Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn ymweld ag YALl i ddysgu mwy am animeiddiad arobryn

5 Mehefin 2025

Croesawodd cydweithwyr yn yr adran Podiatreg ymwelydd arbennig i Ysbyty Athrofaol Llandochau ym mis Mai.

Treuliodd Dawn Bowden, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, y bore yng Nghanolfan y Plant i ddysgu mwy am animeiddiad arobryn o'r enw NewidCyflym.

Wedi'i ddatblygu gan bodiatryddion mewn cydweithrediad â'r Tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol, mae NewidCyflym yn anelu at annog plant ifanc i wneud gweithgaredd corfforol yn ddyddiol i hybu datblygiad iach eu traed a'u hosgo.

Wedi’i harwain gan amrywiaeth o gymeriadau cartŵn lliwgar, mae’r animeiddiad rhyngweithiol hwyliog yn annog plant i gymryd rhan mewn cyfres o ymarferion cryfhau ac ymestyn, heb fod angen offer ychwanegol na newid dillad.

Mae'r animeiddiad wedi cael ei dreialu'n llwyddiannus mewn sawl ysgol gynradd yng Nghaerdydd a Bro Morganwg, gydag athrawon yn nodi gwelliant mewn hwyliau a lefelau egni ymhlith eu disgyblion.

Mae fersiwn newydd o NewidCyflym bellach wedi'i haddasu i weddu i blant cyn-ysgol ac wedi'i lansio mewn rhai meithrinfeydd ar draws rhanbarth y Bwrdd Iechyd.

Dywedodd y podiatrydd Stephen Coombs, a oedd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o greu NewidCyflym: “Roedd yn wych croesawu Dawn Bowden i’r Ganolfan Plant a thynnu sylw at effaith bosibl NewidCyflym ar ein poblogaeth ifanc”.

Sylwodd Stephen, sydd wedi treulio dros 30 mlynedd yn y maes Podiatreg, fod plant a oedd yn mynychu ei glinigau yn mynd yn llai ffit, eu bod dros bwysau ac nad oeddent mor gryf yn eu craidd o gymharu â chenedlaethau eraill. Gwnaeth hyn ei ysbrydoli i weithredu.

Ychwanegodd: “Mae gordewdra ymhlith plant yn dod yn fwy cyffredin yng Nghymru a, heb ymyrraeth, bydd yn arwain at gynnydd yn nifer yr achosion o ystod eang o gyflyrau cronig ymhlith oedolion fel diabetes math 2, clefyd cardiofasgwlaidd a chyflyrau cyhyrysgerbydol.

“Gobeithiwn y gall NewidCyflym fod yn gymorth defnyddiol, gan annog mwy o weithgarwch corfforol i helpu i wella cryfder y traed a’r ffêr yn ogystal â chydbwysedd ymhlith plant ysgol a phlant cyn-ysgol.”

Cafodd Dawn Bowden ei chroesawu yng Nghanolfan y Plant ar 22 Mai gan Stephen, yn ogystal ag is-gadeirydd BIP Caerdydd a'r Fro, Ceri Phillips, Pennaeth Podiatreg dros dro, Vannesa Goulding a Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus y Coleg Brenhinol Podiatreg, Tess Saunders.

Yna cafodd Dawn daith o amgylch y cyfleusterau cyn gweld yr animeiddiad NewidCyflym drwy gyflwyniad gan Stephen.

Ychwanegodd Stephen: "Poen traed yw’r broblem gyhyrysgerbydol fwyaf cyffredin mewn plant 10 i 13 oed, ac mae un o bob pedwar plentyn yn profi poen cyhyrysgerbydol.

"Fel podiatryddion pediatrig, rydym yn aml yn gweld plant â phoenau tyfu, anawsterau cerdded a phoen gor-ddefnydd sy'n gysylltiedig â chwaraeon.

"Ond rydym hefyd yn trin plant â phroblemau iechyd mwy cymhleth fel arthritis plentyndod, genedigaeth gynamserol, neu heriau niwroddatblygiadol - a gall y rhain i gyd eu gwneud yn llai egnïol nag eraill o'u hoedran.

"Y drafferth yw y gall problemau traed ddechrau yn ystod plentyndod a pharhau i fyd oedolyn. Dyna pam mae ymyrraeth a chanfod y broblem yn gynnar mor bwysig, felly ein nod yw atal hyn rhag digwydd.”

Sefydlwyd NewidCyflym gyntaf yn 2019 ar ôl i Stephen sefydlu'r syniad o hyrwyddo sesiynau ymarfer corff - a oedd yn seiliedig ar y rhai a ddefnyddir mewn lleoliad clinigol - i blant ysgol i wella cryfder ac osgo cyffredinol eu traed/ffêr.

Gweithiodd Lauren Idowu o Dîm Iechyd y Cyhoedd Lleol BIP Caerdydd a'r Fro yn agos gyda Steve ar ddechrau'r prosiect.

Bu’r podiatrydd Jo Wrigley yn gweithio’n agos gydag Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Martha-Jane Powell, i ddatblygu’r syniad ymhellach unwaith y cadarnhawyd y cyllid ac yn helpu i’w gyflwyno i ysgolion, gyda Nia Jones yn adolygu’r briff ymchwil.

Ymhlith yr aelodau newydd sy’n ymuno â’r tîm mae’r podiatrydd Charlotte Holley a’r ffisiotherapyddion Sharon Hortop a Laura Morgan, sydd wedi helpu i ddatblygu ymarferion newydd i sicrhau bod y prosiect yn esblygu’n barhaus - a lansiwyd y fersiwn hon ym mis Mawrth 2025.

 

Dilynwch ni