mae’r rhaglen yn dilyn y staff cymorth, y timau meddygol a’r ffrindiau sy’n gofalu cymaint amdanyn nhw – wrth i ni ddod i adnabod personoliaethau unigol y merched a’u hysbryd heintus ar yr un pryd.
Mae'r rhaglen yn cynnwys Dr Gillian Body a Dr Jennifer Evans o Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru lle mae Marieme ac Ndeye yn parhau i dderbyn gofal.
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu nos Fercher 21 Chwefror am 8pm ar BBC One Wales a 10.40pm ar BBC One.