20 Mai 2025
Dim ond plentyn yn ei arddegau oedd Ryan Muir, 40 oed o Sblot, pan roddodd gynnig ar ei sigarét gyntaf un.
“Roedd yn ystod y digwyddiad troi’r goleuadau Nadolig ymlaen yng Nghasnewydd,” cofiodd. “Roedd cwpl o fy ffrindiau wedi dechrau smygu, ac roedden ni i gyd wedi cyrraedd oedran lle’r oedden ni’n ceisio bod yn cŵl, felly rhoddais gynnig arni.
“Rwy’n cofio gweld un o fy ffrindiau da iawn a roddodd ffrae enfawr i mi am y peth. Roeddwn i’n teimlo cywilydd mawr, felly wnes i ddim smygu am ychydig ar ôl hynny.”
Ond ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, pan symudodd Ryan i Gaerdydd, rhoddodd gynnig ar smygu eto ar nosweithiau allan gyda grŵp newydd o ffrindiau. O hynny ymlaen, daeth yn arferiad parhaol.
“Pan rydych chi’n ifanc rydych chi’n teimlo’n anorchfygol, felly ni feddyliais am y goblygiadau iechyd ar y pryd,” ychwanegodd.
“Ond wrth i mi fynd yn hŷn sylweddolais fod fy lefelau ffitrwydd yn dechrau gostwng o ganlyniad i smygu. Mae gen i ffrindiau hefyd sydd wedi cael diagnosis o salwch cronig oherwydd eu bod yn smygu, fel COPD.
“Fe wnaeth i fi sylweddol nad ydw i’n mynd yn iau a bod angen i mi ddechrau canolbwyntio mwy ar fy iechyd.”
Daeth y trobwynt i Ryan pan ddechreuodd ddatblygu tinitws - canu yn y clustiau a all fod yn gysylltiedig â smygu - a gofynnodd am help gan ei feddyg teulu.
“Pan es i i’m meddygfa roedd blwch ticio yn gofyn a hoffwn gael cymorth i roi’r gorau i smygu. Roeddwn i’n arfer teimlo’n wael am smygu beth bynnag, felly roeddwn i’n ei weld yn gyfle perffaith i weld pa gymorth oedd ar gael.”
O fewn dyddiau, gwnaeth Helpa Fi i Stopio, gwasanaeth rhoi'r gorau i smygu sy'n cael ei redeg gan y GIG ac yn cael ei gynnig mewn practisau meddygon teulu, gysylltu â Ryan. Derbyniodd saith wythnos o gymorth wedi’i deilwra gan ymarferwr Helpa Fi i Stopio a chafodd 12 wythnos o gynnyrch disodli nicotin gwerth £250 am ddim.
“Gwnaeth Cathy [ymarferydd Helpa Fi i Stopio] gysylltu â mi yn gyflym iawn. Roedd y cymorth personol yn ddefnyddiol iawn – gallwn edrych yn ei llygaid bob wythnos a dweud wrthi sut oedd pethau wedi mynd, a dathlu pan oeddwn wedi llwyddo i gwtogi.”
Cyfaddefodd Ryan mai un o'i 'sbardunau' ar gyfer smygu oedd mynd ar wyliau - ond yn haf 2024 sylweddolodd ei fod wedi datrys y broblem o'r diwedd.
“Roeddwn i bob amser yn meddwl y byddwn i'n iawn yn cael ambell sigarét ar daith i ffwrdd, ond wedyn byddwn i'n dod adref ac yn dychwelyd i hen arferion. Ond ar fy ngwyliau olaf wnes i ddim smygu o gwbl a oedd yn fuddugoliaeth fawr i mi.
“Ers rhoi'r gorau iddi rydw i wedi gweld manteision enfawr. Rydw i wedi gallu rhedeg yn hirach, ac mae’n hyfryd peidio â gweld eich arian yn prinhau trwy gydol yr wythnos.”
Mae Ryan wedi annog eraill i geisio cymorth trwy Helpa Fi i Stopio gan ei fod wedi newid ei fywyd.
“Os oes cymorth gan Helpa Fi i Stopio yn eich meddygfa, gofynnwch amdano’n bendant. Rwyf wedi ceisio rhoi’r gorau iddi yn y gorffennol ar fy mhen fy hun gan ddefnyddio tabledi, gwm cnoi a phatshys, ond i mi, y cymorth personol oedd fwyaf effeithiol yn fy siwrnai i roi’r gorau iddi.”
I gael rhestr lawn o wasanaethau rhoi’r gorau i smygu yn lleol, ac i gael gwybod a oes angen i chi drefnu apwyntiad ymlaen llaw, cysylltwch â thîm canolfan gyswllt Helpa Fi i Stopio drwy:
Gall smygwyr hefyd gael eu cyfeirio at Helpa Fi i Stopio gan eu meddyg teulu neu nyrs practis, neu os ydyn nhw'n cael eu hunain yn yr ysbyty, gallant gael mynediad at Wasanaeth Rhoi’r Gorau i Smygu yr ysbyty a chynhyrchion disodli nicotin ar y safle cyn cael eu trosglwyddo'n ôl i'r gymuned. Mae rhai fferyllfeydd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg hefyd yn cynnig cyngor Helpa fi i Stopio a chynhyrchion disodli nicotin.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.