20 Rhagfyr 2024
Ddydd Mawrth 17 Rhagfyr dathlwyd pedwar Therapydd Galwedigaethol o wasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yng Ngwobrau Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymru Thinkedi 2024.
Enillodd Anne Taplin, Arweinydd Proffesiynol/Rheolwr Gweithredol y gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc, y Wobr Gweithiwr Iechyd Proffesiynol Cynhwysol.
Wedi'i henwebu gan riant claf, mae'r wobr hon yn cydnabod ymroddiad Anne i chwalu'r rhwystrau i'r gwasanaeth, gan sicrhau y gall babanod, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd elwa ar Therapi Galwedigaethol. O dan arweinyddiaeth Anne, cenhadaeth y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc yw 'agor ein mynediad a chynyddu ein cyrhaeddiad', gan arwain at y tîm yn dylunio ffyrdd haws o gael mynediad i'r gwasanaeth ac yna sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal cynhwysol gydag empathi.
Roedd Lauren Inglett, Therapydd Galwedigaethol yng Nghanolfan Plant Dewi Sant hefyd yn rownd derfynol y Wobr Gweithiwr Iechyd Proffesiynol Cynhwysol. Mae agwedd Lauren at therapi wedi'i gwreiddio mewn cynhwysiant, a chafodd ei henwebu am ei hymrwymiad i greu atebion therapi hygyrch sy'n diwallu anghenion amrywiol ei chleifion.
Roedd y Therapyddion Galwedigaethol Katie Nash a Jon Pearson-Wood ill dau yn rownd derfynol y Wobr Gweithwyr Rheng Flaen Proffesiynol Cynhwysol. Mae'r categori hwn yn dathlu'r rhai sy'n mynd gam ymhellach i ddarparu gofal tosturiol a chynhwysol.
Cafodd Katie ei chydnabod am ei gwaith eithriadol yn cefnogi unigolion niwroamrywiol a'u teuluoedd, tra chafodd Jon, hyrwyddwr ymarfer cynhwysol, ei enwebu am ddarparu gofal cynhwysol wedi'i deilwra i unigolion o bob cefndir.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd, gan dynnu sylw at fusnesau a gweithwyr proffesiynol sydd wedi ymrwymo i ddylunio gwasanaethau lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Llun o'r chwith i'r dde: Jon Pearson-Wood, Katie Nash, Lauren Inglett ac Anne Taplin