Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith arloesol sydd o fudd i blant â chyflyrau ar y galon yn ennill gwob

14 Chwefror 2024

Mae plant ledled Cymru sydd â chyflwr ar y galon o'r enw Tachycardia Supraventricular (SVT) yn elwa ar waith arloesol gan glinigwyr yn Uned y Galon i Blant a Meddygon Ymgynghorol Pediatrig yn Rhwydwaith Cardiofasgwlaidd Pediatrig De Cymru yn ogystal â chleifion a'u teuluoedd, gan arwain at gydnabod Ysbyty Athrofaol Cymru yn Ganolfan Ragoriaeth.

Y grym dros newid

Yn ystod y pandemig COVID-19 roedd Uned y Galon i Blant yn wynebu her sylweddol.

Er mwyn gwneud diagnosis a thrin mathau o tachycardia yn ddiogel, lle mae calon plentyn yn curo'n llawer cyflymach na'r arfer, mae'n rhaid monitro rhythm y galon dros gyfnod o amser.

Gall cael cyfnodau o tachycardia achosi symptomau amrywiol a gall fod yn ofidus iawn i blant a'u rhieni. Os na chaiff ei drin, gall arwain at risgiau iechyd difrifol felly mae'r broses monitro arrhythmia yn hanfodol.

Yn draddodiadol, roedd Uned y Galon i Blant yn llogi dyfeisiau Holter ECG am hyd at 14 diwrnod. Gydag electrodau yn sownd i frest plentyn, byddai'r offer swmpus yn monitro gweithgarwch y galon ac yna'n cael ei ddychwelyd i'w ddadansoddi. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod clo, roedd yn amhosib cael y dyfeisiau i'r plant ac yn ôl i'r ysbyty, yn enwedig gan fod yr uned yn darparu gwasanaethau cardiaidd i blant ledled Cymru.

Dod o hyd i ateb arloesol

Dechreuodd yr Athro Orhan Uzun, Cardiolegydd Pediatrig Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, weithio gyda theuluoedd ei gleifion (Teuluoedd Calon Cymru) a'r tîm ehangach sy'n cynnwys Nyrsys Arbenigol Cardiaidd Pediatrig, Pediatregwyr sydd â diddordeb mewn Cardioleg mewn Ysbytai Cyffredinol Ardal, ac Ambiwlans Awyr i Blant Cymru i ddod o hyd i ateb - un sydd wedi profi'n fuddiol ar sawl lefel.

Nawr yn lle gorfod teithio i Gaerdydd i fenthyg dyfeisiau swmpus a drud Holter ECG, gall plant fynd i ysbyty lleol i gael watsh i’w gwisgo neu blât ECG bach i gario sy'n monitro rhythm eu calon. Mae'r watshis addasedig hyn neu blatiau ECG yn llawer llai costus a gellir eu benthyg am hyd at chwe mis yn hytrach na'r cylch pythefnos o hyd. Maent hefyd yn llawer haws i'w gwisgo, yn fwy cyfforddus ac yn achosi llai o embaras.

Gwnaeth y grŵp cymorth i rieni a chleifion, Teuluoedd y Galon Cymru, Pediatregwyr sydd â diddordeb mewn Cardioleg mewn ysbytai cyffredinol, ac Ambiwlans Awyr i Blant Cymru i gyd gymryd rhan lawn yn y gwaith o dreialu technolegau amgen, gan gyfrannu at ddyluniad y gwasanaeth, codi arian i brynu offer a rhoi'r offer newydd i ysbytai ledled De Cymru.

Mae'r dechnoleg ddigidol newydd yn ddibynadwy, yn ddiogel ac wedi'i hachredu. Mae'r watshis a'r platiau ECG hefyd yn llai ymwthiol a fforddiadwy, ac mae'r data'n gyflymach i'w ddadansoddi

Dywedodd yr Athro Uzun: "Mae'r offer traddodiadol yn gwthio allan, hyd yn oed os ydych chi'n ceisio ei guddio o dan eich crys mae'n dal i edrych fel swmp mawr felly mae plant yn teimlo'n anghyfforddus iawn ag ef. Ac nid yw'n anarferol, bythefnos ar ôl dychwelyd yr offer traddodiadol, eu bod yn profi tachycardia a’n bod wedi colli'r cyfle."

