26 Tachwedd 2024
Cafodd Madelaine Watkins, Nyrs Glinigol Arbenigol ar gyfer Seicosis mewn Oedolion Hŷn, ei henwi'n Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru 2024 mewn seremoni ddydd Iau diwethaf (21 Tachwedd).
Mae Madelaine yn gweithio o fewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn (MHSOP) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Dyfarnwyd teitl Nyrs y Flwyddyn Cymru iddi o ganlyniad i’w hymdrechion anhygoel i wella mynediad i bobl hŷn sy'n delio â seicosis, ac addysgu staff.
Dechreuodd mewn rôl beilot a grëwyd bedair blynedd yn ôl, ac yn dilyn archwiliad a ddatgelodd mai dim ond 10% o'r bobl yr oedd seicosis yn effeithio arnynt oedd yn cael therapi, gwnaeth y nyrs ysbrydoledig hon drawsnewid y dull o drin a chefnogi cleifion, gan ddarparu hyfforddiant seicosis i dros 100 o gydweithwyr. Mae Madelaine yn darparu therapïau critigol, sy’n ystyriol o drawma, gan roi mwy o ymreolaeth i bobl a'u teuluoedd pan fydd angen ymyriadau. Mae hi'n mabwysiadu’r iaith mae'r person yn ei defnyddio i ddisgrifio eu symptomau gan sicrhau dull personol o ddarparu therapi.
Gwnaeth y panel beirniadu gyfeirio at Madelaine fel nyrs ysbrydoledig sydd wedi dangos angerdd cyson i ddarparu profiad gwell i gleifion, ac wedi neilltuo ei gyrfa nyrsio i wella gwasanaethau ac eirioli dros grŵp nad ydynt yn cael sylw digonol mewn cymdeithas.
Dywedodd Madelaine Watkins: "Mae'r wobr hon yn meddwl y byd i mi. Bydd yn rhoi llwyfan i mi arddangos yr hyn y gall arbenigwyr nyrsio clinigol ei wneud a chodi ymwybyddiaeth o grŵp o bobl hŷn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a heb eu grymuso, sy’n cael profiadau gofidus a ddisgrifir weithiau fel seicosis.
"Trwy symud o fodel meddygol tuag at ddull sy'n ystyriol o drawma, gyda chefnogaeth fwy seicolegol a chymdeithasol, mae'r manteision i driniaethau a chanlyniadau iachâd yn ddiamheuol.
"Rwyf am ysbrydoli mwy o staff nyrsio i weithio yn y maes hwn a helpu myfyrwyr a nyrsys newydd gymhwyso i wireddu'r cyfleoedd gyrfa ym maes nyrsio iechyd meddwl."
Dywedodd Helen Whyley, Cyfarwyddwr Gweithredol RCN Cymru: "Rydym yn hynod falch o ddathlu cyflawniadau enillydd Nyrs y Flwyddyn eleni. Fel nyrs glinigol arbenigol, mae Madelaine wedi cael effaith ryfeddol trwy wella bywydau pobl â seicosis a grymuso ei chydweithwyr i ddarparu'r safon uchaf o ofal. Mae ei hymroddiad, ei harbenigedd, a'i hymrwymiad i arloesi yn dangos y gorau o'n proffesiwn. Mae hi'n ysbrydoliaeth i ni i gyd ac yn esiampl wych o sut mae nyrsys yn trawsnewid bywydau bob dydd."
"Rydym yn edrych ymlaen at weld Madelaine yn tynnu sylw at waith nyrsys iechyd meddwl yn y flwyddyn i ddod ac rwy'n gwybod y bydd yn llysgennad rhagorol i'r proffesiwn." Enillodd Madelaine y Wobr ‘Nyrs Gofrestredig - Iechyd Meddwl’ hefyd.
Llongyfarchiadau mawr i Madelaine Watkins am ennill Nyrs y Flwyddyn 2024 a Nyrs Gofrestredig – Iechyd Meddwl. Rydym yn falch iawn o'i gweld yn derbyn yr anrhydedd hon ac yn gwerthfawrogi ei holl waith gydag oedolion hŷn.
A llongyfarchiadau mawr i
Lisa Franklin, enillydd y Wobr Addysg Nyrsio
Tim Nicholls, enillydd y Wobr Nyrsio Arbenigol
Julia Somerford, enillydd y Wobr Gwella Iechyd Unigolion a'r Boblogaeth
Kim Baker, yn ail yn y Wobr Nyrsio Gofal Cymunedol a Sylfaenol
Jade Cole, yn ail yn y Wobr Nyrs Gofrestredig i Oedolion
Diana Mehrez, yn ail yn y Wobr Nyrsio Arbenigol