11 Medi 2023
Pan ddechreuodd Mark Canning, tad â chanddo un plentyn, ddioddef o salwch a dolur rhydd, credwyd ei fod yn dioddef o ffliw gastrig a chafodd ei gynghori gan ei feddyg teulu i orffwys ac yfed digon o ddŵr.
Ond yn y dyddiau a ddilynodd daeth ei boenau yn ei stumog yn fwyfwy difrifol a chynghorwyd ef i ymweld â'i adran achosion brys agosaf.
Er ei fod yn unigolyn heini ac actif iawn, a oedd newydd orffen triathlon yn y gampfa, dirywiodd ei gyflwr yn gyflym yn yr ysbyty ac o fewn dim ond pum awr i gyrraedd roedd yn yr adran gofal dwys yn ymladd am ei fywyd.
Dywedodd ei frawd Terence Canning, a oedd gyda Mark ar y pryd: “Roedd Mark yn gallu cerdded i mewn i’r ysbyty ganol dydd. Cafodd ddiagnosis o broblem carreg fustl ac roedd angen uwchsain arno. Ond nid oedd yn cymryd cyfarwyddiadau yn dda iawn ac roedd yn ymddangos yn ddryslyd iawn, roedd ei lygaid ar agor led y pen ac roedd wedi cynhyrfu.
“Gofynnwyd cwestiwn penodol iawn iddo am ei bwysau - 'Ydych chi fel arfer y maint hwn?' - ac atebodd 'Rwy'n gwneud marathon ac rwyf wedi gwneud triathlon', ac nid dyna'r ateb i'r cwestiwn hwnnw. I mi roedd yn beth rhyfedd i’w weld, ac ar y pryd doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor ddifrifol oedd dryswch Mark.”
Daeth i'r amlwg fod gan Mark sepsis, cyflwr lle mae'r system imiwnedd yn gorymateb i haint neu anaf. Heb sylw meddygol cyflym gall achosi methiant organau lluosog a marwolaeth. Gall unrhyw oedolyn fod â sepsis os yw’n dangos unrhyw un o’r chwe arwydd hyn:
Dywedodd Terence: “Doeddwn i erioed wedi clywed am sepsis a doeddwn i ddim yn gwybod yr arwyddion a’r symptomau, ond rydw i’n gwybod nawr bod dryswch yn arwydd allweddol o haint – a dim ond os oes gennych chi haint y gallwch chi gael sepsis. Pe bawn i’n gwybod byddwn wedi codi hynny gyda’r staff meddygol.”
Tra roedd Terence yn gwneud galwad ffôn i'w fam i roi gwybod iddi bod gan ei frawd stumog dost, dioddefodd Mark ataliad y galon a chafodd ei ruthro i’r uned gofal dwys gyda methiant organau lluosog. Cafodd ei roi mewn coma anwythol ac roedd ar ddialysis, ond yn anffodus, nid oedd ei galon yn gallu cymryd hyn.
“Fe aeth i’r ysbyty ar y dydd Iau, ac roedd yn farw – yn 41 oed – erbyn amser cinio dydd Sadwrn ar ôl mynd i sioc septig,” meddai Terence. “Mae ei effaith yn ofnadwy. Mae wedi gadael gwraig heb ŵr, a merch, a oedd yn dair ar y pryd, heb dad.
“Mae gwneud galwad am sepsis fel rhoi gwybod am ddamwain car erchyll. Mae'n annisgwyl, yn annrhagweledig ac ni allwch baratoi ar ei gyfer. Wnaeth neb ddeffro’r dydd Iau hwnnw gan feddwl y byddai Mark wedi mynd erbyn y dydd Sadwrn, gan gynnwys ef.”
Gwnaeth Terence, 50 oed o Ogledd Llandaf, Caerdydd, ddisgrifio ei frawd mawr Mark fel dyn teulu oedd yn “fywyd ac enaid y parti”.
“Roedden ni’n agos iawn ac yn byw ym mhocedi ein gilydd. Roedd ganddo bopeth i edrych ymlaen ato. Roedd yn gweithio'n galed, yn caru bywyd ac roedd yn ffrind i bawb. Rhoddodd wên ar wynebau pobl.”