Gall rhieni nawr weld y recordiadau eu hunain, a gellir adolygu'r data hefyd yn llawer cyflymach ac yn haws heb dechnoleg arbennig. Mae cleifion yn lawrlwytho'r recordiadau o'u watsh i ffôn symudol neu liniadur, ac yn eu hanfon i gyfeiriad e-bost penodol a wiriwyd gan Nyrs Arbenigol Cardioleg Bediatreg, sy'n eu hanfon ymlaen at y meddyg ymgynghorol sy'n gyfrifol neu sydd ar alwad, i'w hadolygu.

"Os bydd y canlyniad yn normal byddwn yn tawelu meddwl y claf yn syth a gall barhau â'i fywyd. Os bydd yn annormal byddwn yn dechrau meddyginiaeth naill ai yng Nghaerdydd os ydyn nhw'n gleifion Caerdydd a'r Fro, neu mewn ysbytai eraill gan ein meddygon partner."

Cydnabyddiaeth fyd-eang fel Canolfan Ragoriaeth

I gydnabod eu llwyddiant, cafodd Ysbyty Athrofaol Cymru eu henwi’n Ganolfan Ragoriaeth a dyfarnwyd y wobr gyntaf iddynt, o gannoedd o geisiadau, yn adroddiad Pioneer 2023 Supraventricular Tachycardia (SVT) gan y Gynghrair Arrhythmia.

Wrth siarad am y wobr, dywedodd yr Athro Uzun: "Fe wnaethon ni weithio'n galed gyda'n gilydd yn ystod cyfnod anodd iawn, yn ystod COVID, ac roedd yr amser wedi dod i'w ddathlu, dathlu ein llwyddiant a'i rannu ag eraill. Mae hyn yn llwyddiant ar y cyd gan ddinasyddion a rhieni fel rhanddeiliaid, Pediatregwyr â diddordeb mewn Cardioleg mewn Ysbytai Cyffredinol Ardal, Nyrsys Arbenigol Cardiaidd Pediatrig, Ambiwlans Awyr i Blant Cymru, a'r Bwrdd Iechyd"

Martha's Dancing Heart

Mae Michelle Graham wedi bod yn codi arian ers tro ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a bu’n rhan allweddol o’r prosiect hwn. Cafodd ei merch Martha, 8, ddiagnosis o SVT cyn ei genedigaeth ac ers hynny mae hi wedi cael ei gwella. Wrth siarad am Uned y Galon i Blant dywedodd: "Wrth i amser fynd yn ei flaen, ac wrth i ni weld hi [Martha] yn tyfu ac yn dod yn berson anhygoel, dyna pryd maen dod yn amlwg eu bod wedi rhoi rhodd arbennig iawn i ni, felly rydyn ni'n ddiolchgar am byth ac yn benderfynol o barhau i godi arian cyn hired ag y gallwn".

Dechreuwyd Ymgyrch Martha’s Dancing Heart gan Michelle, sydd wedi addo codi £1 miliwn yn ystod oes ei theulu i gefnogi’r Gwasanaethau Newyddenedigol a’r Gwasanaethau Cardioleg Pediatrig a ofalodd am Martha ar ôl ei genedigaeth. Mae hi wedi cymryd rhan yn nifer o rasys Hanner Marathon Caerdydd ac mewn heriau athletaidd eraill, ac wedi trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian cymunedol.

 

Llun: Cynrychiolwyr o'r tîm sy'n derbyn y wobr. O’r chwith i’r dde: Dr Rainer Fortner o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM), Michelle Graham, codwr arian, Dr Max Nathan o BIPCTM, Martha, yr Athro Dr Orhan Uzun, Julie Montanari, Cadeirydd The Leon Heart Fund, Caroline Keogh o BIPCAF, Sheranie Morris, Ymddiriedolwr o The Leon Heart Fund, Karina Howell o BIPCAF,  Dr Amos Wong o BIPCAF.

Gallwch gefnogi Martha’s Dancing Heart drwy gyfrannu yma.

Dilynwch ni