Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Cymorth Bwydo ar y Fron Dinas Powys – Sesiwn Ymgysylltu

Bydd aelodau o’r tîm Iechyd Plant Cymunedol yn ymweld â Grŵp Cymorth Bwydo ar y Fron Llyfrgelloedd Dinas Powys ar 11 Tachwedd 2024 am 10am i drafod newidiadau o ran staffio’r grŵp yn y dyfodol.

Os ydych chi’n fam neu’n rhiant sy’n mynychu’r grŵp hwn ac yr hoffech ddysgu mwy am y newidiadau, dewch draw i sgwrsio â’r tîm a chael rhagor o wybodaeth.

Beth sy’n newid?

Ar hyn o bryd, mae’r grŵp cymorth bwydo ar y fron yn Llyfrgell Gymunedol Dinas Powys yn cael ei gefnogi gan un ymwelydd iechyd. O hyn ymlaen, bydd Grŵp Cymorth Bwydo ar y Fron Dinas Powys yn cael ei gefnogi gan gymysgedd o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a hyfforddwyd o bob rhan o’r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd, gan gynnwys nyrsys staff cymunedol a nyrsys meithrin cymunedol sy’n fedrus wrth adnabod pryderon o ran bwydo. Mae hyn yn adeiladu ar y model a weithredwyd yn llwyddiannus mewn grwpiau eraill.

Bydd yr holl staff sy’n cefnogi’r grŵp wedi derbyn hyfforddiant arbenigol ar fwydo ar y fron. Byddant hefyd wedi cwblhau sesiwn gysgodi cyn iddynt ymuno â’r rota ar gyfer y grŵp yn ffurfiol. Bydd modd cysylltu â’r Nyrs Arbenigol Bwydo Babanod os bydd angen cyngor ar y staff neu angen atgyfeiriad ar fam.

Sut mae’r newid yn cael ei reoli?

Bydd cyfnod o amser wrth i’r model gweithio newydd gael ei roi ar waith, gyda’r staff a fydd yn cefnogi’r grŵp yn cael eu cyflwyno i’r mamau a’r rhieni cyn i’r newid ddigwydd.

Bydd yr ymwelydd iechyd sydd wedi bod yn cefnogi’r grŵp tan nawr yn parhau i wneud hynny tan y cyfarfod ar 11 Tachwedd pan drafodir dyddiad trosglwyddo i’r tîm newydd.

Bydd y rota staff yn cael ei rannu gyda mamau yn rheolaidd fel eu bod yn ymwybodol o bwy sy’n cefnogi’r grŵp yn yr wythnosau i ddod.

A ellir pwyso fy mabi yn y grŵp bwydo ar y fron o hyd?

Roedd pwyso babanod mewn grwpiau cymorth bwydo ar y fron yn fesur a roddwyd yn ei le yn ystod pandemig Covid-19 yn sgil y saib mewn clinigau babanod ac ymweliadau cartref gan ymwelwyr iechyd.

Gan fod y rhaglen ymwelwyr iechyd llawn wedi’i hailsefydlu, ni fydd pwyso bellach yn digwydd mewn grwpiau cymorth bwydo ar y fron.

Gall rhieni fynd â babanod i’w clinig babanod lleol neu gysylltu â’u hymwelydd iechyd i drefnu i’w babi gael ei bwyso.

Dilynwch ni