Yn dilyn marwolaeth Mark, a ddigwyddodd ar 2 Mehefin, 2012 mewn ysbyty yn Lewisham, Llundain, ymgymerodd Terence â rôl gydag Ymddiriedolaeth Sepsis y DU i geisio gwella ymwybyddiaeth o'r cyflwr ymhlith y proffesiwn meddygol a'r cyhoedd yng Nghymru. Mae bellach yn gweithio fel Pennaeth Cymunedau yn yr elusen.
“Os caiff ei ddiagnosio a’i nodi’n gyflym, mae sepsis yn gymharol hawdd i’w drin,” esboniodd. “Yn debyg iawn i strôc, mae amser yn hanfodol, felly po hiraf y byddwch chi'n ei adael, y mwyaf tebygol y byddwch chi o gael canlyniad anffafriol.”
Mae sepsis yn effeithio ar amcangyfrif o 245,000 o bobl yn y DU bob blwyddyn, gan hawlio tua 48,000 o fywydau. Mae tua 40% o oroeswyr sepsis yn dioddef ôl-effeithiau parhaol sy'n newid bywyd.
Dywedodd Dr Paul Morgan, arweinydd sepsis ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, er bod ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau’r cyflwr wedi gwella dros y degawd diwethaf, bod tipyn o waith i’w wneud o hyd.
“Mae pobl yn ymwybodol o’r term sepsis trwy lawer o straeon sydd wedi cael cyhoeddusrwydd mawr yn y cyfryngau. Ond mae'n un peth i fod wedi clywed amdano a pheth arall yw gallu prosesu beth mae hynny'n ei olygu i chi fel unigolyn, neu beth mae'n ei olygu i'ch teulu, a beth ddylech chi fod yn edrych amdano,” meddai.
“Un o’r problemau mwyaf i’r cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol fel ei gilydd yw’r ffaith y gall symptomau fod yn eithaf amrywiol ac eang, ac nad ydynt yn arbennig o benodol. Fodd bynnag, mae yna bethau yr ydym yn edrych amdanynt.
“Yn gyntaf, mae’n rhaid i chi gael tystiolaeth o haint i gael sepsis, fel tymheredd uchel. Mae'n rhaid i chi hefyd gadw llygad am bobl sy'n siarad yn aneglur gan nad ydyn nhw'n cael digon o ocsigen i'r ymennydd. Gallant ymddwyn fel pe baent wedi meddwi neu wedi cael strôc.
“Rydym hefyd yn edrych am grynu eithafol neu boen yn y cyhyrau - y math o beth y gallech ei brofi os oes gennych ddos gwael iawn o ffliw pan fydd popeth yn brifo. Arwydd arall sy'n peri pryder yw peidio â phasio wrin oherwydd mae hynny'n awgrymu nad yw'r llif gwaed i'r arennau'n ddigon da i gynnal eu gweithrediad arferol.
“Rydym hefyd yn cadw golwg am smotiau ar y croen gan nad yw llif y gwaed i’r croen fel y byddai fel arfer, yn ogystal â theimlo’n fyr iawn o wynt. Unwaith eto, dyma’r math o beth y gallech feddwl yw annwyd neu haint ysgafn ar y frest, ond fe allai fod yn rhywbeth llawer mwy difrifol.”
Dywedodd Dr Morgan mai un o 'faneri coch' pwysicaf sepsis ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol yw pwysedd gwaed isel gan y gallai fod yn arwydd nad yw gwaed yn cael ei ddosbarthu i rannau arferol y corff fel y dylai fod yn gwneud.
“Gall sepsis ddigwydd i unrhyw un o unrhyw oedran, ond mae rhai pobl mewn mwy o berygl, yn enwedig yr ifanc iawn a’r henoed sydd â sawl salwch ar yr un pryd sy’n effeithio ar eu hiechyd cyffredinol, megis problemau’r galon, problemau’r frest a phroblemau arennau.”
Daeth i'r casgliad: “Mae’r proffesiwn meddygol wedi gwneud cynnydd dros y 10 mlynedd diwethaf o ran nodi a thrin sepsis, ond mae diffyg o hyd o ran digonolrwydd yr ymateb.”
Cynhelir Diwrnod Sepsis y Byd ddydd Mercher, Medi 13, 2023. I nodi'r diwrnod, bydd Dr Morgan yn gyfrifol am stondin ar y cyntedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru i siarad mwy am y cyflwr sy'n hawlio tua 11 miliwn o fywydau yn fyd-eang bob blwyddyn.
I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Sepsis y Byd, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yma. #SepsisSavy