23 Mai 2025
Yn ddiweddar, gwnaeth gwasanaeth Podiatreg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ennill y Wobr Ymyrraeth Traed Diabetig Orau yng Ngwobrau’r Journal of Wound Care 2025. Llwyddodd y tîm i ennill cystadleuaeth ryngwladol gref, gyda'r Eidal a Singapore hefyd yn agos at y brig.
Mae'r wobr yn dathlu llwyddiant y clinig Diabetic Foot Emergency Early Triage (DFEET), a lansiwyd yn 2023. Cafodd y fenter ei chydnabod yn flaenorol yn rownd derfynol y Gwobrau Ansawdd mewn Gofal Diabetes a Gwobrau Cyfnodolyn y Gwasanaeth Iechyd 2024.
Dywedodd Vanessa Goulding, Pennaeth Dros Dro Podiatreg ac Arweinydd Strategol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Traed Diabetes: "Trwy gael gwared ar rwystrau, mae cleifion yn hunanatgyfeirio ac yn cael mynediad i'r gwasanaeth pan fyddant ei angen. Gall cleifion weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gallu rheoli eu cyflwr heb fynychu eu Practis Meddyg Teulu na'r Uned Achosion Brys. Mae'n sicrhau eu bod yn derbyn y gofal iawn ar yr adeg iawn gan y person iawn - y tro cyntaf."
Mae canllawiau NICE yn argymell y dylai cleifion sy'n byw gyda Diabetes sy'n datblygu clwyf traed, haint traed neu anffurfiad Traed Charcot, gael eu gweld gan weithiwr proffesiynol meddygol o fewn 48 awr. I fynd i'r afael â hyn, treialodd y gwasanaeth Podiatreg glinig galw heibio. Gan ddechrau'n fach yn 2018, ac ond yn agored i bobl mewn un clwstwr meddygon teulu i ddechrau, ehangodd ar draws Caerdydd a'r Fro.
Meddai Vanessa: "Ni oedd yr unig wasanaeth oedd yn cynnal clinig galw heibio yn ystod COVID-19. Gallem weld y budd o weld pobl yn gynharach - roedd eu canlyniadau'n well. Doedden ni ddim eisiau, ar y pwynt hwnnw, roi'r gorau i wneud hynny."
Erbyn 2023 roedd y model hwn yn dod yn anghynaladwy, felly dyfeisiodd y tîm y clinig DFEET. Mae hwn yn glinig sy'n defnyddio brysbennu rhithwir yn gyntaf. Eglurodd Morgan Jones, Podiatrydd Arbenigol Iawn ac Arweinydd Prosiect: "Mae'r claf yn cysylltu â ni ac rydyn ni'n eu brysbennu ar yr un diwrnod. Yn dibynnu ar lefel yr argyfwng, byddwn yn eu gweld yr un diwrnod neu'r diwrnod canlynol."
Mae'r clinig DFEET yn gweithredu allan o Ysbyty Brenhinol Caerdydd ac Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Meddai Vanessa: "Dim ond mewn un lle yr oedd ein clinig galw heibio wedi'i leoli. Ond mae'r model hwn yn caniatáu inni flaenoriaethu a defnyddio ein capasiti yn well ar draws ein gwasanaeth."
"Rydyn ni'n gweld cleifion yn cael canlyniadau gwell; mae eu clwyfau yn gwella'n gyflymach. Rydym ymhlith y deg uchaf o gyfraddau iachâd ledled Cymru a Lloegr, a ni yw'r uchaf yng Nghymru. Nid yn unig yr ydym yn sicrhau canlyniadau gwell i gleifion, ond mae profiad cleifion wedi bod yn gadarnhaol. Rydyn ni wedi gallu atal cleifion rhag mynd at eu meddyg teulu neu fynd i’r Adran Achosion Brys oherwydd eu bod yn dod yn syth atom ni. Mae arbedion cost sylweddol i'r bwrdd iechyd."
Yn draddodiadol, mae gofal traed diabetig wedi cael ei arwain gan feddygon ymgynghorol, ond gall 80% o gleifion sy'n profi'r symptomau hyn gael eu trin gan Bodiatryddion.
Dywedodd Morgan: "Os yw cleifion yn ein ffonio yn gyntaf, mae'n stopio rhyngweithio diangen gyda meddygon teulu. Mae hefyd yn gadarnhaol i ni fel podiatryddion. Gallwn ddarparu popeth,
pob asesiad, diagnosteg ac mewn clinig 'siop un stop'. Rydyn ni'n gweithio ar frig ein maes - fel rhagnodwyr annibynnol sy'n trin cleifion â chyflyrau cymhleth."
Mae'r tîm bellach yn troi eu sylw at fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd gan geisio cael gwared ar rwystrau sy'n atal pobl rhag mynychu'r clinig. Fel cyn brosiect enghreifftiol Bevan, maent hefyd yn archwilio’r broses o ledaenu a chyflwyno’r model hwn ledled Cymru gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg eisoes yn mabwysiadu'r model.
Llun: Mae'r Podiatrydd Arbenigol Iawn Morgan Jones a Pennaeth Dros Dro Podiatreg Vanessa Goulding yn dal y gwobrau gyda aelodau o'r Gwasanaeth Podiatreg Darpariaeth Traed 'Mewn Perygl'.