Gwelliannau rhyfeddol mewn gofal i gleifion sydd wedi torri clun ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
I lawer o bobl, yn enwedig unigolion hŷn, bregus, mae toriad clun yn ddigwyddiad sy’n newid bywyd a allai arwain at orfod treulio cyfnod hir yn yr ysbyty a cholli annibyniaeth i raddau helaeth. Mae ymchwil yn dangos y gall llawdriniaeth adferol a symud yn gynnar roi’r cyfle gorau i’r cleifion hyn wella.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cydweithwyr Trawma ac Orthopedeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi gweithredu newidiadau radical yn eu llwybrau triniaeth, gan arwain at wasanaeth mwy cyflym ac effeithiol i gleifion sydd wedi torri’u clun.
Mae’r Llwybr Cyflym ar gyfer Toriad Clun wedi’i roi ar waith dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi arwain at welliannau sylweddol ym mhob agwedd ar daith y cleifion. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro bellach yn un o’r unedau toriad clun sy’n perfformio orau yn y DU. Mae’r tîm yn rhagori ar y cyfartaledd cenedlaethol am yr amser y mae’n ei gymryd i dderbyn cleifion i’r ward orthopedeg arbenigol a’r amser y mae’n ei gymryd i gael llawdriniaeth. Mae hyn yn golygu y gall cleifion ddechrau eu proses adsefydlu yn gynt, gan roi gwell cyfle iddynt ddychwelyd at sut oeddent yn gweithredu cyn yr anaf a’u man preswylio arferol.
Ym mis Awst 2023, sicrhaodd 18% o gleifion a ddaeth i Ysbyty Athrofaol Cymru gyda thoriad clun wely ar ward Trawma ac Orthopedeg o fewn pedair awr, sydd erbyn hyn wedi cynyddu i 40%. Yn ôl Cronfa Ddata Genedlaethol Toriad Clun, 9% yw’r cyfartaledd cenedlaethol.
Mae’r llwybr newydd yn ganlyniad gwaith ar y cyd rhwng timau amrywiol, gan gynnwys yr Uned Achosion Brys, Radioleg, Trawma ac Orthopedeg, Orthogeriatreg a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, gyda chefnogaeth ac ymgysylltiad llawn gan gydweithwyr ar draws y bwrdd iechyd.
“Mae’r llwybr wedi bod yn ymdrech tîm enfawr”, dywedodd Khitish Mohanty, Cyfarwyddwr Clinigol Trawma Orthopedig a Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
“Gwelwyd gwelliant sylweddol yn ein hamcanion perfformiad, yr ydym yn parhau i’w cyflawni o fis i fis, gyda gwell gofal i’n cleifion oedrannus, bregus. Mae’n wasanaeth gweithredol, ac rydym yn gwella ein prosesau yn gyson drwy system adolygu drwyadl.”
Fel rhan o’r llwybr newydd, mae Meddyg Brys Cyfrifol yn blaenoriaethu asesiad cyflym o doriadau clun wrth iddynt gyrraedd yr Uned Achosion Brys, ac mae meddygon yn anelu at wneud diagnosis swyddogol o doriad clun o fewn 2 awr o gyrraedd yr ysbyty.
Mae gwelyau ar y Ward Trawma ac Orthopedeg wedi’u neilltuo’n benodol ar gyfer achosion o doriad clun, ac mae cleifion yn cael eu symud yn gyson i Ward Adsefydlu Ysbyty Athrofaol Llandochau o fewn 48 awr o gael y llawdriniaeth. Uwch gydweithwyr nyrsio sy’n gyfrifol am gynnal y llif cyson hwn.
Fe wnaeth un o gleifion Mr Mohanty, Carol Rees sy’n 78 oed, dorri ei chlun ddiwedd mis Medi ar ôl baglu gartref. Cafodd Carol ei chludo i’r Uned Achosion Brys yn ystod oriau mân bore dydd Mercher 25 Medi ac fe gafodd lawdriniaeth ar yr un diwrnod.
“Roedd pawb yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau yn fendigedig, roedden nhw’n hyfryd i fi ac mor gefnogol,” meddai. Cafodd Carol ei rhyddhau o ward adsefydlu Llandochau ddydd Gwener 11 Hydref, a dywedodd fod ei hadferiad wedi bod “yn dda hyd yma”.
Mae Carol yn edrych ymlaen at fod yn ôl ar ei thraed, ac mae ffrindiau, teulu a gofalwyr yn gofalu amdani.
Mae’r Llwybr Cyflym ar gyfer Toriad Clun wedi sicrhau bod gan gleifion fel Carol lawer gwell siawns o wella’n llwyr a chynnal eu hannibyniaeth.