Neidio i'r prif gynnwy

Gwiriadau iechyd y galon galw heibio ar gael ar gyfer pobl dros 40 oed Stadiwm Dinas Caerdydd - 19 Medi

Mewn partneriaeth ag Elusen Methiant y Galon Pumping Marvellous, bydd tîm methiant y galon Caerdydd a’r Fro yn stadiwm pêl-droed Dinas Caerdydd ar 19 Medi, yn cynnig sesiynau galw heibio ar gyfer archwiliadau iechyd y galon i unrhyw un dros 40 oed heb ddiagnosis o fethiant y galon yn barod.

Pryd a ble?

  • Dydd Iau 19 Medi
  • 10am - 3pm
  • Stadiwm Dinas Caerdydd, Leckwith Road, Caerdydd, CF11 8AZ

Pwy sy'n gymwys ar gyfer y prawf?

Mae'r prawf hwn ar gael am ddim i'r rhai dros 40 oed nad oes ganddynt ddiagnosis o fethiant y galon yn barod. Rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru i fynychu.

Beth sy’n cael ei wneud yn y prawf a faint mae’n para?

Yn ystod y prawf, byddwch yn cael eich asesu gan nyrs ac yn ateb cyfres o gwestiynau am eich iechyd, a bydd prawf pwysedd gwaed ac ECG yn cael ei wneud.

Os bydd unrhyw bryderon neu annormaleddau, gellir gwneud prawf gwaed pigiad bys i nodi arwyddion o fethiant y galon. Os bydd hyn yn annormal, bydd cardiolegydd ar y safle i'ch asesu a chynghori ar gynllun triniaeth, a all gynnwys atgyfeiriad at eich meddyg teulu neu brofion pellach.

Bydd y prawf yn cymryd tua 10-20 munud.

Dilynwch ni