Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr achrediad efydd ar gyfer Ward B1 yn Ysbyty Athrofaol Cymru

Clinigwyr ar ward gardiaidd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yw’r cyntaf i dderbyn gwobr newydd am eu canlyniadau cadarnhaol i staff a chleifion. 

Cyflwynodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru, wobr efydd i ward B1 fel rhan o fenter achredu a gwella wardiau (WAI). Daethant i’r brig o flaen mwy na 60 o wardiau cleifion mewnol eraill ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. 

Nod fframwaith WAI yw dathlu timau sydd wedi cyflawni canlyniadau gwych, gan eu cefnogi yn eu tro i wneud gwelliannau cynyddol ar draws ystod o fetrigau. 

Nodwyd B1 fel ward a oedd yn perfformio’n dda ar draws amrywiaeth o feysydd gwahanol, gan gynnwys ei archwiliadau mewnol, monitro byw o lefelau staffio, aciwtedd cleifion, arolygon staff ac adborth cleifion. 

Cafwyd sawl ymweliad gan dîm achredu’r ward er mwyn iddynt allu siarad â chleifion ac arsylwi safonau gofal. 

Dywedodd prif nyrs ward B1, Mariamma Mathew: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y wobr efydd hon am achrediad a gwelliant ein ward. Mae ein tîm wrth eu bodd ac yn hynod falch o gael eu cydnabod, sydd yn ganlyniad misoedd o waith caled i gyrraedd y lefel hon. 

“Wrth gwrs, roedd llawer o’n dull gweithredu yn deillio o’n nyrsys arweiniol, ein huwch nyrsys a thîm gweinyddol arweiniol Ansawdd a Diogelwch Cleifion drwy weithio ar y cyd yn ein plith, ac ni allem fod wedi cyflawni hyn pe na baem i gyd yn gweithio tuag at yr un nod.” 

Ystyriodd yr adolygiad, o fwy na 60 o wardiau, pa fewnwelediadau y gellid eu cael o’u defnydd o: 

  • Tendable (archwiliad ward) 

  • SafeCare (lefelau byw staff nyrsio/aciwtedd cleifion) 

  • HealthRoster 

  • CIVICA (adborth cleifion) 

  • Arolygon Staff 

  • RLDatix 

Er mwyn profi fframwaith WAI a dilysrwydd dyfarnu’r wobr efydd, mesurwyd perfformiad B1 yn erbyn nifer o fframweithiau NHS England gan gynnwys Ysbytai Salford, Gateshead, Swydd Lincoln ac Ysbytai Coleg Prifysgol Llundain. 

Bydd timau ar draws wardiau cleifion mewnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro bellach yn gallu gweithio tuag at achrediad efydd, arian neu aur. 

Wrth i ddata a mewnwelediadau o systemau digidol eraill ddod ar gael, byddant hefyd yn cael eu hintegreiddio o fewn fframwaith WAI. Mae enghreifftiau sydd i ddod yn cynnwys Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) a Rhagnodi Electronig a Gweinyddu Meddyginiaethau (ePMA). 

Dros yr wythnosau nesaf, bydd tîm achredu’r ward yn cyfarfod â thimau ac yn cyflwyno’r cyfle i ymgysylltu â’r fenter hon. 

Dilynwch ni